Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Os mêts, mêts

Vaughan Roderick | 16:59, Dydd Mawrth, 2 Medi 2008

Ydych chi'n ffrind i Syr Emyr? Mae angen cyfeillion arno.

Wrth drafod gwaith Confensiwn Cymru Gyfan heddiw broliodd Syr Emyr Jones Parry am lwyddiant safle'r confensiwn ar Facebook. Roedd y safle wedi denu cyfranwyr annisgwyl, meddai, gan gynnwys gŵr busnes o Efrog Newydd.

Faint o gyfeillion sydd gan Syr Emyr felly?

Wel, dim cymaint a'r 1,517,947 sy'n ffrindiau a Barak Obama. Llai hefyd na'r 88,220 o bobol sy'n sgwrsio am "Doctor Who". Yn anffodus mae safle Syr Emyr yn llai poblogaidd na rhai "Only Men Aloud" (2,061) ac Ysgol Glanaethwy (1,360).

Faint o gyfeillion sydd gan Syr Emyr felly?

226.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:08 ar 2 Medi 2008, ysgrifennodd Negrin:

    Chwarae teg...mae na gannoedd os nad miloedd o grwpiau ar y Gweplyfr addim grwp y confesiwn ydy'r grwp mwy diddorol na llewyrchus...mae pobol yn 'bored' hefo gwleidyddiaeth a mae nhw'n mynd ar y Gweplyfr am chydig o bethau ysgafn.
    Beth bynag...wyt ti ar y Gweplyfr Vaughan...os wyt ti mi nai gychwyn grwp cefnogwyr Vaughan R.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.