Mae'n braf cael byw mewn tÅ· haf...
Ymhen ychydig fe fydd gwefan Â鶹Éç Cymru yn cyhoeddi crynodeb o'r wybodaeth sydd ar gael ynghylch treuliau Aelodau Seneddol Cymru. Mae'n anodd cadw trac weithiau!
Alun Michael yw'r diweddaraf i ddenu sylw . Yn unol â'r rheolau oedd yn bodoli ar y pryd pan ddyrchafwyd Alun i'r cabinet fe glustnododd ei fflat yn Llundain fel ei brif gartref ac fe barhaodd a'r drefn honno nes iddo adael y llywodraeth. Digon teg.
Ond arhoswch am eiliad. Beth am y cyfnod yna pan oedd Alun yn Brif Ysgrifennydd Cymru? Dyma sydd ganddo i ddweud mewn e-bost i'r Â鶹Éç.
My main home has always been in Penarth but - in common with all Ministers - the system defined Ministers as being London-based and required Ministers to claim on the constituency home as the "second home" irrespective of any personal arrangements. That kicked in immediately when I became a Minister in 1997. Being able to change definitions is a quite recent development following a rule change, and I have now used that choice - now that I am out of Government and a back-bencher - to designate Penarth as my main home and to reflect the reality of my situation. That choice wasn't there in the past. During my time at the Assembly I was still an MP but I was intending to stand down at the general election and the question of designation never arose.
Hynny yw, os nad ydw i'n cam-ddeall, yn ystod ei gyfnod fel Prif Ysgrifennydd, Cymru oedd "ail-gartref" Alun yng ngolwg yr awdurdodau yn San Steffan. Nawr Alun yw un o'r dynion lleiaf ariangar dw i'n ei nabod a dyw e dddim o'r fath o berson i chwrae'r system ond onid oes 'na rywbeth braidd yn rhyfedd mewn arwain gwlad tra'n ei chlustnodi fel ail gartref i chi?