Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cyrddau mawr

Vaughan Roderick | 21:04, Dydd Iau, 28 Mai 2009

Mae'n benwythnos y cyrddau mawr neu felly mae'n ymddangos. Roeddwn i'n meddwl mae'r tripiau ysgol Sul oedd yn digwydd yn ystod wythnos y Sulgwyn nid y cyfarfodydd pregethu! Dyna i chi'r bregeth Jonathan Morgan heno ac yfory mae'n debyg y bydd gan arweinydd Plaid Cymru bethau mawr i ddweud am ddyfodol y cynulliad a strategaeth wleidyddol ei blaid.

Fyw i mi dorri embargo ond mae'r dirprwy brif weinidog yn bwriadu codi pwynt nad oedd wedi fy nharo i sef effaith y sgandalau yn San Steffan ar y posibilrwydd o refferendwm ynghylch cynyddu pwerau'r cynulliad. Fe fydd Ieuan yn cyflwyno ei achos ar Radio Cymru a Radio Wales yn y bore a dwi'n meddwl bod 'na gryn sylwedd i'w ddadl yn nhermau strategol.

Un o'r dywediadau gwleidyddol mwyaf poblogaidd ar hyn o bryd yw'r un a fathwyd gan Rahm Emanuel, pennaeth staff yr Arlywydd Obama sef "never waste a good crisis". Ystyr arwyddair Emanuel yw mai yn ystod cyfnodau anodd y daw'r cyfle i sicrhau newidiadau sylfaenol. Mae hynny'n gwbwl groes i'i hyn ddywedodd yng nghynhadledd y Blaid Lafur Gymreig yn ddiweddar.

"Some might have thought it a tactical blunder for Plaid Cymru, at their recent Spring Conference, to have gone all gung-ho over independence for Wales, just as the vulnerabilities of small nations all over Europe have been so cruelly exposed by the shock waves of the credit crunch"

Mae'n debyg bod Ieuan yn talu mwy o sylw i'r dyn yn y TÅ· Gwyn na'r boi yn y swyddfa drws nesaf!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:26 ar 29 Mai 2009, ysgrifennodd FiDafydd:

    Dwi'n hynod o falch fod IWJ a'r Blaid yn bod yn hirben o ran yr hyn sydd wir ei angen ar Gymru a'r Cynulliad, ond hefyd am wneud hynny mewn ffordd wleidyddol graff!

  • 2. Am 07:34 ar 31 Mai 2009, ysgrifennodd D. Enw:

    Da iawn IWJ. Dwi'n synnu a dweud y gwir ei bod wedi bod cyn hired i'r Blaid wneud y cysylltiad rhwng diffyg awdurdod moesol San Steffan a'r ffordd llawer gwell mae'r Cynulliad yn gweihtio.

    Yn hytrach na chynnig ffyrdd o wneud i San Steffan weithio'n 'well' fel mae rhai Pleidwyr, hoffwn i weld nhw'n gofyn pam fod angen San Steffan o gwbwl?

    Does dim y gall San Steffan wneud na all ein Senedd ni.

    Beth am sylwadau sarhaus (eto fyth) gan Eluned Morgan at Estonia yn y WM rai ddyddiau'n ol? A ydy'r Estoniaid yn gwybod fod ASE Llafur yn eu defnyddio fel short-hand ar gyfer potato republic? Ydi Plaid am roi gwybod i lysgennad ac ASE Estonia?!


Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.