Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Kirsty, Elvis a Colonel Sanders

Vaughan Roderick | 14:00, Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2009

Mae'n anodd credu weithiau ond ymhen ychydig fisoedd fe fyddwn ni hanner ffordd trwy oes y trydydd cynulliad. Dyw e ddim yn teimlo felly. Efallai mai'r rheswm am hynny oedd bod y trafodaethau clymblaid ac yna salwch Rhodri Morgan yn golygu bod misoedd wedi mynd heibio ar ôl yr etholiad cyn i lywodraeth "Cymru'n Un" gychwyn ar ei gwaith go iawn.

Dydw i ddim mewn gwirionedd yn deall pam ond yn ddiweddar mae ambell i flogiwr a newyddiadurwr wedi codi cwestiynau ynglŷn â dyfodol y glymblaid honno. Maen nhw'n honni y gallai rhyw glymblaid wahanol ddod i rym rhywbryd rhwng nawr a'r etholiad nesaf. Hwyrach eu bod yn hiraethu am y cyfnod rhyfedd hwnnw o gyffro a ffars yn ystod haf 2007! I fod yn onest dydw i ddim yn gweld pam na ddylai'r llywodraeth bresennol barhau. Fe fyddai angen cwympo mas difrifol neu gythraul o esgus da i'r naill blaid neu'r llall torri cytundeb a chefni ar ei phartner.

Serch hynny mae rhai yn dal i fynnu bod yr hinsawdd wedi newid gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi newid arweinydd a newid tebyg ar y gorwel i Llafur. Mae 'na bob math o sibrydion (di-sail dw i'n meddwl) o gwmpas am gyfarfodydd dirgel rhwng Kirsty Williams a rhyw ddarpar arweinydd Llafur neu'i gilydd.

Fe wfftiodd Kirsty y sibrydion yn blwmp ac yn blaen heddiw. Yr unig ymgeisydd posib yr oedd hi wedi cwrdd ag ef oedd Carwyn Jones, meddai, a hynny ar hap a damwain mewn bwyty KFC cyn gêm rhwng y Sgarlets a'r Gweilch. Ydy hi'n bosib bod dyfodol llywodraeth Cymru wedi ei benderfynu dros "Bargain Bucket" a "Viennetta"?

Go brin. Mae'r rheiny sy'n meddwl y gallai Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol gyrraedd rhyw fath o ddêl yn anghofio ffaith bwysig. Oherwydd salwch Karen Sinclair fe fyddai mwyafrif llywodraeth coch/melyn yn un hynod o fregus. Mae Llafur wedi profi'r artaith yna o'r blaen. Pam ar y ddaear y byddai plaid sy'n arwain llywodraeth â mwyafrif swmpus yn dewis rhoi ei hun mewn yn ôl mewn sefyllfa lle'r oedd pob un bleidlais yn dibynnu ar fympwy Trish Law a gallu Brian Gibbons i wthio'r botwm cywir?

O safbwynt Llafur fe fyddai ysgariad yn boenus a pheryglus i bwy bynnag sy'n arwain y blaid. Mae Huw Lewis, hyd yn oed, wedi datgan yn gyhoeddus y dylai'r blaid gadw at ei gair gan sicrhâi bod y llywodraeth bresennol yn para am dymor cyfan.

Ond beth am y partner arall yn y briodas? Mae'n ddigon hawdd dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud y penderfyniad anghywir trwy wrthod yr enfys yn 2007. Os gofiwch chi fe wnaeth Ieuan Wyn Jones gyfiawnhau ei benderfyniad i fod yn ddirprwy yn hytrach na'n brif weinidog trwy honni mai dim ond trefniant â Llafur fyddai'n sicrhâi refferendwm cyn 2011.

Oes unrhyw un yn disgwyl y bydd hynny'n digwydd? Mae'n haws gen i gredu y bydd Elvis yn cael ei ddarganfod yn gweithio mewn siop tsips yn Nhreorci. Serch hynny fe fyddai cerdded allan o'r llywodraeth yn ergyd andwyol i hygrededd Ieuan Wyn Jones- yn gyfaddefiad o ddiffyg crebwyll gwleidyddol. Hyd y gwn i does na ddim cynllwyn yn rhengoedd Plaid Cymru i newid arweinydd a thra bod Ieuan wrth y llyw mae "Cymru'n Un" yn ddiogel.

Fe ddywedodd Kirsty Williams heddiw ei bod hi'n bwriadu arwain ei phlaid yn ôl mewn i lywodraeth Cymru. Dydw i ddim yn gweld unrhyw ffordd iddi wneud hynny cyn etholiad 2011.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.