Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Enwi enwau

Vaughan Roderick | 20:47, Dydd Mercher, 3 Rhagfyr 2008

O ble ar y ddaear ddaeth y ffasiwn newydd yma o enwi sefydliadau a gwasanaethau Cymru ar ôl enwogion y gorffennol?

Ddoe fe gafwyd gwybod mae'r "Gerallt Gymro" yw enw'r trên cyflym newydd rhwng Caergybi a Chaerdydd. Heddiw cyhoeddwyd mai Bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr fydd yn gofalu am wasanaethau iechyd y Gogledd Orllewin yn y dyfodol. Roedd Betsi yn "un o nyrsys enwocaf Cymru" yn ôl adroddiad John Stevenson. Enwa un arall, John! Fe fydd y bwrdd hefyd yn Brifysgol. Meddyliwch pa mor falch fydd pobol o fod yn MD (Betsi). Ai fi yw'r unig un sy'n gweld yr enwau yma'n chwerthinllyd?

Pam stopio yn fan hyn? Beth am gael gwared a theitlau diflas fel Comisiynydd Plant a Chomisiynydd yr henoed? Oni fyddai Comisiynwyr Sali Mali a Jac a Wil yn well? Mae "Cyllid Cymru" yn enw difalch iawn ar fanc y cynulliad. Beth am gael "Yr Hodge" neu'r "Cardi" yn lle? Oni ddylai Rhodri Morgan fod yn Bendefig? Gellid cyfeirio at arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol fe "Y Lloyd George" ac arweinydd Plaid Cymru fel "Y Saunders". Fe fyddai Nick Bourne wrth ei fodd yn gwisgo mantell "Y Churchill"!

.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 08:25 ar 4 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Dafydd Tomos:

    Ddwi'n hoff o'r hen draddodiad o enwi trenau. Mae'r ffaith y bydd Gerallt Gymro yn teithio ar hyd Cymru unwaith eto yn eitha dychmygus. Er dwi'n siwr fod e'n achosi penbleth i deithwyr yng nghanolbarth Lloegr wrth weld yr "Eisteddfod Genedlaethol" yn tynnu fewn i'r orsaf.

    Bues i mewn cyfarfod gyda cwmni trenau heddiw felly dwi'n llawn ffeithiau diflas.

  • 2. Am 10:56 ar 4 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd dewi:

    Enwa un arall? - Nerys Hughes?

  • 3. Am 11:07 ar 4 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Pa mor hir gall Prifysgol Caerdydd ddala mas yn erbyn ail-enwi un o'r colegau y 'Betsan Powys School of Journalism', neu yr 'Adran Vaughan Roderick o Newyddiaduro' ??

  • 4. Am 11:37 ar 4 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Alwyn ap Huw:

    Mae'r arferiad o enwi trenau ar ôl enwogion cyn hyned â'r rheilffyrdd, yn hŷn yn wir gan fod yr arferiad wedi yn ddilyniant i'r arferiad o enwi llongau. Mae sawl ysbyty a sefydliad arall wedi eu hen enwi ar ôl enwogion.

    Yr hyn sydd yn wahanol am Betsi Cadwaladr a Gerallt Cymro yw eu bod wedi eu henwi ar ôl enwogion Cymraeg, a da o beth yw hynny. Llawer gwell enwau na'r Prince Phillip, y Queen Elizabeth neu'r Prince of Wales - yr enwau arferol ar sefydliadau Cymreig.

    Os nad wyt wedi darllen hunangofiant Betsi Cadwaladr, mynna gopi o dy Carnegie Library lleol. Mae'n llyfr gwirioneddol gwerth ei ddarllen.

    Onid ein Harglwydd Lywydd yw Pendefig Cymru yn hytrach na Rhodri Morgan?

    Nyrs Cymraeg enwog arall: Meic Povey SRN

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.