Wyddoch Chi
Rwy'n amau mai stori ddiharebol yw honna am gyngor yr hen Sir Ddinbych yn sefydlu pwyllgor i drafod lleihâi'r nifer o bwyllgorau. Mae'n haeddu bod yn wir.
Daeth stori gyffelyb i'r amlwg heddiw. Cyhoeddwyd arolwg Arglwydd Roberts o bolisi datganoli'r Ceidwadwyr. Mae Wyn wedi dod i'r casgliad mai'r hyn sydd angen yw... arolwg.
Mae 'na dipyn o grafu pen wedi bod ynglŷn ag amharodrwydd y Torïaid i gyhoeddi'r adroddiad. Oedd 'na beryg y byddai'n hollti'r blaid? A fyddai'r cynnwys yn tanseilio awdurdod Nick Bourne? Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un wedi ystyried y posibilrwydd mai osgoi embaras oedd y rheswm am yr oedi!
Serch hynny mae'r adroddiad yn cynnwys un argymhelliad pwysig sef na ddylai Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol wrthod cais gan y cynulliad i gynnal refferendwm i sicrhâi pwerau deddfu llawn i wleidyddion y bae.
Hyd yma, mae Paul Murphy wedi methu rhoi addewid cyffelyb ac yn ôl Adam Price o Blaid Cymru gallai'r methiant hwnnw beryglu dyfodol y glymblaid yn y cynulliad.
Problem Mr Murphy yw ei fod wedi etifeddu tipyn o gawlach gwleidyddol yn sgil Mesur Llywodraeth Cymru (2006). Er bod Peter Hain wedi gwadu hynny droeon mae'r rhan fwyaf o wleidyddion o'r farn ei fod cyflwyno gwahanol esboniadau o effeithiau'r mesur yn San Steffan a Chaerdydd. Fe fyddai rhoi'r addewid y mae Adam Price yn dymuno ei gael yn hynod amhoblogaidd ymhlith aelodau seneddol Llafur.
Dyna hefyd sydd wrth wraidd yr anghytundeb sylfaenol rhwng Llywodraeth a Llywydd y Cynulliad a'r Pwyllgor Dethol Cymreig ar gynnwys yr LCO tai fforddiadwy. Ar hyn o bryd mae'n ymddangos bod Mr Murphy yn ffafrio dadleuon y Pwyllgor Dethol o blaid llunio'r gorchymyn yn y modd mwyaf cyfyng posib. Os ydy'r cynsail hwnnw yn cael ei osod yna mae gobeithion y cynulliad o sicrhâi gorchmynion mwy uchelgeisiol a dadleuol (fel yr LCO iaith) yn ddim byd mwy na breuddwyd gwrach.
Ystyriwch hynny o safbwynt Plaid Cymru. Os ydy'r Ysgrifennydd Gwladol mewn gwirionedd yn dweud y byddai'n ystyried defnyddio ei feto i rwystro refferendwm ac os ydy hi'n amhosib cyflawni addewid mor sylfaenol a mesur iaith swmpus pa gyfiawnhad posib fyddai 'na dros barhâi a'r glymblaid? Ar ben hynny pe bai'r Ceidwadwyr yn addo rhwydd hynt i refferendwm- ac arolygon yn awgrymu eu bod ar fin cipio grym yn San Steffan oni allai trefniant pleidiol arall yng Nghaerdydd bod yn fwy effeithiol?
SylwadauAnfon sylw
Stori bwysig ond pam bod na ddim manylion ar wefan y Â鶹Éç. Hefyd, falle na fyddai'r Ysgrifenydd Gwladol Toriaidd yn gwrthod cais am refferendwm - ond maen nhw'n gallu fforddio gwneud gan wybod na fyddai mwyafrif Ceidwadol yn Nhy'r Cyffredin byth yn caniatai'r fath bleidlais.