O Foel y Parc, Nebo a Phreseli...
Pan oeddwn yn grwt pedair sianel oedd ar gael ar ein hen deledu du a gwyn. Dw i'n cofio'r rhifau hyd heddiw; Â鶹Éç Bryste ar sianel pump, Teledu Cymru ar sianel saith, TWW ar sianel deg a Â鶹Éç Cymru ar sianel 13.
Dros y blynyddoedd fe drodd Teledu Cymru a TWW yn Harlech ac yna'n HTV cyn diweddu fel ITV Cymru- yr enw answyddogol fu gan y sianelu masnachol o'r cychwyn. Heb os mae ITV wedi bod yn rhan hanfodol o'n bywyd cenedlaethol ers dros hanner canrif ac mae'r toriadau a gyhoeddwyd heddiw yn ergyd drom i'r gwylwyr ac i fywyd gwleidyddol y genedl. Dyna o leiaf yw barn Alun Fred Jones, y gweinidog diwylliant. O gofio hynny, oni fyddai hi wedi bod yn syniad i sicrhâi bod ymateb Llywodraeth y Cynulliad i argymhellion Ofcom wedi cyrraedd cyn y diwrnod cau?
Cyn i'r gwrthbleidiau gwyno am y methiant hwnnw mae'n werth nodi sawl ymateb a ddanfonwyd i Ofcom gan bleidiau gwleidyddol Cymru a'u haelodau cynulliad. Dim un.