Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Anweledig

Vaughan Roderick | 15:54, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2009

Sori, os oeddech chi'n disgwyl post am "Sombreros yn y Glaw"! Politics sy gen i eto mae gen i ofn.

Mae aelodau'r cynulliad, yn enwedig y Torïaid ac ambell i aelod Llafur, mewn tymer gwael y prynhawn yma. Wel, lle anghyffyrddus o boeth yw'r siambr yn y tywydd 'ma ond ni dyna'r unig beth sy'n corddi'r aelodau.

Mae Ieuan Wyn Jones yn mynd dan groen mwy a mwy o aelodau'r dyddiau hyn. Yn ystod ei sesiwn gwestiynau fe fu'n rhaid galw am drefn droeon wrth i aelodau gwyno am oedi yn y cynllun i wella Ffordd Blaenau'r Cymoedd. Mae aelodau fel Huw Lewis ac Alun Davies wedi bod yn colbio Ieuan yn gyson ynghylch y pwnc a heddiw roedd Ieuan o'r farn bod Huw wedi dod yn agos iawn at ei gyhuddo o ddweud celwydd.

Roedd Ieuan yr un mor ymosodol wrth ymateb gan hawlio am y canfed tro (neu o leiaf mae'n teimlo fel y canfed tro) ei fod yn glynu at yr amserlen a luniwyd gan y llywodraeth Lafur diwethaf. Roedd Huw, wrth gwrs yn is-weinidog yn y llywodraeth honno. Hwyrach y bydd y ffrae yma'n tawelu ar ôl cynhadledd ddewis Llafur Blaenau Gwent ac ethol arweinydd newydd Llafur Cymru! Mae'n anodd osgoi'r teimlad weithiau bod Huw ac Alun (a Leighton Andrews efallai) yn cystadlu a'i gilydd am y teitl "Mistar Blaenau'r Cymoedd,2009"!

Roeddwn i'n cymryd y byddai pethau'n tawelu ar ôl i Ieuan adael y siambr. Trafod adroddiad gan y Pwyllgor Menter ynghylch ymateb y llywodraeth i'r argyfwng economaidd oedd y pwnc nesaf ar yr agenda. Os oedd presenoldeb ac atebion Ieuan wedi gwylltio rhai roedd ei absenoldeb o'r ddadl hon yn cynddeiriogi eraill. "Busnes pwysig" oedd esboniad John Griffiths o feinciau'r llywodraeth.

"Anghwrtais", "gwarthus", "pathetig". Roedd y cwynion o feinciau'r gwrthbleidiau bron yn ddiddiwedd. Mae cadeirydd y pwyllgor, Gareth Jones, yn aelod o Blaid Cymru ac yn ddyn hynod gwrtais ond cyfaddefodd ei fod wedi "synnu braidd".

Ydy'r gwrthbleidiau yn targedu Ieuan? Wrth gwrs eu bod nhw. Oedd hi'n gamgymeriad i Ieuan golli'r ddadl? Oedd, mwy na thebyg. Ydy Ieuan yn stryglo i ddelio a phortffolio mor enfawr? Efallai.

Gyda llaw roedd y Dirprwy Brif Weinidog mewn cynhadledd ynglŷn â'r argyfwng ariannol yn ystod y ddadl- mewn gwesty sydd a'r "Air Conditioning" mwyaf modern! Yn fwy diddorol efallai yn yr agenda gwreiddiol roedd Ieuan i fod i siarad am 4.15. toc wedi'r ddadl yn y Cynulliad. Am ryw reswm cafodd yr agenda ei newid gan ei gwneud hi'n amhosib iddo fynychu'r ddadl. Neu dyna mae rhai yn dweud,ta beth*!

* Mae pobol eraill yn dweud pethau eraill, wrth gwrs, gan nodi nad y llywodraeth wnaeth lunio agenda'r gynhadledd (er siawns ei bod wedi cytuno) a chan hawlio na fyddai chwarter awr y naill ffordd neu'r llall wedi gwneud unrhyw wahaniaeth o safbwynt mynychu'r ddadl.
.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 01:51 ar 2 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Dafydd ab Iago:

    Does neb yn dweud aerdymheru am air-conditioning!

  • 2. Am 08:49 ar 2 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Yn sicr dydw i ddim...ond dydw i ddim yn dweud sglodion am tsips chwaith!

  • 3. Am 21:30 ar 2 Gorffennaf 2009, ysgrifennodd Owain :

    Rili Dafydd ab Iago?! Rili?! Aerdymheru! Dyna yw dy sylw ar y syniad fod Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog a'r gweinidog sy'n gyfrifol am ein heconomi, efallai wedi symud apwyntiad i allu methu dadl pwysig yn son am sut mae ei lwyodraeth wedi ymateb (neu diffyg ymateb) i'r sefyllfa economaidd.

    Dwi'n anobeithio.

    A Vaughan - paid a'i annog!

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.