Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Barn y Bwci

Vaughan Roderick | 13:48, Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2008

Mae'n beth amser ers i ni glywed gan Karl y bwci. Mae'n cynnig y prisiau hyn ar y ras i arwain Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Kirsty Williams 8-13
Jenny Randerson 6-5

Kirsty yw'r ffefryn felly ond dim ond o drwch blewyn.

Harriet Harman yw'r ffefryn i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur ac ym marn Karl William Hague yw'r ffefryn i fod yn arweinydd nesa'r Ceidwadwyr. Nawr roedd yr ail awgrym yn dipyn o sioc i mi ond rwy'n deall y rhesymeg. Dyw'r Ceidwadwyr ddim yn debyg o newid eu harweinydd yn y dyfodol agos. Yr unig amgylchiad allai achosi hynny yw colli'n ddifrifol mewn etholiad cyffredinol. Fe fyddai hynny'n ddinistriol nid yn unig i David Cameron ei hun ond i'r gwleidyddion eraill sy'n gysylltiedig â'r strategaeth. Pwy ond Hague- a David Davis efallai sydd ar ôl?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:34 ar 18 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Pendroni:

    Efallai bydd yr 'odds' yn newid os ddarllenith pobl bennod Kirsty Williams yn llyfryn yr IWA - 'Politics in 21st Century Wales' - a gyhoeddwyd ddoe. Werth darllen beth sydd gan Anthony Barnett i'w ddweud amdani yn ei gyflwyniad i'r gyfrol - wedi nodi rhai perlau ar fy mlog:

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.