Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Heb ddim dŵr...

Vaughan Roderick | 09:52, Dydd Mercher, 24 Mehefin 2009

Mae na gwestiwn bach wedi bod yn fy mhoeni i. Pwy sy'n perchen dŵr Cymru? Nid siarad am y cwmni ydw i yn fan hyn ond am y stwff ei hun, y glaw sy'n syrthio ar ein gwlad ac yn llenwi ein nentydd a'n hafonydd.

Roeddwn yn meddwl am hyn yn sgil cyhoeddi sy'n rhagweld y gallai prinder dŵr fod yn broblem i Brydain, yn enwedig i Loegr, yn y dyfodol.

Nawr efallai ein bod ni yng Nghymru yn brin o arian, yn brin o waith ac yn brin o bron pob dim arall. Mae 'na ddau beth dydyn ni ddim yn brin ohonyn nhw- defaid a dŵr ! Gwell i mi adael y defaid i'r naill ochor gan bod ein yn ychwanegu at y broblem ond beth am y dŵr ? A fydd dinasoedd mawrion Lloegr yn dechrau llygadu cymoedd Cymru unwaith yn rhagor? A fydd Huw Jones yn gorfod ail-afael yn ei gitâr a ffermwyr Crai yn gorfod ail-baentio eu posteri "Dim boddi Senni"? Mae rheiny yn gwestiynau da ond mae "pwy sy'n perchen y stwff?" yn un gwell.

Un ddylai wybod yw'r Gweinidog Cynaladwyedd Jane Davidson. Fe wnes i eistedd wrth ei thraed fel rhyw "grasshopper" bach yn ceisio goleuni gan y Gwrw.

"Mae hwnnw'n un o'r cwestiynau mwyaf cymhleth ac astrus yn y setliad" meddai'r Gwrw Davidson. "Cymerwch chi lifogydd. Os ydy afon yn torri ei glannau mae hynny'n fater i ni... ond os ydy glaw trwm yn crynhoi ac yn achosi llifogydd nid ni sy'n gyfrifol"

"Ond cyfrifoldeb yw hynny, Gwrw. Pwy piau'r dŵr? Pwy yw'r perchennog?"

"Wel, fy ngheiliog rhedyn bach. Mae asiantaeth yr amgylchedd sy'n gorff traws-ffiniol yn llunio cynlluniau ar gyfer afonydd gan bennu llif y dŵr a rheoleiddio pwy sy'n cael cymryd dŵr o'r afon"

"Ond rheoleiddio yw hynny. Cyn i mi golli fy nhymer, goleuedig un, pwy yw'r blydi perchenog- y Goron? Y Cynulliad? Cwmnïau dŵr? Perchnogion tir?"

"Um..."

Rwyf wedi newid ambell i air ond mae hynny'n grynodeb digon teg o'n sgwrs. Onid oes angen gwell ateb i'r cwestiwn? Cyn preifateiddio'r diwydiant dŵr roedd rhai yn dadlau y dylai pobol Cymru dderbyn breindal am ein dŵr. Wedi'r cyfan ni sy'n gorfod goddef y stwff yn syrthio ar ein pennau... ond ai ni yw'r perchnogion?

Gadewch i ni fyfyrio am y peth wrth wylio ffilm fer am foddi Capel Celyn a gwrando ar fiwsig Bob Delyn. Katycat3 a'i gwnaeth.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:48 ar 24 Mehefin 2009, ysgrifennodd Hogyn o Rachub:

    Rwyt ti'n iawn, y cwestiwn mawr ydi os bydd dinasoedd Lloegr eto'n troi at Gymru a'i dyffrynnoedd am ddwr, a fydd yr 'amddiffyniad Cymreig' chwedl Saunders yno y tro hwn? Ar ôl goblygiadau Tryweryn, fel y twf fu mewn cenedlaetholdeb (rhaid dweud heb Dryweryn ni fyddai Plaid Cymru yr hyn ag yw heddiw) a fyddai San Steffan yn mentro caniatáu mesur o'r fath drachefn?

    Hyd y gwn i yr unig ffordd o atal sefyllfa arall yn codi'i phen fyddai naill ai Cymru annibynnol neu senedd rymus gyda phwerau penodol iawn dros y diwydiant dwr yng Nghymru.

  • 2. Am 11:59 ar 24 Mehefin 2009, ysgrifennodd bendigeidfran:

    Fon - dwi'n credu hefyd bod Cwmni Dwr Hafren-Trent wedi llwyddo i dderbyn cyflenwad dwr o gronfeydd yn y canolbarth, sydd wrth gwrs ar dir Cymru ac felly yn gyfrifoldeb i Ddwr Cymru, a hynny am bris llwer is na'r farchnad a hynny am gyfnod sylweddol o amser. Y broblem yma ydi'r rhagolygon am newid hinsawdd fel a ddywedir yn eich blog - beth wedyn? Fydd y cyflenwad rhad yma o ddwr i ddinasoedd canolbarth Lloegr yn parhau pan fydd yna brinder mawr am ddwr yn debygol o fod yn ffactor? Fydd y cynulliad yn cael yr hawl i godi pris teg am y dwr? Diwedd y gan ydi'r un peth pob tro, ac er bod dwr yn disgyn o'r awyr - ydi lle mae dwr yn cronni ar wyneb y ddear yn dod o dan ddeddfau perchnogaeth (cyfraith DU/Ewrop) yn yr un ffordd ac y mae olew sy'n cronni o dan y ddear yn ei wneud?
    Y peryg ydi bod hyn yn broblem anferthol i'r dyfodol onibai ei fod yn cael ei ddatrys rwan.

  • 3. Am 12:55 ar 24 Mehefin 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Mae rheiny i gyd yn gwestiynau da. Dyna'r union bwyntiau yr oeddwn yn ceisio codi. Beth sydd hefyd yn fy mhoeni oedd bod gan wrthwynebwyr Tryweryn, Clywedog ayb gyfnodau sylweddol o amser i ddadlau eu hachos oherwydd bod angen mesurau seneddol i hyrwyddo'r cynlluniau. Dyw hynny ddim, o reidrwydd, yn wir erbyn hyn. Pe bai llywodraeth y DU yn trin codi cronfa fel cynllun o bwys cenedlaethol (hy Prydeinig) fe fyddai'n bosib osgoi'r Cynulliad a Senedd San Steffan bron yn llwyr.

  • 4. Am 13:49 ar 24 Mehefin 2009, ysgrifennodd bendigeidfran:

    Heb fod yn 'sensationalist' am y peth Fon - ond dyma un achos perffaith yn y dyfodol a fyddai'n achosi rhwyg go wir yn y DU. Mae cwestiwn yr olew yn yr Alban wedi gyrru llawer o lwyddiant yr SNP - yn enwedig yn y '70au, ac fel nodwyd gennych a gan Hogyn o Rachub mae problemau dwr wedi gwneud yr un peth yng Nghymru ar raddfa lai.
    Byddai hyn yn ddim i'r sefyllfa pe byddai yna brinder gwirioneddol o ddwr yn Lloegr a digonnedd ohonno yng Nghymru. Er mwyn osgoi cymlethdodau i'r sefydliadau gwleidyddol ym Mhhrydain yn y dyfodol beth bynnag a fyddent mae angen setlo'r mater rwan. Problem hyn yn y bon wrth gwrs ydi sofraniaeth.
    Da o beth i gofio mai prif yrrwr cychwyn y rhyfel cartref yn UDA oedd ffactorau economaidd a rwedyn rhai diwylliannol yn hytrach na rhai moesol ac egwyddorol.

  • 5. Am 15:32 ar 24 Mehefin 2009, ysgrifennodd Mabon:

    Yn ol deddf llywodraeth cymru, San Steffan sydd yn dal y grym ar ddwr Cymru:

    Intervention in case of functions relating to water etc. .(1)
    This section applies where it appears to the Secretary of State that the exercise of a relevant function (or the failure to exercise a relevant function) in any particular case might have a serious adverse impact on— .
    (a)
    water resources in England, .
    (b)
    water supply in England, or .
    (c)
    the quality of water in England. .
    (2)
    The Secretary of State may intervene under this paragraph in that case, so that— .
    (a)
    the Secretary of State may in that case exercise the function, and .
    (b)
    the person or persons on whom the function is conferred or imposed may not in that case exercise the function.

    Os mai gwas San steffan sydd gyda'r penderfyniad terfynol/yn dal veto ar benderfyniadau yn ymwneud a dwr, yna, yn rhesymegol, San Steffan sydd yn 'berchen' y dwr.

    Mae'r ddeddf, fel y gwelir uchod, wedi ei hysgrifennu yn ddigon annelwig fel fod y diffiniad o "serious adverse impact on (a)water resources in England" yn dibynnu yn llwyr ar ble mae rhywun yn byw. Mae rhannau o de ddwyrain Lloegr eisioes yn cael eu hystyried yn anialwch (yn ol y diffiniad o faint o law sy'n disgyn yno), ac mae'r cyflenwad cyson gorau o ddwr sydd agosaf ac yn gymharol hygyrch yma yn ucheldiroedd Cymru. Byddai i lywodraeth y Cynulliad wrthod Tryweryn arall yn cael "serious adverse impact on (a)water resources in England".

    Faint yn fwy o ddweud fyddai gan Gymru yn 2009 i Gymru yn 1965? Mae'n ymddangos fel dim.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.