Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Coroni Kirsty

Vaughan Roderick | 17:09, Dydd Llun, 8 Rhagfyr 2008


Kirsty Williams yw arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru- ac o fwyafrif mwy sylweddol nac oeddwn i'n disgwyl. Gall neb wadu bod ganddi mandad- ond mandad i wneud beth?

Rwyf wedi darllen cyhoeddiadau ymgyrch Kirsty yn ofalus ac wedi ail-ddarllen ei haraith bwysig i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae 'na gryn sylwedd i'w dadansoddiad o'r problemau sy'n wynebu ei phlaid. Fe fyswn i'n dweud hynny. Mae rhannau helaeth o'r dadansoddiad hwnnw'n cyd-fynd a rhai o'r erthyglau dw i wedi eu sgwennu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae 'na ddarlun eglur hefyd o'r hyn y mae Kirsty yn dymuno i'r blaid fod sef plaid sy'n ail-afael yn ei radicaliaeth a'i Chymreictod. Hynny yw, y nod yw i geisio ad-ennill y fantell y wnaeth Gwynfor Evans ei dwyn o'u hysgwyddau yn y Gymru wledig tra'n parhau i adeiladu ar y sylfaeni a osodwyd yn y Gymru ddinesig dros y chwarter canrif diwethaf.

Haws dweud na gwneud. Tu allan i Geredigion prin fod yn Blaid yn bodoli yn yr ardaloedd Cymraeg ei hiaith. Ar gynghorau Sir Ddinbych, Conwy, Môn, Gwynedd Caerfyrddin a Phenfro mae gan y blaid gyfanswm o 16 o gynghorwyr. Hyd yn oed o ychwanegu Ceredigion mae'r cyfanswm ond yn cyrraedd 26. Mae hyd yn oed y cyfanswm hwnnw braidd yn garedig gan ei fod yn cynnwys cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau Saesneg eu hiaith mewn llefydd fel Conwy a Sir Ddinbych. Sut ar y ddaear mae adeiladu mudiad ar sylfaen mor dila?

Wel, fe fydd carisma Kirsty Williams o gymorth. Mae'n debyg y bydd ei phroffil cyhoeddus cryn dipyn yn uwch nac un Mike German ac yn llai chwerthinllyd nac un Lembit Opik. Mae arweinydd carismataidd adnabyddus yn gallu bod yn ffactor allweddol mewn etholiad. Fe enillodd y cymariaethau anffafriol di-ddiwedd rhwng Alun Michael a Dafydd Wigley jac pot o bleidleisiau i Blaid Cymru yn 1999, er enghraifft.

Serch hynny, mae'n bosib y bydd haneswyr yn ystyried Ieuan Wyn Jones yn gymeriad pwysicach yn hanes Plaid Cymru na Dafydd Wigley- na Dafydd Elis Thomas o ran hynny. Dyw Ieuan ddim yn ddyn carismataidd ac mae'n dipyn o embaras pan mae'n esgus bod. Ond pwy wnaeth arwain ei blaid i fewn i lywodraeth? Pwy wnaeth lunio strategaeth eglur a phenodi'r bobol iawn i greu peiriant ymgyrchu sy'n destun eiddigedd i'r pleidiau eraill?

Y peiriant hwnnw yw'r un y mae Kirsty yn bwriadu ei herio. Mae hi wedi dewis gweithio ar dalcen caled iawn- ond mewn gwirionedd doedd ganddi fawr o ddewis.

Yn eironig ddigon, oherwydd cynrychiolaeth gyfrannol dyw'r gemau tactegol y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol mor dda wrth ei chwarae ddim yn gweithio mewn etholiadau cynulliad. Doedd jyst cadw i fynd a byw mewn gobaith ddim yn opsiwn. Oherwydd y sefyllfa Brydeinig mae'n rhaid i'r blaid ymladd brwydrau amddiffynnol yn erbyn y Ceidwadwyr a Llafur. Targedi Plaid Cymru yw'r unig opsiwn ymosodol ar y bwrdd.

Mae ganddi ei strategaeth felly. Yn y tymor byr mae'n annhebyg o lwyddo. Yn y prawf mawr etholiadol nesaf*- yr etholiad cyffredinol ,mae gan y blaid lawer i golli a bron dim i ennill. Fe fydd angen amynedd- ar Kirsty ei hun ac ar ei phlaid.

*Sori, dydw i ddim yn cyfri Etholiad Ewrop fel prawf pwysig i neb- ni'n gwybod y canlyniad yn barod!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:58 ar 8 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Osian:

    A fydd Kirsty Williams yn gwneud gwir gwahaniaeth? Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn joc. Yr unig rheswm mae ganddynt unrhyw fath o sylwedd yw Vince Cable! Wedi gweud hynny, mae'n dipyn o sylwedd i weitho ar.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.