Wel, Dyna Sypreis!
Fe fydd 'na fwy am hyn yn ystod y dyddiau nesaf ond gesiwch beth? Mae'r LCO Iaith mewn trafferth eto! Wel dyna syndod.
Ydych chi'n cofio'r awgrym yna bod popeth wedi ei setlo, bod y gorchymyn ar ddesg Paul Murphy ac y byddai'r Ysgrifennydd Gwladol yn ei gymeradwyo i'r cabinet rhywbryd ym Mis Ionawr? Roedd 'na hyd yn oed dyddiad yn cael ei grybwyll- Ionawr 26.
Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf. Diawch, waeth i mi dorri a phastio'r hyn wnes i ysgrifennu ar Ragfyr y degfed.
"Ydych chi'n cofio'r LCO iaith- y cais oedd i fod i gael ei gyhoeddi yn ôl yn y Gwanwyn?
Fe drodd y Gwanwyn yn Haf a'r Haf yn Hydref. Tan heddiw'r addewid oedd y byddai'r cais yn ymddangos "cyn y Nadolig" . Y prynhawn yma yn siambr y cynulliad cyhoeddodd Yr ysgrifennydd Gwladol bod adrannau Whitehall bellach wedi cwblhau'r broses o astudio'r cais. Fe fydd yr LCO felly yn cael ei gyhoeddi. Pryd? Wel, "yn y flwyddyn newydd".
Rhai dyddiau yn ôl clywais fod un o swyddogion Plaid Cymru wedi sgwennu cân "All I want for Christmas is my language LCO". Dim ffiars o beryg".
Beth yw'r broblem y tro hwn? Traed oer yn Swyddfa Cymru ynghylch sancsiynau cyfreithiol yn erbyn Gweinidogion y Goron efallai?
Diweddariad; Mae Llywodraeth y cynulliad yn ymateb i flogs y dyddia 'ma! Dyma'i datganiad;
"Gwnaeth y Prif Weinidog yn glir ddoe ein bod am gyhoeddi'r LCO arfaethedig yn fuan. Dydi llywodraethau ddim yn rhoi sylw ar drafodaethau dydd i ddydd, ond rydyn ni'n edrych ymlaen at gael trafodaeth lawn ar yr LCO pan fydd wedi ei gyhoeddi. Nid ydym yn cynnig sylw ar unrhyw ddyfalu"
SylwadauAnfon sylw
Beth bynnag ydi'r broblem y tro hwn, rhaid dweud bod yr holl beth yn troi'n jôc erbyn hyn!
Maen hysbys na fydd sgôp yr LCO yn ddigon eang i gyflwyno deddf fydd yn rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg ym mhob sffêr o fywyd cyhoeddus Cymru felly maen ddychryn meddwl fod y gweision sifil yn Whitehall wrthi yn ceisio ei wanhau ymhellach fyth ar hyn o bryd.
Pwy wahaniaeth mae e'n gwneud i Vaughan Roderick ?? Nid job y Â鶹Éç yw i fod o blaid neu yn erbyn yr LCO, dim ond i weud beth sydd yn digwydd heb 'fear or favour'.
Os ca'i amddiffyn VR yn erbyn BG, dydw i ddim yn gweld lle yn yr erthygl yma mae VR yn deud ei fod o blaid neu yn erbyn yr LCO.
Yr unig farn bersonol y mae'n ei mynegi yw: "Dw i bron wedi alaru ar sgwennu'r paragraff nesaf." Dydi ddim o blaid nac yn erbyn yr LCO, 'mond yn mynegi ei rwystredigaeth fel newyddiadurwr nad yw'r "stori" wedi symud yn ei blaen. Sdim o'i le ar hynny.