Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

°Õ°ùê±ô²õ

Vaughan Roderick | 13:01, Dydd Iau, 22 Ionawr 2009

Rwy'n gobeithio nad yw hyn yn arwydd o'r hyn sy'n debyg o ddigwydd i economi Cymru! Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi penodi rheolwr gyfarwyddwr newydd i ofalu am gynaladwyedd. Ar hyn o bryd mae Clive Bates yn un o uchel swyddogion y Cenhedloedd Unedig... yn Sudan.

Mae dwy o raglenni gwleidyddol Â鶹Éç Cymru yn dychwelyd yr wythnos hon. Mae 'na ddwy stori dda iawn ar "Dragon's Eye" heno un ymwneud ac iechyd ac llall a'r iaith. Ar Â鶹Éç1 yn unig fydd "Dragon's Eye o hyn ymlaen. Yfory fe fydd "Dau o'r Bae" (a'r podlediad) yn dychwelyd. Jon Owen Jones, Roger Roberts, Sarah Hill a Brieg Powell yw'r gwesteion. I'r rheiny sy'n mwynhau "Rialtwch" y penwythnos fe fydd 'na ail "sioe" ar y blog Ddydd Sul oherwydd nifer yr awgrymiadau a dolenni sydd wedi dod i law.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:30 ar 22 Ionawr 2009, ysgrifennodd Iestyn:

    Wy'n credu bod lot gyda ni i ddysgu gan y Sudan ac ardaloedd tebyg, Mr Roderick!

    Yn y flynyddoedd sydd i ddod, pan ddaw olew rhad i ben, gyda dirwasgiadau, cyflenwad pwer simsan a ninnau'n gorfod dibynnu ar ein tir a'n adnoddau'n hunain i fyw, pa werth fydd technoleg drud a chymhleth, ag economi goobaleiddiedig?

    Gwell fydd defnyddio technoleg trydydd byd y gall mecanig y ffarm ei drwsio, gwella'n gallu i ddefnyddio yr hyn sydd gyda ni (yn hytrach na rhedeg ar ol beth sy gyda Lloegr / America / Tseina neu ta pwy sy'n ffasiynol ar y pryd), a datblygu economi a ffordd o fywyd ar gyfer ni'n hunain.

    Oni dyn yw hanfod gwaith datblygu yn y Sudan, hefyd?

  • 2. Am 20:59 ar 22 Ionawr 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Trels ? Yn siwr "Gweud beth sy'n dod" ?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.