Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sibrydion

Vaughan Roderick | 20:02, Dydd Sul, 7 Mehefin 2009

Mae Betsan yn y cyfri yn Hwlffordd ond heb fynediad i'r we. Mae gen i gyfrifiadur ond pa iws yw hynny yng Nghaerdydd? Fe wnawn ni weithio rhywbeth allan!

Dyma'r sibrydion sydd o gwmpas. Dydw i ddim yn gwarantu eu cywirdeb ond mae nhw'n dod o fwy nac un blaid.

Mae Llafur ar y blaen yng Nghasnewydd ac Abertawe ond dim ond o drwch blewyn. Dyw hynny ddim yn syndod gan fod y bleidlais wrth-Lafur ar wasgar yn y ddwy ddinas. Mae'r Ceidwadwyr ar y blaen ym Maldwyn, Dyffryn Clwyd a Gwyr. Cyn i nhw ddathlu gormod, os ydw i'n cofio'n iawn, roedd yr un peth yn wir yn yr etholiadau Ewropeaidd diwethaf.

Dyw hi ddim yn ymddangos y bydd un o'r pleidiau llai (ac yng nghyswllt Ewrop mae hynny'n cynnwys y Democratiaid Rhyddfrydol) yn gwneud yn ddigon da i ennill y bedwaredd sedd. Fe fydd honno, mae'n debyg, yn mynd i ba bynnag blaid sydd ar y brig. Os nad oes 'na ail gyfri disgwylir y canlyniad am ddeg o'r gloch.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:13 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Iwan Rhys:

    Nosweth dda Vaughan. A fydd y canlyniadau fesul etholaethau unigol yn cael eu datgan, yn ogystal â chanlyniad Cymru gyfan? Does da fi ddim teledu, felly fan hyn y bydda i!

  • 2. Am 21:17 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Dewi Ogwen:

    Unrhyw sibrydion am y bleidlais Llafur/Plaid ar draws cymoedd y de.

  • 3. Am 21:34 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mi fyddan nhw p'un ai y cawn ni nhw heno sy'n fater arall.

  • 4. Am 21:37 ar 7 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Llafur yn dal 'mlaen mae'n debyg

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.