Aotearoa
Gyda'r Americanwyr yn hawlio cymaint o'n hamser fe aeth ambell i etholiad tramor heibio heb dderbyn fawr o sylw. Un o'r etholiadau hynny oedd etholiad Seland Newydd lle wnaeth pleidiau'r dde guro llywodraeth asgell chwith Helen Clark. Gan ein bod yn wynebu'r Crysau Duon yfory beth am gymryd cipolwg ar un agwedd ddiddorol o wleidyddiaeth y wlad honno sef y system bleidleisio a'r camddefnydd ohoni?
Dyw'r gyfundrefn ddim mor wahanol â hynny i'r un sy'n bodoli yng Nghymru. I'r anoracs yn eich plith system MMP yw hi, tebyg i'r un sy'n bodoli yn yr Almaen. O dan y system honno mae seddi rhestr genedlaethol yn cael eu didoli rhwng pleidiau sydd wedi cyrraedd trothwy o bump y cant o'r bleidlais neu wedi ennill un sedd etholaeth.
Y broblem sydd wedi codi yn Seland Newydd yw bod y naill neu'r llall o'r ddwy blaid fawr wedi rhoi rhwydd hynt i bleidiau llai mewn ambell i etholaeth. O ganlyniad i hynny trwy ennill sedd etholaethol mae'r blaid fach yn cael llond dwrn o seddi rhestr i ychwanegu at y glymblaid y mae'r blaid fawr yn gobeithio ei ffurfio. Mae 'na bron i hanner dwsin o bleidiau bach ar y chwith a'r dde sydd wedi dibynnu ar gardod blaid fawr o bryd i gilydd.
Mae 'na dric digon tebyg sy'n bosib yn y system Gymreig. Does 'na ddim trothwy yn ein cyfundrefn ni. Yr hyn fyddai angen gwneud yng Nghymru fyddai torri'r cysylltiad rhwng canlyniadau etholaethol plaid a'r broses o ddidoli seddi rhanbarthol.
Mae hynny'n ddigon hawdd i wneud. Pe bai Plaid Cymru, er enghraifft, wedi dewis peidio enwebu ymgeiswyr rhanbarthol yn y Gogledd yn 2007 gan awgrymu'n dawel y dylai ei chefnogwyr bleidleisio dros "rhestr annibynnol Dafydd Wigley" mae'n debyg y byddai'r rhestr honno wedi ennill tair sedd yn lle'r un a enillwyd gan Blaid Cymru yn ei henw ei hun.
Nid teimlad o barch tuag at y system etholiadol sydd wedi rhwystro'r pleidiau rhag defnyddio'r tric yma ond y sicrwydd y byddai'r pleidiau eraill yn dilyn ei esiampl. Serch hynny mae'n brawf bod unrhyw system etholiadol yn gallu bod yn ddiffygiol.
Un o ddadleuon cefnogwyr cynrychiolaeth gyfrannol yw bod "pob pleidlais yn cyfri" ac nad oes angen pleidlais dactegol. Ydy hynny, o reidrwydd, yn wir? Nac ydy. Flwyddyn nesaf er enghraifft mae'n ddigon posib mai UKIP a'r BNP fydd yn ymgiprys am y sedd ranbarthol olaf mewn sawl rhan o Loegr. Mae'n ddigon posib y bydd cefnogwyr Llafur, dyweder, yn bwrw pleidlais dactegol i gadw'r BNP allan. Nawr drychwch ar y ffigyrau yma, o etholiad cynulliad 2007
Gogledd Cymru
Democratiaid Rhyddfrydol 15,275
BNP 9,986
Hynny yw pe bai'r BNP wedi ennill chwe mil yn fwy o bleidleisiau neu pe bai plaid Elinor Burnham wedi derbyn chwe mil yn llai nhw ac nid hi fyddai wedi ennill sedd rhestr olaf y gogledd. Fe enillodd Llafur dros hanner can mil o bleidleisiau rhestr heb ennill sedd ranbarthol. Mae'r fathemateg yn ddiddorol- o dan y fath amgylchiad ydy hi'n demtasiwn i Lafur beidio enwebu ymgeiswyr rhestr mewn ambell i ranbarth? Fe fyddai canlyniadau etholiad 2007 wedi bod yn wahanol iawn pe bai Llafur wedi dilyn y llwybr hwnnw.
SylwadauAnfon sylw
Mae'r System yn wirion. Rwy'n cofio awgrymu y dyle Dafydd El fel Llywydd sefyll fel yngeisydd annibynol yn Nwyfor Meirionydd - un llai aelod swyddogol i'r Blaid ac bron yn sicr un aelod ychwanegol o'r rhestr. Strategaeth arall buasai sefydlu Plaid Genedlaethol newydd i sefyll ar y rhestr (Mae'r Parti Quebecois a'r Bloc Quebecois yn bleidiau arwahan yn swyddogol).
Dwi ddim yn meddwl bod eich dadansoddiad yn hollol gywir. Petai'r Democratiaid wedi cael chwe mil yn llai o bleidleisiau, byddai'r sedd olaf yn y Gogledd wedi mynd i'r Ceidwadwyr, nid y BNP.
A phetai Llafur wedi colli Dyffryn Clwyd (mwyafrif 92) a Delyn (mwyafrif 510) buasen nhw wedi cipio sedd ranbarthol. Annoeth felly fyddai colli'r cyfle trwy bleidleisio'n dactegol i blaid arall.
Yn yr un modd, mae'n anodd dychmygu y bydd cefnogwyr Llafur yn Lloegr yn pleidleisio'n dactegol dros UKIP, hyn yn oed i gadw'r BNP allan.
Mewn ffordd, gallai hwn fod yn fantais.
Mae yn mynd i wneud e yn fwy pwysig i ymladd y BNP gyda dadl, a ennill pobl drosodd wrth ddylanwadu ar calonnau a meddyliau, yn lle cwympo 'nol ar 'first past the post' i gadw nhw i lawr.
Efallai dyna rhan o'r broblem yn y gorffenol; fod neb yn cymeryd nhw o ddifri, a felly gadael nhw i gryfhau i'r pwynt fo nhw braidd yn beryglus ?