Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Clustiau i wrando

Vaughan Roderick | 14:26, Dydd Gwener, 5 Mehefin 2009

Mae ambell i awgrym yn dechrau ein cyrraedd ynghylch etholiadau Ewrop. Mae'r nifer wnaeth droi allan yn llai na deg ar hugain y cant yn y rhan fwyaf o etholaethau seneddol Cymru. Mae 'na sôn hefyd bod Llafur wedi disgyn i'r drydydd safle yn Llanelli a Dwyrain Caerfyrddin gan golli i Blaid Cymru ac UKIP yn y ddwy etholaeth. Fe gawn weld!

Mae'n ddiddorol bod y Ceidwadwr Guto Bebb wedi darogan y bydd UKIP yn cipio sedd yng Nghrymu. I wneud hynny fe fyddai'n rhaid i'r Blaid ddod yn bedwerydd ac ennill 50% + 1 o bleidlais pa bynnag blaid sydd ar y brig. Byswn i'n tybio bod hynny'n golygu rhyw 15% o'r bleidlais. 10.5% cafodd y blaid tro diwethaf. Amser a ddengys.

Roedd Guto yn siarad ar Dau o'r Bae. Gallwch glywed y rhaglen trwy danysgrifio i'r podlediad ac ar iPlayer.

ON: Mae ymgeisydd yr "English Democrats" wedi ei ethol yn faer Doncaster. Diawch mae rhain yn etholiadau rhyfedd!

Diweddariad; Yn ôl y prif swyddog etholiadol pleidleisiodd 30.5% o etholwyr Cymru ddoe. Mae hynny ychydig yn fwy na'r disgwyl.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:39 ar 6 Mehefin 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Oes unrhyw fanylion am etholaethau unigol neu ranbarthau. Roeddwn yn deall fod y nifer wnaeth bleidleisio yn isel ond heb wybod am nifer y pleidleisiau post mae'n anodd darogan. Yn draddodiadol mae rhai ardaloedd wedi bod yn gryfach na'i gilydd ee ardaloedd sy'n gefnogol i Blaid Cymru sy'n golygu fod ei pleidlais yn gryfach na gwir lefel y gefnogaeth ydi hyn yn wir y tro hwn ? Dwi yn amau fod pob ardal ar ei lawr ac mae'n ddigon posib i UkIP ddod yn agos iawn. Yr hyn sy'n amlwg yw fod cefnogwyr Llafur heb droi allan dwi ddim yn siwr faint sydd wedi newid ei lliw.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.