Bournewatch (3)
Mi ydw i wedi bod yn Llanelli heddiw yn gweithio fel hobl i Tinopolis (gyda chaniatad y Â鶹Éç dw i'n rhuthro i ddweud). Rwyf allan o gysylltiad braidd a'r datblygiadau diweddaraf yn helyntion Nick Bourne.
Serch hynny mae'r ffaith bod ei dreuliau bellach yn destun trafodaeth (anffafriol ar y cyfan) ar wefan yn newyddion drwg iddo. Mae'r wefan honno yn un hanner-swyddogol sy'n cael ei darllen yn eang ac yn cael ei defnyddio gan y blaid i fesur y tymheredd ymhlith ei chefnogwyr mwyaf selog. Yn llai pwysig efallai mae'r stori yn dechrau gael sylw ar flogs a gwefannau Llundeinig eraill.
Rydym wedi bod yn trafod problemau Nick yn bennaf o bersbectif Caerdydd gan ofyn a fydd na wrthryfel yn ei erbyn o fewn y grŵp Ceidwadol- ac os oes na, pryd mae'n debyg o ddigwydd. Ond mae 'na ffordd arall y gallai Nick golli'r arweinyddiaeth- trwy ymyrraeth y blaid yn Llundain trwy law David Cameron neu Cheryl Gillan.
Mae Nick yn ffodus bod aelodau'r cynulliad eisoes ar eu gwyliau. Mae'n fater o anlwc iddo fe bod 'na wythnos arall i fynd cyn dechrau gwyliau'r aelodau seneddol.