Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ateb Emyr

Vaughan Roderick | 10:20, Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2009

Hyd y gwn i mae 'na ddau Emyr Lewis o bwys yn y Gymru sydd ohoni. Un yw'r cyn-gapten rygbi a'r llall yw un o fy nghyfeillion bore oes sy'n un o ddynion mawr byd y gyfraith. Rwy'n cymryd mai hwnnw wnaeth adael sylw hynod ddiddorol ar y blog ddoe! Fe dynnodd Emyr fy sylw at gymal arbennig yn adroddiad y pwyllgor dethol ynghylch yr LCO iaith sy'n dweud hyn;

"One way to achieve this would be for the Welsh Assembly Government to insert in this draft Order tests that have to be met by any Measure subsequent to this LCO, rather than trying to insert definitions themselves in the text. These might include a test of reasonableness, a test of proportionality, and a consideration of the cost to demonstrate that the application of any Measure to particular bodies or organisations will, in the long term, provide a cost-effective benefit to the public in terms of the use of the Welsh language."

Mae Emyr yn poeni'n ddirfawr am y cymal hwn. Gallwch ddarllen y sylw yn llawn yn fan hyn ond dyma hanfod ei ddadl;

Ymddengys hyn yn awgrym mwy chwyldroadol hyd yn oed na'r awgrym yn yr ELCO tai fforddiadwy y byddai angen cyd-syniad Ysgrifennydd Cymru ar gyfer caniatáu rhai mathau o Fesurau... Os cynhwysir geiriau o'r fath a awgrymir, yna bydd modd herio Mesur mewn Llys Barn ar y sail nad yw'n rhesymol, a'i fod felly tu hwnt i rym deddfu (neu gymhwysedd deddfwriaethol) y Cynulliad. Mewn geiriau eraill, byddai penderfyniad Barnwr o'r hyn sydd yn rhesymol yng nghyd-destun deddfu mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yn drech na barn Cynulliad etholedig Cymru.

Nawr Emyr yw'r pen bandit cyfreithiol nid fi, ond dwi'n meddwl ei fod yn llygad ei le. Mae'r geiriau "reasonable" a "proportianate" a'u gwreiddiau yn Neddf Iaith 1993. Y bwriad wrth eu cynnwys, os gofia i'n iawn, oedd sicrhau y byddai'r Bwrdd Iaith yn ystyried ffactorau daearyddol ac ariannol wrth arolygu cynlluniau iaith cyrff cyhoeddus. Roedd y Bwrdd Iaith yn atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol ac yn ddiweddarach i'r Cynulliad. Rheiny felly, fyddai wedi barnu a oedd y Bwrdd yn ymddwyn yn rhesymol pe bai 'na anghytundeb ynghylch cynllun iaith. Dydw i ddim yn meddwl bod achos o'r fath erioed wedi codi.

Mae 'na fyd o wahaniaeth rhwng gosod cyfyngiad ar gwango gyda gwleidyddion yn ymddwyn fel dyfarnwyr a gosod cyfyngiad tebyg ar gorff deddfwriaethol gyda barnwyr yn llechu yn y cefndir. Y broblem yw nad oes na ddiffiniad gwrthrychol o ystyr geiriau fel "reasonable" a "proportinate" yn bodoli. Mae'n rhaid i rywun yn rhywle gymryd penderfyniad sydd yn ei hanfod yn oddrychol. Fel mae Emyr yn awgrymu, yn yr achos yma dim ond y llysoedd fyddai'n gallu gwneud.

A fydd y llywodraethau yn y Bae a San Steffan yn derbyn cyngor y Pwyllgor Dethol, felly? Dim ffiars o beryg.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.