Ailgylchu- Groeswen (Ebrill 2007)
Rwyf wedi sgwennu ambell i ddarn ynghylch Cwm Aber a Mynydd Meio, un o filltiroedd sgwâr fy nheulu ers i'r blog gychwyn. Cyhoeddwyd y cyntaf "Mad Dog a'r Groeswen" ar drothwy etholiad cynulliad 2007.
Mae'n ddydd Sadwrn ac mae'n dawel - diolch byth. Mae'n gyfle i mi wneud y gwaith cartref ar gyfer y rhaglen ganlyniadau. Yn anffodus dwi newydd gofio fy mod wedi torri fy ngair i "Mad Dog".
Roeddwn i'n ffilmio yn Abertridwr Ddydd Iau ac yn gwneud hynny ar yr adeg fwyaf hunllefus i newyddiadurwyr teledu - y cyfnod pan mae'r ysgolion newydd droi mas. Yn ddieithriad ar yr adegau hynny mae pob un ymdrech i ffilmio yn dioddef wrth i'r "anwyliaid bach" chwifio'u dwylo at y camera neu darfu ar bethau mewn rhyw ffordd neu gilydd.
Penderfynodd "Mad Dog" ei fod am fod yn "feinder" i mi yn Abertridwr gan gadw ei fêts mas o'r ffordd a mynnu "this is the news butts..and we don't get much news in Abertridwr".
Addawais y byddai ei lysenw yn ymddangos ar wefan y Â鶹Éç fel arwydd o ddiolch. Felly diolch "Mad Dog".
Dwi'n dal i boeni am ei eiriau olaf "I've just swallowed a raw pig's eye for a bet". Lle ddiawl maen nhw'n cael llygaid moch yng Nghaerffili?
Mae Cwm Aber a Mynydd Meio wedi bod yn llefydd rhyfedd erioed. Yn fanna mae gwreiddiau fy nheulu ac i bobol sy'n ymddiddori mewn hanes mae 'na newyddion da iawn o'r ardal. Un o berlau ein treftadaeth a aeth yn angof yw , yr adeilad cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yng Nghymru. Yn y fynwent y mae beddau mawrion Fictoraidd fel Ieuan Gwynedd a Caledfryn.
Roedd fy hen dad-cu yn weinidog am ddegawdau lawer yn y Groes ac yno y priodwyd fy chwaer, Sian. Y disgwyl oedd mai priodas Sian fyddai'r briodas olaf yn y Capel, ac mai angladd fy Anti Marjorie, un o selogion y capel, fyddai'r cynhebrwng olaf.
Diolch i ymdrechion anhygoel gan Gymdeithas Hanes Caerffili, y Cynghorydd Lindsay Whittle a phenderfyniadau Alun Pugh fel gweinidog diwylliant nid felly y bu pethau. Mae adeiladwyr wrthi ar hyn o bryd yn cyflawni gwaith i adfer y capel ar gost o gannoedd o filoedd o bunnau ac mae 'na ddyfodol disglair i'r lle fel canolfan i fywyd ysbrydol a diwylliannol yr ardal.
Serch hynny, dwi ddim yn gweld nhw'n denu Mad Dog i'r lle rywsut!
Mae'r gwaith o adfer y Capel (ond nid y fynwent) bellach wedi ei gwblhau. Mae 'na fwy am hanes yr achos yn(pdf).
Gyda llaw, rwy'n falch i ddweud ein bod wedi datrys ambell i broblem gyfrifiadurol a bod yr archif cyflawn ar gael unwaith yn rhagor.