Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Wyt ti'n Cofio...

Vaughan Roderick | 10:15, Dydd Sul, 21 Rhagfyr 2008

Roeddwn wrth fy modd yn darllen y ynghylch agor Neuadd Beasley yn Llangennech. Mewn sawl ystyr Eileen Beasley oedd Rosa Parkes y mudiad iaith yng Nghymru- y fenyw gyffredin -ond anghyffredin- wnaeth ddweud "digon yw digon" a thrwy hynny symbylu mudiad cyfan.

Rhai blynyddoedd wedi helyntion y dreth roedd Mrs Beasley yn un o'n athrawon yn Ysgol Rhydfelen a dydw i ddim yn rhyfeddu bod Cyngor Gwledig Llanelli wedi gorfod ildio iddi. Os oedd Mrs Beasley yn penderfynu bod hi am gael rywbeth fe fyddai'n ei gael yn y diwedd- boed hynny'n bil treth Cymraeg neu'n ddarn o waith cartref da gan ddisgybl diog (fi).

Mae'n anodd gwerthfawrogi erbyn hyn pa mor arloesol a blaengar oedd gwaith athrawon Maes Garmon a Rhydfelen- y ddwy ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf. Heb unrhyw adnoddau dysgu pwrpasol ac yn wyneb cryn wrthwynebiad fe ddefnyddiodd y criw bach yma pob owns o'u hegni a'u gallu i wrthbrofi'r gred gyffredinol nad oedd y Gymraeg yn gyfrwng addas ar gyfer addysg uwchradd fodern.

Mae Mrs Beasley yn haeddu ei neuadd... a llawer mwy.

Cyweiriad; Glan Clwyd nid Maes Garmon (darllenwch y sylwadau), Byswn wedi derbyn cerydd gan Mrs Beasley, slap gan Tom Vale, dagrau gan Ruth Evans a phregeth gan Gwilym Humphries am gamgymeriad mor elfennol!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:21 ar 21 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Adferwr:

    Gwir arwres. Mor eironig oedd darllen am yr anhawster sydd i gael gwys Cymraeg bellach.
    Fel un sy'n dysgu mewn Ysgol (honedig ) Gymraeg ers chwarter canrif bellach, ofnaf mai dillad yr ymerawdwr o genedlaetholwr ydynt. Daw disgyblion
    atom yn 11 yn medru'r Gymraeg, a byddwedi ei cholli erbyn 16. Nid yw'n syndod o ystyried y bratiaith mae athrawon iau yn ei throsglwyddo iddynt. Da iawn Caryl Parry-Jones ac Eifion Lloyd-Jones am gicio penolau yr estrysiaid o brifathrawon sydd gennym bellach.

  • 2. Am 19:09 ar 21 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Idris:

    Onid Ysgol Glan Clwyd oedd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf? Yn sicir, dyne'r honiad balch glywes i gan-gwaith gan athrawon yn ystod fy amser yno. Fe'i hagorwyd ym 1956 dwi'n meddwl.

    Da gweld Eileen Beasley'n cael ei anrhydeddu.

  • 3. Am 19:34 ar 21 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Efallai dy fod yn iawn, dw i'n gwybod mai Rhydfelen oedd yr ail ac mai ysgol yng Nglwyd oedd y gyntaf. Roeddwn i'n meddwl mai Maes Garmon oedd hi. Fe fydd rhywun yn gwybod!

  • 4. Am 10:18 ar 22 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd FiDafydd:


    Mae dewrder o'r fath yn beth gwirioneddol brin, ac yn codi cywilydd ar rywun fel fi.

  • 5. Am 12:00 ar 22 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Glan Clwyd y gyntaf...a Llangynwyd y 23ain...

  • 6. Am 22:52 ar 22 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Vaughan Roderick Author Profile Page:

    Ai Llangynwyd yw enw'r ysgol newydd ym Maesteg? Gobeithio felly. Enw rhagorol ar gyfer ysgol i fechgyn (a merched) ifanc ffôl yn byw yn ôl eu ffansi... fe yfai beint yn yr hen dy neu'r Ty Cornel i enw yna!

  • 7. Am 11:28 ar 23 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dewi:

    Rwy'n deall felly - roedd na wrthwynebiad yn yr ardal os dwi'n cofio. Dim digon o ramant i'r enw!

    "Ysgol Wil Hopcyn" neu "Ysgol yr Hen Blwyf" yn well falle...

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.