Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Arbrawf

Vaughan Roderick | 14:04, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2008

Dydw i byth wedi bod yn ffan o'r prawf y mae darpar ddinasyddion Prydeinig yn gorfod ei sefyll. Does 'na ddim byd yn bod ar yr egwyddor ond mae'r wybodaeth y mae'r Swyddfa Gartref yn credu sy'n angenrheidiol i ddinasyddion yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Oes wir angen gwybod dyddiad diwrnod nawddsant yr Alban neu ddeall pwerau senedd Ewrop er mwyn bod yn Brydeiniwr?

Dw i wrth fy modd felly a'r arolwg a drefnwyd ar Facebook yn ddiweddar. Gofynnwyd i bobol o bedwar ban byd i sefyll y prawf. Pwyliaid oedd yn gwybod mwyaf am Brydain. Trigolion Ffindir oedd yn yr ail safle gyda phobol Sweden yn drydydd, Almaenwyr oedd yn bedwerydd a'n cefndryd yn Seland Newydd oedd yn bumed. Pwy ddaeth yn chweched? Prydeinwyr.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 15:29 ar 25 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Hen Ferchetan:

    14% o Brydeinwyr basiodd y prawf - brawf gwirion a diwerth yn wir!

  • 2. Am 19:22 ar 26 Tachwedd 2008, ysgrifennodd Bedd Gelert:

    Toptastic, Mr Roderick !!!

    Edrycha allan am 'Craig Ferguson' ar 'YouTube', dyn o'r Alban sydd yn nawr yn gwneud bywoliaeth fel dyn digri 'stand-up' a sydd yn cyflwyno 'The Late Late Show' ar CBS. Dyn doniol, a cafodd llawer o hwyl a sbri yn mynd trwy'r broses o ddod yn ddinasydd o'r Unol Daleithiau.

    Gwnaeth Sarah Palin ef yn 'honorary citizen' o Alaska fisoedd cyn iddi hi cael ei dewis fel 'Veep' John McCain..

    Nawr fod hi wedi mynd nol i Alaska, fydd rhaid i ni edrych 'mlaen i Kirsty Williams ein diddani...

    'Watch this space..'

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.