Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwinllan a roddwyd

Vaughan Roderick | 22:13, Dydd Iau, 21 Mai 2009

Roeddwn yn ofni hyn! Mae ambell i un wedi fy nghyhuddo o rawnwin surion trwy grybwyll y problemau technegol ar safle Golwg360. Fe wnes i gau'n nhrap am ddyddiau gan bryderu y gallai hynny ddigwydd.

I fod yn gwbwl eglur rwyf yn awchu i weld Golwg360 yn llwyddo am sawl rheswm. Yn bennaf fe fyddai hynny yn arf wrth i ni ddadlau dros ragor o adnoddau i wasanaethau arlein Cymraeg y Â鶹Éç.

"Damned if you do, damned if you don't" fel mae'n nhw'n dweud.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 22:32 ar 21 Mai 2009, ysgrifennodd siomedig:

    Paid a phoeni V, beth oeddet fod i ddweud, ei fod yn wych?! Cer i maes-e.com i weld y drafodaeth parthed y safle. Siom, siom a mwy o siom. A ddylet deimlo'n wahanol oherwydd dy fod yn gweithio i'r Â鶹Éç?

  • 2. Am 10:20 ar 22 Mai 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Sdim angen i ti wisgo'r cap yna Vaughan. Gadwes di'n dawel gan roi digon o amser i golwg fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.

    Yn farn i, y peth gorau i'w wneud nawr fyddai cau golwg360 lawr am rhyw fis a sortio'r peth mas yn iawn. Byddai'n werth iddynt galw rhyw 6 o bobl ynghyd - pobl blog metastwnsh.com (siwr fydde nhw'n rhatach na chael rhyw 'arbenigwyr' fewn) a gwrando ar eu sylwadau positif nhw.

    Mae pawb am i hwn lwyddo, gan gynnwys ochr Gymraeg y Â鶹Éç dwi'n siwr. Cau lawr a dechre eto yw'r unig opsiwn nawr. Mae jyst angen ail-wampio'r edrychiad, y cynnwys (plis gawn ni golofnwyr difyr a phryfoclyd), RSS, ymatebion etc. Pam ddim cwmpasu www.maes-e.com mewn i'r wefan?

  • 3. Am 00:04 ar 23 Mai 2009, ysgrifennodd hedd:

    Lot o drafod ar maes-e.com -

    Heb eich gweld ers amser ar y maes Vaughan. Mae croeso i chi gyfrannu unrhyw bryd heb gyfyngiadau'r Â鶹Éç. ;-)

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.