Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mater o deyrngarwch

Vaughan Roderick | 12:40, Dydd Llun, 5 Ionawr 2009

Mae un o gryts fy nheulu yn wynebu argyfwng. Er ei fod yn un o selogion y "Spar Family Stand" ym Mharc Ninian penderfynodd y bychan ei fod am gael tîm i gefnogi yn uwch gynghrair Lloegr a chystadlaethau Ewrop. Er mwyn efelychu Aaron Ramsey penderfynodd mai Arsenal fyddai'r tîm hwnnw. Nawr, beth sydd wedi digwydd? Cwpan yr FA, y bedwaredd rownd. Caerdydd v Arsenal. Och! Gwae ni! Beth i wneud? Pwy i gefnogi? Mae penderfyniadau fel 'na'n anodd yn ddeg oed!

Mae teyrngarwch emosiynol yn bwysig mewn gwleidyddiaeth hefyd. Mae cysylltiad plaid a'i chefnogwyr yn aml iawn yn dibynnu'n fwy ar emosiwn a "ffyddlondeb i'r tîm" nac ar unrhyw benderfyniad polisi neu rinwedd yn yr arweinyddiaeth. Dyna yw'r rheswm, mae'n debyg, am y casineb tuag at unrhyw un sy'n newid plaid. Mae Alun Davies yn dioddef hynny ar hyn o bryd ac er nad yw e wedi cymryd y cam olaf trwy ymuno â Phlaid Cymru mae Ron Davies yn destun gwawd yn rhengoedd y Blaid Lafur.

Go brin bod unrhyw un wedi dioddef yn fwy o'r ffenomena nac Elystan Morgan. I'r rheiny sy'n rhy ifanc i gofio safodd Elystan dros Blaid Cymru ym Meirionnydd yn 1964. Ef oedd y "Gwynfor ifanc"- mab darogan ei blaid. Erbyn 1966 roedd wedi troi at Lafur gan ennill Ceredigion i'r blaid. Collodd ei sedd yn 1974 a methiant fu ymdrech i ddychwelyd i'r senedd fel aelod Llafur Ynys Môn.

Eironi'r stori yw bod Elystan wedi cam-ddarllen y sefyllfa wleidyddol yng Nghymru. O fewn misoedd i'w ethol yn 1966 daeth is-etholiad Caerfyrddin. Does dim dwy waith yn fy meddwl i y byddai Elystan wedi ennill Meirionnydd neu Geredigion i Blaid Cymru yn 1970 neu 1974 pe bai heb newid ei blaid. Dw i'n argyhoeddedig hefyd y byddai wedi dal y naill sedd neu'r llall heb fawr o drafferth mewn etholiadau dilynol.

Nawr, mae Elystan wedi cael bywyd da a llawn fel arglwydd a barnwr. Serch hynny mae'n anodd peidio teimlo bod 'na elfen o drasiedi a gwastraff ynghylch ei yrfa. Ar ben hynny fe wnaeth ddioddef blynyddoedd o wawd a chasineb gan genedlaetholwyr. "Athelstan Organ" oedd Elystan yn ôl "Lol" ac roedd posteri yn ei wawdio ar welydd colegau a stondinau `steddfod. Trwy hyn oll fe gadwodd ei urddas. Glynodd at ei egwyddorion gwleidyddol hefyd gan arwain yr ymgyrch "Ie" yn refferendwm 1979- jobyn di-ddiolch os buodd un erioed!

Y cwestiwn sy' gen i yw "pam?"- ond nid cwestiwn i Elystan yw hwnnw. Mae'n ddigon hawdd deall y cymysgedd o rwystredigaeth ac uchelgais wnaeth arwain at ei benderfyniad yntau. Yn hytrach mae'n gwestiwn i gefnogwyr Plaid Cymru a'r pleidiau eraill. Pam y casineb parhaol tuag at Elystan ac eraill? Pam mae Alun Davies a Ron Davies yn cael eu dirmygu? Ydy unrhyw un sy'n newid ei feddwl yn "fradwr"? Sut mae rhyw un sy'n cael ei ganmol fel arwr un diwrnod yn gallu troi'n ddarn o faw ci dros nos?

Mae teimlad o siom, dicter hyd yn oed, wrth i rhyw un adael plaid yn ddealladwy- ond oes rhaid i'r peth bara am byth?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:28 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd HogygogAdferwr:

    Efallai fod gweithredoedd pobl ar ol iddynt newid eu teyrngarwch yn reswm dros y casineb. Bu Elystan Morgan yn elyniaethus i sefydlu Ysgol Penweddig yn Aberystwyth ( dilyn polisi'r blaid Lafur ar y pryd ) . Os y gwnewch ddarllen hunangofiant Robyn Lewis , mae yntau'n son iddo newid ei blaid yn aml - ond byth ei syniadau. Mae nifer o wleidyddion yn newid eu plaid yn ol y gwynt gwleidyddol ffafriol ar y pryd, ac yn amlach na pheidio, mae'r casineb a ddangosir at eu cyn-gyfeillion yn waeth na'r casineb a ddangosir atynt.
    Serch hynny, credaf i Elystan Morgan fod yn wr bonheddig drwy gydol ei yrfa , ac mae meddwl uchel bellach ohono ymysg gwerin Ceredigion.

  • 2. Am 17:39 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Dylan:

    "Sut mae rhyw un sy'n cael ei ganmol fel arwr un diwrnod yn gallu troi'n ddarn o faw ci dros nos?"

    roedd aelodau Plaid Cymru'n galw Elystan ac Alun Davies yn arwyr cyn iddynt newid lliwiau? Go brin, er dw i'n cytuno'n llwyr y byddai Elystan wedi creu lot mwy o argraff petai wedi aros efo'r Blaid. Ond dyna ni, dw i'n deall pam y gwnaeth y penderfyniad ar y pryd ac mae wedi chwarae'i ran, yn sicr. Ond collwyd cyfle, mae'n wir.

    Am wn i, un rheswm pam fod pobl fel Alun Davies yn destun gwawd ymysg rhai aelodau PC ydi ei fod yn fwriadol mynd ati i bryfocio'r blaid y mae'n tybio iddi ei fradychu mewn rhyw ffordd. Fe ddichon fod ceisio profi i'w blaid newydd ei fod o ddifri hefyd yn ffactor. Ond mae'n wir yn ogystal bod ymdeimlad o "frad" ymysg selogion y Blaid am resymau emosiynol hefyd; anodd anghytuno bod lot o draddodiad teuluol neu blwyfol yn chwarae'i ran mewn gwleidyddiaeth ym mhob rhan o'r byd yn ogystal ag yng Nghymru, ac efallai'n wir yn fwy felly mewn mudiadau cenedlaethol.

    Er hynny, fel cefnogwr PC rhaid dweud does gen i ddim lot o broblem ag Alun Davies o gwbl dweud gwir a dw i'n credu ei fod wedi gwneud ei farc yn y Senedd yn weddol llwyddiannus.

    felly, hmm, wn i ddim wir!

  • 3. Am 21:47 ar 5 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Pwynt cwbwl deg ynghylch Penweddig. Roeddwn wedi anghofio am y ffrae arbennig yna!

  • 4. Am 15:21 ar 6 Ionawr 2009, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Y trwbwl yw fod rhesymau rhai pobl am wneud y 'switch' yn effeithio pawb arall.

    Ar ol i Shaun 'two butlers' Woodward hopio i mewn i'r gwely efo'r blaid Lafur, roedd dim llawer o siawns fyddai symudiad Quentin Davies yn cael ei weld fel un egwyddorol.

  • 5. Am 18:08 ar 7 Ionawr 2009, ysgrifennodd Negrin:

    Doedd Elystan ddim yr unig un mi aeth Gwilym Prys Davies hefyd ac mae'n ddiddorol darllen llyfr Gwilym ar hanes y Blaid Lafur ers 1945 i weld mae rheswm ideolegol oedd y penderfyniad.

  • 6. Am 21:23 ar 7 Ionawr 2009, ysgrifennodd Hogygog:

    Fe allaf weld sut mae rhywun yn newid o'r blaid Lafur i blaid Cymru, neu i'r
    gwrthwyneb. Gallaf weld sut mae rhywun yn newid o PC i'r Lib Dem , neu'n ol (Fel sydd wedi digwydd ar gyngor Ceredigion) . Fe wnaeth Peter Hain
    newid o'r rhyddfrydwyr ifanc i'r Blaid Lafur. Credaf i Winston Churchill newid o'r Toriaid i'r Rhyddfrydwyr ar un cyfnod.
    Ni allaf , serch hynny , ddeall sut y mae As yn gallu newid, ar ganol senedd, o'r Blaid Lafur i'r Blaid Doriaidd (Neu'r gwrthwyneb). Mae gwahaniaethau'r ddwy blaid yn economiadd enfawr (ac wedi cynyddu yn ystod yr argyfwng diweddar). Mae'n cymeryd rhyw wyneb aruthrol i
    groesi llawr y ty cyffredin a brolio'ch ffrindiau newydd. Nid wyf yn deall sut mae pobl o'r fath yn gallu parhau i dynnu cyflog .
    Nid wyf yn gallu cofio droedigaethau mawr yng Nghymru (O ran ASau) . A all rhywun cynnig rhai ?

  • 7. Am 21:51 ar 7 Ionawr 2009, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Roedd 'na rai aeth o Lafur i'r SDP ac roedd sawl Rhyddfrydwr yn ochri 'da'r Ceidwadwyr gan wisgo mantell "National Liberal". Dydw i ddim cweit yn deall hyd heddiw i ba blaid yr oedd Gwilym Lloyd George yn deyrngar! Fe wnaeth e wasanaethu yn y senedd fel "Liberal" " National Liberal" a " Liberal & Conservative"! Fe wnaeth yr aelod Llafur Desmond Donnelly ffurfio ei blaid ei hun yn Sir Benfro. Fe wnaeth e ddiweddu fel Tori ond roedd wedi colli ei sedd erbyn hynny.

  • 8. Am 16:53 ar 18 Ionawr 2009, ysgrifennodd monwynsyn:

    Dwi yn meddwl ei bod yn anodd pan ei bod yn eglur mai uchelgais bersonol yw'r cymhelliad a bod yr uchelgais honno yn drech na unrhyw egwyddor neu amcan wleidyddol.

    Gallwn gydymdeimlo os yw unigolyn yn newid ei got er mwyn gwireddu egwyddor ond mae yn anoddach pan mae'n amlwg mae dyrchafiad personol sydd yn y fantol.

    Pam y casineb wel natur ddynol. Dwi ddim yn gweld llawer yn parhau yn ffrindiau ar ol ysgaru oni bai fod cymhelliad - ee plant.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.