Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Mehefin 2008

Hwre Henley

Vaughan Roderick | 13:45, Dydd Gwener, 27 Mehefin 2008

Sylwadau (1)

Dyw heddiw ddim yn ddiwrnod da i Lafur. Pumed yn Henley! Pumed? Diawl mae pethau'n edrych yn ddrwg i Gordon ac yntau'n dathlu (?) pen blwydd ei brif weinidogaeth.

Trwy gyd-ddigwyddiad heddiw mae Cymdeithas Cledwyn wedi cyhoeddi canlyniadau ei hymchwiliad i wendid y Blaid Lafur yn yr ardaloedd Cymraeg. Fe ddylai'r adroddiad ymddangos ar wefan y prynhawn yma. Yn y cyfamser cewch glywed Eluned yn trafod yr adroddiad " Dau o'r Bae" ar y podlediad. Gwasgwch y botwm ar y dde i glywed y rhaglen a sylwadau'r cyn AS Gareth Thomas am ddyfodol Gordon Brown.

Pampro'r Prif Weinidog

Vaughan Roderick | 11:01, Dydd Gwener, 27 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Peth peryg yw gadael dogfennau o gwmpas y lle! Beth yw hwn sydd wedi glanio ar fy nesg? Diddorol.

"Guidance for Briefing the First Minister"

Wel, wel, wel. Sut mae mynd ati i friffio Rhodri tybed- neu baratoi araith iddo draddodi? Wel mae'n amlwg nad yw llygaid y Prif Weinidog gystal a buon nhw.

Text should be in Arial 14, double spaced and provided in a clear plastic document wallet. For nearly all events, the opening and closing points should be in Welsh. For local events in Welsh speaking areas, or for any events which attract a high level of Welsh interest, the entire speech should be translated into Welsh.

Ond cofiwch

The First Minister does not use power point.

Wel, dyw hynny ddim yn synnu rhywun rhywsut. Mae hwn yn fwy o sioc;

If the speech is less than 10 minutes 6-10 bullet points should be sufficient.

Nawr dewch 'mlaen. Ydy Rhodri yn gallu traddodi araith sy'n para llai na deng munud? Mae ambell i frawddeg o'i eiddo yn hwy na hynny!

Ta beth, beth am gael tamaid i fwyta?

Establish the dress code e.g. black tie/lounge suit. Include information on those guests that will be seated at the same table as the First Minister. Dietary requirements: His meal should not include sauce or gravy, pie-crusts etc. He also doesn't like prawns.

Dim prawn sandwiches i Rhodri wrth wylio'r bêl droed felly! Mae'n lwcus nad oes 'na ddiwydiant corgimwch yng Nghymru!

Hirfelyn Tesog

Vaughan Roderick | 16:27, Dydd Iau, 26 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

I rheiny sy'n meddwl bod ein gwleidyddion yn y bae yn byw bywydau hawdd fe fydd hyn o ryw faint o gysur. Mae Senedd yr Alban eisoes wedi cau am wyliau'r haf. Fe fydd yr aelodau'n dychwelyd i'w gwaith ym Mis Medi.

Wrth gwrs mae bod yn aelod o gyngres Texas hyd yn oed yn well. Mae cyfansoddiad y dalaith honno yn mynnu nad yw'r aelodau'n cwrdd am fwy na chant a deugain o ddyddiau bob yn ail flwyddyn. Mae'r eisteddiad nesaf ym Mis Ionawr 2009!

Ebill Deudwll

Vaughan Roderick | 15:53, Dydd Iau, 26 Mehefin 2008

Sylwadau (2)

Doedd gen i ddim clem beth oedd ystyr "ebill deudwll". Os oeddwn yn gorfod mentro byswn wedi tybio ei fod naill ai'n gymeriad o'r Mabinogi neu'n ddisgrifiad o weithred aflednais yn un o gywyddau Dafydd ap Gwilym. Yn anffodus mae'r ystyr yn llai diddorol na hynny. Mae'n debyg mai "ebill deudwll" yw enw'r teclyn bach hwnnw sy'n gwneud dau dwll ar ochor tudalen. Wrth gwrs taw e ...ebill ...deudwll. Mae'n amlwg wrth feddwl am y peth!

Ebillion deudwllaidd y byd yma sy'n rhannol gyfrifol am ffenomena y mae bron pob un ohonom yn gyfarwydd â hi. O bryd i gilydd mae'r rhan fwyaf ohonom yn gweld yr angen i fwrw golwg ar fersiwn Saesneg rhyw ffurflen neu daflen i ddarganfod beth ar y ddaear yw ystyr rhyw air neu derm yn y fersiwn Gymraeg. Dyna yw'r rheswm mae'n debyg bod cymaint ohonom yn dewis darllen a defnyddio dogfennau Saesneg hyd yn oed os ydy'r Gymraeg yn iaith gyntaf i ni.

Mae'r arfer hynny wedi darbwyllo ambell i wleidydd bod yr holl gyfieithu yma'n wastraff arian. Oni fyddai'n well gwario'r arian ar fesurau eraill i gryfhau'r Gymraeg- papur dyddiol, dyweder, neu grantiau i ysgolion meithrin a dosbarthiadau dysgwyr?

Mae awgrymiadau o'r fath ychydig yn naïf gan awgrymu bod ariannu'r iaith yn rhyw fath o "zero sum game" hynny yw bod 'na swm penodol digyfnewid i wario ar yr iaith a'r hyn sy'n bwysig yw gwario'r arian hwnnw yn y modd mwyaf effeithlon posib.

Mewn un ystyr mae'n debyg i'r ddadl yn erbyn datganoli yn ôl yn y saithdegau. Dro ar ôl tro clwyd arweinwyr yr ymgyrch Na yn taranu am faint o beiriannau arennau y byddai'n bosib eu prynu am gost y cynulliad arfaethedig. Wel, fe bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979 a hyd y gwn derbyniodd yr un ysbyty'r un peiriant arennau o ganlyniad i'r bleidlais honno. Yn yr un modd dw i'n ei chael hi'n anodd credu y byddai caniatáu i'r adran drwyddedi ceir neu'r adran drethi gynhyrchu ffurflenni uniaith Saesneg yn golygu y byddai aur yn llifo i goffrau Cylch Meithrin Cwmsgwt.

Efallai fy mod yn benstiff ynghylch y pwnc yma ond pa hawl sy gan unrhyw gorff cyhoeddus i benderfynu ym mha un o ieithoedd cynhenid Prydain y dylwn i, fel trethdalwr, ddelio â nhw?

O fy mlaen, yr eiliad hon, mae copi o gytundeb Lisbon yn yr Iaith Wyddeleg. Oes 'na un unrhyw naill yn Nulyn neu ym Mrwsel a fyddai'n awgrymu am eiliad bod cynhyrchu'r ddogfen honno yn anghywir neu'n wastraffus? Go brin.

Y gwir amdani yw hyn. Gellir trin y Gymraeg fel iaith swyddogol neu fel rhyw fath o achos da i dderbyn cardod ar fympwy cyrff cyhoeddus. Ydy, mae'r llwybr cyntaf yn golygu cyhoeddi llawer o ddogfennau a thaflenni does bron neb yn eu darllen. Gydag unrhyw lwc, wrth i ni arfer ac ystyr termau fel ebill deudwll, fe fydd hynny'n newid. Fe fyddai cymryd y llwybr arall yn gam peryglus yn ôl.

Cnoi Cil

Vaughan Roderick | 17:15, Dydd Mercher, 25 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Yn ôl yn y dyddiau pan oedd glo Cymreig yn troi tyrbinau llongau'r byd prin oedd y dynion oedd yn gallu goddef y gwres a'r stŵr i wneud y gwaith hanfodol o gadw ffwrneisi'r llongau ynghyn.

Ar longau moethus Cunard a White Star "the black hand gang" oedd llysenw'r dynion hynny a rhybuddiwyd teithwyr i gadw draw o griw oedd yn chwedlonol o anwar a meddw.
Ar longau cargo yr arfer oedd cyflogi trigolion rhai o drefedigaethau mwyaf crasboeth Prydain i weithio am oriau di-ben-draw mewn amodau arswydus. Does dim angen dweud bod enillion y dynion hynny yn chwerthinllyd o fach hyd yn oed o gymharu â morwyr eraill.

Yn anorfod efallai fe wnaeth rhai o'r dynion hynny, yn arbennig rhai o Aden a British Somaliland, ymgartrefu yng Nghaerdydd a Chasnewydd gan ffurfio dwy o'r cymunedau ethnig cyntaf ym Mhrydain. Mae 'na ddadl rhwng Caerdydd a Lerpwl ynghylch lleoliad y Mosg cyntaf ym Mhrydain ond mae gwreiddiau cymunedau Mwslemiaid y ddwy ddinas yn Yemen a Somalia yn perthyn i'r un cyfnod.

Wrth i grwpiau ethnig eraill gyrraedd yn ystod y ganrif a hanner diwethaf mae hanes y grwpiau cynnar hynny wedi bod yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae Arabiaid Yemen ar y cyfan wedi ymdoddi i'r gymdeithas ehangach tra bod y Somaliaid wedi parhau fel cymuned ar wahân- cymuned sydd ymhlith y mwyaf difreintiedig yng Nghymru.

Mae'r ffeithiau yn frawychus. Yn ôl astudiaeth yn 20O6 roedd oddeutu 8,000 o Somaliaid yn byw yng Nghaerdydd ac roedd 95% ohnyn nhw yn ddi-waith ac yn dibynnu ar fudd-daliadau neu haelioni eraill er mwyn byw. Mae'r anfanteision sy'n wynebu'r gymuned yn amlwg. Mae nifer sylweddol o Somaliaid Caerdydd yn newydd-ddyfodiaid, yn bobol sydd wedi ffoi rhag anarchiaeth waedlyd eu mamwlad i geisio lloches â pherthnasau yng Nghymru. Mae nhw hefyd yn bobol sydd yn dioddef rhagfarn hiliol ddifrïol , nid yn unig gan y mwyafrif gwyn ond gan leiafrifoedd ethnig eraill, hyd yn oed Mwslemiaid eraill.

Mae gan y gymuned ei lladmeryddion gwleidyddol. Mae Alun Michael a Lorraine Barret wedi gweithio'n ddiflino ar eu rhan. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi gweithio'n ddyfal i geisio gwella eu sefyllfa ond yng nghanol hyn oll mae cwestiwn anodd a chymhleth wedi codi.

Mae'r cwestiwn yn ymwneud a'r cyffur traddodiadol khat, cyffur sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth o fewn y gymuned. Ar hyn o bryd mae prynu, gwerthu a chnoi dail khat yn gyfreithlon ym Mhrydain ond mae 'na alwadau cynyddol o'r tu fewn a'r tu fas i'r gymuned am newid yn y gyfraith.

Mae Llefarydd Y Ceidwadwyr ar Gymru yn San Steffan Cheryl Gillan wedi camu i mewn i'r ddadl gan ddweud hyn;

Khat is one of the most dangerous recreational drugs currently available in this country. Its use is tearing apart the fabric of sections of our society. It is destroying the lives of those who use it and there is considerable evidence that it has long-term, serious, health implications. I am astonished that despite the weight of evidence in favour of classifying khat as an illegal drug the Labour Government has still not done so."

Mae dadl Ms Gillan yn un sylweddol ac mae 'na gefnogaeth iddi ymhlith Somaliaid Caerdydd ond mae'n bosib dadlau i'r gwrthwyneb hefyd. Wedi'r cyfan gellid defnyddio disgrifiad Ms. Gillan o effeithiau khat i ddisgrifio effeithiau alcohol ac mae 'na beryg y byddai gwneud Khat yn anghyfreithlon ond yn creu masnach danddaearol ac yn ychwanegu at droseddi.

Yr hyn na ddylid gwneud yw anwybyddu'r cwestiwn oherwydd ei fod yn amherthnasol i'r mwyafrif ohonom neu oherwydd ein bod yn awyddus i beidio â sathru ar ddiwylliant lleiafrifol. Y Somaliaid yw'r peth agosaf sy 'na yng Nghymru i is-ddosbarth ethnig ac fe ddylai'r problemau sydd wedi datblygu ac is-ddosbarthiadau o'r fath yn Llundain a Gogledd Lloegr fod yn rhybudd y gall eu problemau mewnol droi'n broblem i'r gweddill ohonom yn ddigon buan.

Safonau Dwbl

Vaughan Roderick | 10:46, Dydd Mawrth, 24 Mehefin 2008

Sylwadau (3)


Duw, mae 'na safonau dwbl yn y lle 'ma weithiau. Dyna i chi Jane Davidson fel enghraifft. Mewn cynhadledd newyddion y bore 'ma roedd Jane yn ddigon parod, yn awyddus hyd yn oed, i rannu eu safbwynt ynghylch Zimbabwe. Galwodd ar Nelson Mandela i ymyrryd i geisio sicrhau heddwch. Beth felly oedd barn Jane am Israel ar y diwrnod y mae llysgennad Israel yn ymweld â'r cynulliad? Wel, yn ôl Jane doedd hi ddim yn briodol iddi drafod y pwnc gan nad yw'n ddatganoledig. Yn wahanol i Zimbabwe wrth gwrs.

A beth am Jenny Randerson, llefarydd iechyd y Democratiaid Rhyddfrydol? Ers tro byd mae Jenny wedi bod yn rhybuddio bod y polisi presgripsiwn am ddim yn faich ariannol difrifol ar y gwasanaeth iechyd. beth oedd ganddi i ddweud ym mis Awst y llynedd.

Free prescriptions for all sounds great on election leaflets, but, in reality, the drugs budget is finite. Last year I warned that free prescriptions would mean more Beechams Powders for millionaires and less people getting the help they need. Labour brought this in with claims it would help a healthier Wales move towards full employment - in reality it will lead to more demands on GPs' time, longer waiting lists and less money for expensive new cancer drugs.

Onid yw'r ffaith bod y gwasanaeth wedi tanwario ar gyffuriau yn newyddion da felly- yn brawf nad oes 'na brinder arian ar gyfer cyffuriau newydd drudfawr? Onid yw hi'n ddiddorol bod cyfanswm y tanwariant bron union yr un ffigwr ac amcangyfrif cost dileu taliadau presgripsiwn? Onid yw hynny'n awgrymu bod gan ambell i filiynydd bethau gwell a mwy proffidiol i wneud a'u hamser na hongion o gwmpas mewn meddygfa er mwyn cael Beechams Powders am ddim?

Ond, na. Och gwae ni medd .

It is obvious that LHBs are robbing Peter to pay Paul.If they spent up to how much they should be spending, we would have fewer cases of people being denied the best, most effective modern drugs.

Nawr ym mhob man y tu fas i'r sector gyhoeddus mae arbed arian a thanwariant yn cael ei ystyried yn bethau da. Os ydy gwario pob ceiniog o'r gyllideb yn brawf o effeithlonrwydd mae'r ateb yn amlwg...ymgyrch hysbysebu i sicrhâi bod ein miliynyddion yn hawlio eu Beechams Powders.

Beth ar y Ddaear?

Vaughan Roderick | 12:05, Dydd Gwener, 20 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Fe fydd y Cynulliad yn cyhoeddi adroddiad ar ddarlledu ymhen rhyw bythefnos. Fe gewch chi ragflas o'r cynnwys trwy wrando ar y podleidiad. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Yn y cyfamser oes unrhyw un yn gallu esbonio .

Iau, 26 Mehefin 2008 FIN(3)-10-08 : Agenda (Saesneg yn Unig)

Go brin nad oedd na unrhyw un yn y cynulliad ar gael i gyfiethu 142 o eiriau?

Dyw hyn yn dechnegol ddim yn groes i gynllun iaith y cynulliad sy'n datgan;.

Bydd unrhyw ddogfennau sy'n berthnasol i fusnes y Pwyllgorau ac sy'n cael eu drafftio gan y Comisiwn, Pwyllgorau'r Cynulliad, Aelodau'r Cynulliad (ac eithrio'r rheini sy'n ymgymryd â dyletswyddau Gweinidog) a staff Gwasanaeth Seneddol y Cynulliad ar gael i Aelodau'r Pwyllgor yn Gymraeg ac yn Saesneg o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod perthnasol.

Serch hynny....

Crafu Pennau

Vaughan Roderick | 12:00, Dydd Iau, 19 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Nid peth hawdd yw llunio deddfwriaeth. Mae haneswyr yn gyfarwydd â'r "law of unintended consequences" sef y ddamcaniaeth bod unrhyw fesur sydd wedi ei lunio i gyflawni un amcan yn sicr o gael effeithiau eraill. Cafwyd engraifft o'r broblem yn y Bae heddiw.

Y bore 'ma roedd un o bwyllgorau'r cynulliad yn ystyried y "Mesur Teithio gan Ddysgwyr" sy'n amlinellu hawliau statudol rhieni i fynnu trafnidiaeth am ddim i'r ysgol i'w plant.

Mae aelodau'r pwyllgor yn awyddus i sicrhâi bod rhieni sy'n dymuno i'w plant fynychu ysgol Gymraeg yn cael hawlio trafnidiaeth am ddim ac nad yw cyngor yn gallu gwrthod darparu hynny ar y sail bod 'na ysgol Saesneg yn fwy cyfleus.

Y gwir amdani yw bod pob un cyngor yn arddel polisi tebyg yn barod ond mae'r cynulliad yn awyddus i sicrhâi nad yw cynghorau yn gallu cefnu ar hynny fel y ceisiodd Cyngor Pen-y-bont wneud y llynedd.

Y broblem sy'n wynebu'r gwleidyddion yw ceisio llunio mesur sy ddim yn rhoi hawl gyfatebol i rieni mewn ardaloedd Cymraeg ei hiaith fynnu trafnidiaeth i ysgol Saesneg neu sy'n gorfodi i gynghorau yn yr ardaloedd hynny i glustnodi ysgolion cymunedol ar sail ieithyddol. Dyw'r dasg ddim yn un hawdd ac mae pennau'n cael eu crafu!

Yn y cyfamser dyma gwestiwn i chi. Pam ar y ddaear y mae ysgolion enwadol yn cael eu galw'n "ysgolion ffydd" y dyddiau hyn? Mae pob un ysgol yng Nghymru a dyletswydd statudol i gyflwyno ffydd i'w disgyblion ac i gynnal gwasanaethau crefyddol. Nid "ffydd" sy'n cael ei ddefnyddio fel amod mynediad i'r ysgolion crefyddol ond cysylltiadau ac un enwad arbennig. Beth bynnag yw'ch barn am yr ysgolion hyn oni ddylid defnyddio term sy'n ddisgrifiad cywir yn hytrach nac arddel iaith marchnata?

Diweddariad; Pleidleisiodd y pwyllgor o blaid ymestyn hawliau teithio am ddim i rieni sy'n dymuno i'w plant fynychu ysgolion enwadol ar ôl i Ann Jones anwybyddu'r chwip ac ochri gyda'r gwrthbleidiau. Gwrthodwyd gwelliant tebyg ynghylch ysgolion Cymraeg.

Y Tad a'r Mab

Vaughan Roderick | 10:48, Dydd Iau, 19 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Un o fy hoff wleidyddion yw Donald Anderson. Mae'n aelod o D'r Arglwyddi erbyn hyn ond am ddegawdau bu'n cynrychioli Dwyrain Abertawe, a chyn hynny Mynwy, yn NhÅ·'r Cyffredin. Mae Don yn perthyn i draddodiad o fewn y Blaid Lafur sy'n cyfuno daliadau Sosialaidd a Christnogol ac efallai oherwydd hynny mae e bob tro yn ddyn cwrtais ac urddasol er yn hen ffasiwn braidd.

Mae'n dipyn o sioc felly i ddarganfod bod gan Mr Anderson fab afradlon. Mae'r wedi dalenni mai Geraint Anderson yw "City Boy" awdur colofn a llyfr dienw yn croniclo bywyd gweithwyr ifanc yn y marchnadoedd arian a stoc Ninas Llundain.

Mae "City Boy" yn adrodd hanes cymeriad o'r enw Steve Jones cymeriad sydd ymhlith pethau eraill yn gwario £25,000 ar logi awyren i hedfan i Sbaen.

Ond i ba raddau mae'r llyfr yn hunan fywgraffiad? Mae'r Times yn gofyn y cwestiwn hwnnw.

What about the £25,000 private-jet trip to Ibiza, which involved Jones being greeted at the airport by two naked prostitutes and a drug dealer? "It's exaggerated." Did you go on a private jet to Ibiza? "No, it's based on an experience I heard about." An e-mail later adds that he has been on similar trips to Miami and Las Vegas. Did you bet a competitor at another bank £100,000 that you would beat him in an annual ranking of City analysts? "There was a bet, yeah. But it's exaggerated." How exaggerated? "Well,a couple of decimal places. Closer to a thousand." How long did your coke habit last? [After long pause] "Can I just say, I've been a bit naughty?"

...ac yn y blaen ac yn y blaen. Ond efallai bod Geraint yn fab ei dad wedi'r cyfan. Ar ddiwedd y cyfweliad gofynnir iddo beth yw ei farn am ei gydweithwyr erbyn hyn ac yntau wedi gadael y ddinas. Mae'n dweud hyn;

These people could be doing something useful, like curing cancer or stopping global warming.

Gavin a Rhodri

Vaughan Roderick | 14:40, Dydd Mercher, 18 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Roedd 'na adeg pan oedd Cymru'n enwog am ei llysenwau. Dyw hynny ddim yn syndod efallai mewn gwlad lle mae cymaint ohonom yn rhannu llond dwrn o gyfenwau.

Ar y cyfan dyw'r arfer dim wedi cyrraedd y cynulliad. Ac eithrio Jane "Peaches" Davidson, Mark "Swiss Tony" Isherwood a Jane "Jabba" Hutt prin yw'r aelodau sydd â llysenw. Mae tarddiad llysenwau Mr Isherwood a Ms. Hutt yn ddigon amlwg. Mae'n debyg bod llysenw'r Gweinidog Cynaladwyedd yn deillio o gŵyn gan aelod seneddol bod hi i'w gweld ym mron pob un gynhadledd ac agoriad swyddogol "...she'd probably turn up for the opening of a tin of peaches of she was asked!"

Un sydd wedi osgoi llysenw hyd yma yw'r Prif Weinidog. Roedd "Rhodri" yn ddigon. Pam felly bod ambell i wag wedi dechrau cyfeirio ato fel "Uncle Bryn"?

Wel edrychwch yn . Oes 'na ryw debygrwydd rhyfedd rhwng cymeriad Rob Brydon yn Gavin a Stacey a'n Prif Weinidog? Fe wnâi adael i chi farnu.

Ar brawf

Vaughan Roderick | 18:01, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Mae Alun Cairns yn ôl wrth ei waith heddiw gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau cynulliad yr ydw i wedi siarad â nhw yn mynegi cryn gydymdeimlad â fe. Mae 'na rywbeth eithaf arswydus am ba mor ofalus y mae gwleidyddion yn gorfod bod. Gall deg eiliad o ffolineb ddryllio blynyddoedd o waith a phan mae hynny'n digwydd i un aelod mae'n naturiol efallai bod aelodau eraill yn ochri a'u cyd-wleidydd.

Beth sy'n debyg o ddigwydd nesaf felly? Wel, mae ffawd Alun i raddau helaeth yn dibynnu ar y blaid ganolog yn Llundain. A fydd 'na faddeuant iddo fel ymgeisydd seneddol ym Mro Morgannwg? Cawn weld ond mae 'na ambell i beth o'i blaid.

Yn gyntaf mae'r ffaith na fu gwleidyddion o bleidiau eraill yn unfryd wrth ei gondemio o gymorth iddo. Mae'n anodd credu efallai ond gallai'r ffaith bod gwleidyddion fel Paul Flynn a Russell Goodway wedi cyhuddo'r Ceidwadwyr o or-ymateb gyfri. Yn sicr, os oeddwn i yn rhoi cyngor i Alun fe fyddwn yn awgrymu ei fod yn ceisio sicrhâi bod rhai o'r disgrifiadau hael ohono gan ei wrthwynebwyr yn cael eu gweld gan gadeirydd y blaid Caroline Spelman.

Mae sefyllfa'r Cadeirydd ei hun hefyd yn berthnasol. Mae'r comisiynydd safonau newydd gyhoeddi ymchwiliad llawn i'r cyhuddiadau yn eu herbyn. Ydy Mrs Spellman mewn sefyllfa i gynnal gwrandawiad buan neu i fod yn llawdrwm wrth ystyried yr achos pan mae'n bosib y bydd hi ei hun yn gorfod pledio am faddeuant cyn bo hir?

Mae helyntion Alun wedi hawlio'r sylw dros y dyddiau diwethaf gan olygu ein bod ni newyddiadurwyr wedi treulio llai o'n hamser yn croniclo'r trafferthion sy'n wynebu'r Llywydd yn sgil ei alwad am foicot o ymweliad llysgennad Israel.

Fe fu'r grŵp Llafur yn trafod y sefyllfa heddiw ac mae'n ymddangos bod yr anniddigrwydd ynglŷn ag ymddygiad Dafydd El yn parhau i ffrwtian. Yn ôl un aelod Llafur does 'na ddim mwyafrif eto o blaid ceisio diorseddu'r Llywydd ond mae'r mater yn sicr o gael ei drafod eto cyn bo hir. Yr hyn sydd angen meddai'r aelod yw i Dafydd sylweddoli nad yw bod yn Llywydd y cynulliad yn gyfystyr a bod yn Arlywydd Cymru

Bys ar fotwm...

Vaughan Roderick | 15:03, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

Sylwadau (4)

O diar. Mae Rhodri Morgan newydd esbonio ei fod wedi gwthio'r botwm pleidleisio anghywir yn ystod ddadl yr wythnos ddiwethaf. Dadl ynghylch cynnig gan Peter Black oedd honno lle'r oedd y Democrat Rhyddfrydol am gyflwyno cais am yr hawl i ddeddfu i newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau lleol Cymru. Gwrthodwyd y cais hwnnw gyda'r mwyafrif llethol o aelodau Llafur yn pleidleisio yn erbyn. Roedd Rhodri yn un o ddau aelod Llafur wnaeth bleidleisio o blaid y cynnig. Nawr mae'n ymddangos ei fod wedi gwneud hynny ar ddamwain. "Mae'n rhaid derbyn y cyfrifoldeb am gamgymeriadau ac fe wnes i gamgymeriad" meddai. "Computer malfunction" oedd esboniad y Prif Weinidog- problem debyg i "wardrobe malfunction" Janet Jackson a Justin Timberlake o bosib!

Dyw hynny ddim yn ateb y cwestiwn a godwyd gan Mike German sef "pam gwrthod y cais?" Wedi'r cyfan doedd cynnig Peter Black ddim yn golygu y byddai 'na unrhyw newid yn y gyfundrefn bleidleisio. Rhoi'r hawl i'r cynulliad newid y system oedd y bwriad. Mae pwynt Mike German yn un digon teg. Os ydy Llafur o ddifri am drosglwyddo pwerau deddfwriaethol llawn i'r cynulliad pam y mae'r blaid yn gwrthwynebu cais am drosglwyddo rhan fechan o'r pwerau hynny?

Ond nid aelodau Llafur yw'r unig rhai a allai fod a safonau dwbl yn y maes yma. Rydym yn clywed byth a hefyd am yr angen am bwerau deddfu llawn. Mae 'na drafod di-ben-draw am amseriad refferendwm. Ond mae'n bosib i'r cynulliad gwneud cais am yr hawl i ddeddfu ar unrhyw bwnc ar unrhyw bryd. Sawl aelod felly sydd wedi cynnig eu henwau yn balot i benderfynu pwy fydd yn cael cyflwyno cais i ddeddfu'r mis hwn? Dim un. Edrychwch ar ;

Mesurau Balot: 11 Mehefin 2008
Ni chyflwynwyd unrhyw gynigion

Dyna ni felly. Does dim un aelod o'r cynulliad yn gallu meddwl am unrhyw bwnc lle byddai'n ddefnyddiol i gael pwerau deddfu. Cofiwch hynny y tro nesaf i un ohonyn nhw frefu am ba mor rhwystredig yw'r pwerau presennol.

Mae gen i het...

Vaughan Roderick | 13:05, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Dyw e ddim yn hawdd bob tro i wisga mwy nac un het! Cymerwch Roger Williams fel enghraifft. Yn ogystal â bod yn aelod seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed mae Roger yn llefarydd amaeth i'w blaid yn San Steffan. Yn y dyddiau datganoledig yma mae hynny, i bob pwrpas yn golygu llefaru ar amaeth yn Lloegr.
Chwarae teg i Roger am gymryd y gwaith a ddifri wrth ymosod yn chwyrn ar yr Adran Amaeth am ei harafwch yn talu cymorthdaliadau i ffermwyr Lloegr. Yng ngeiriau Roger ei hun;

In Wales 75% of farmers were paid on the first days of December so the target of 80% by the end of January for English farmers puts them at a real disadvantage when they try to compete in the market. English Farmers are being treated as 2nd Class citizens and the Government must act to ensure a level playing field in the agriculture industry across the UK.

Eithaf iawn, Roger. Oni fyddai fe'n beth ofnadwy pe bai ffermwyr Powys, dyweder, â mantais fasnachol dros eu cystadleuwyr? Dwi'n sicr eu bod yn ddiolchgar i'w haelod seneddol am weithio'n ddyfal i ddileu'r fantais honno.

Caib a rhaw

Vaughan Roderick | 12:23, Dydd Mawrth, 17 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Efallai na fydd awydd gan Lafur i ail-gynnu'r rhyfel dosbarth yn sgil isetholiad Crewe a Nantwich ond mae'n bosib bydd y demtasiwn yn ormod!

Mae gan Andrew R.T. Davies, llefarydd addysg newydd y Torïaid bedwar o blant. Mae dau blentyn ifanc yn mynychu'r ysgol gynradd leol ond mae ei blant hynaf yn cael eu haddysg yn y sector breifat. Y bore 'ma esboniodd Andrew ei fod wedi symud y ddau i ysgolion preifat am resymau'n ymwneud a phroblem bwlian yn achos un ohonyn nhw ac anghenion arbennig yn achos y llall.

Yn ogystal fe wnaeth Andrew , sy'n ffermwr, ein gwahodd i gymharu ei ddwylo fe a dwylo aelodau eraill yn y siambr- pobol meddai "sydd erioed wedi codi rhaw yn eu bywydau".

Alun druan

Vaughan Roderick | 16:22, Dydd Sadwrn, 14 Mehefin 2008

Sylwadau (8)

Dydw i ddim wedi blogio am helyntion Alun Cairns hyd yma am fy mod, mewn rhyw ystyr, yn rhan o'r stori. Wedi cyfan ar raglen Bathan Lewis a minnau y gwnaeth Alun y sylwadau anffodus sydd wedi arwain at ei ymddiswyddiad o fainc flaen y Ceidwadwyr. Mae'r manylion yn ar y brif safle.

Dw i'n gorfod gwneud yn hyn na wnaeth Alun sef dewis fy ngeiriau yn ofalus. Y peth cyntaf yr hoffwn i ddweud yw fy mod yn gwbwl sicr nad yw Alun mewn unrhyw ffordd nac yn unrhyw ystyr yn ddyn hiliol. Yr hyn ddigwyddodd, yn fy marn i, oedd ei fod mewn ymdrech i fod yn ddifyr ac yn ffraeth (ac mae darlledwyr yn ddiolchgar am wleidyddion sy'n gwneud yr ymdrech honno) wedi croesi'r llinell ynglyn a'r hyn sy'n dderbyniol hyd yn oed mewn sgwrs ysgafn.

Peidiwch camddeall. Dydw i ddim yn amddiffyn geiriau Alun. Does gen i ddim amheuaeth eu bod yn annerbyniol. Dyna yw'r rheswm y gwnes i roi'r cyfle iddo ymddiheuro yn syth a dyna yw'r rheswm iddo achub ar y cyfle hwnnw. Doedd hynny, mae'n amlwg ddim yn ddigon ond, er tegwch, dw i yn meddwl bod gwybod lle mae'r ffin rhwng yr hyn sy'n dderbyniol a'r hyn sy'n annerbyniol yn gallu bod yn anodd. Mae na eiriau a llysenwau sy'n gwbwl annerbyniol ym mhob cyd-destun, eraill sy'n dderbyniol, dyweder, ar raglen gomedi neu rhaglen chwaraeon ond dim, efallai, ar raglen newyddion.

Mae'n broblem sy'n wynebu ni'r darlledwyr yn gyson. Dw i wedi baglu fy hun fwy nac unwaith. Fe fydd hi'n drueni os ydy profiad Alun yn darbwyllo'n gwleidyddion i gadw draw o hiwmor a gwatwar yn y dyfodol. Mae 'na ormod o'n gwleidyddion yn barod sy'n siarad fel pe baent yn darllen yn robotig o rhyw sgript bleidiol. Dwi'n gobeithio nad yw Alun yn troi'n un ohonyn nhw.

Podlediad

Vaughan Roderick | 13:51, Dydd Gwener, 13 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Gareth Hughes, sylwebydd gwleidyddol ITV Wales yw'r gwestai ar y podlediad diweddaraf. Mae ganddo fe bethau mawr i ddweud am y ras i olynu Rhodri Morgan. Gwasgwch y botwm ar y dde.

Linc

Vaughan Roderick | 14:45, Dydd Iau, 12 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Mae protestwyr wedi paentio sloganau ar swyddfeydd Undebau Amaethwyr yn erbyn y cynlluniau i ddifa moch daear. Am driniaeth gerddorol o'r un pwnc cliciwch yn !

O Diar, David

Vaughan Roderick | 13:53, Dydd Iau, 12 Mehefin 2008

Sylwadau (2)

Efallai fy mod wedi llyncu rhyw gyffur egsotig trwy ddamwain ond diawl mae pethau rhyfedd yn digwydd heddiw! Yn gyntaf mae wedi yn fy nghymharu â Bill Oddie. Diolch o galon am hynny, Glyn. Nawr i goroni'r cyfan mae David Davis wedi ymddiswyddo o'r senedd.

Pan glywais y newyddion gyntaf roeddwn yn amau bod Aelod Mynwy wedi mynd i ryw strach neu'i gilydd ac y byddwn yn cael cyfle i weld a allai'r sir honno gynhyrchu ail isetholiad hanesyddol. Diolch byth y David arall, Ysgrifennydd Cartref y Ceidwadwyr, sydd wedi dewis gadael San Steffan a hynny er mwyn gorfodi isetholiad fel protest yn erbyn y mesur gwrthderfysgaeth.

Mae'r penderfyniad hwnnw wedi sicrhâi cyhoeddusrwydd a chyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthod sefyll yn ei erbyn mae Mr Davis yn saff o adennill y sedd. Serch hynny mae 'na beryglon difrifol. Mae isetholiadau'n bethau rhyfedd ac yn amhosib eu proffwydo.

Pe bawn i'n rhedeg y Blaid Lafur (a diolch byth nad ydw i) fe fyddwn i'n gwrthod enwebu ymgeisydd yn erbyn Mr Davis. Fedrai sgwennu'r datganiad nawr. Dyma fei. "Mae hon yn stỳnt wleidyddol a dyw Llafur ddim am ei dyrchafu trwy enwebu ymgeisydd. Fe fydd y llywodraeth yn parhau i weithio dros bobol Prydain ym maes terfysgaeth a meysydd pwysig eraill gan adael i'r Torïaid chwarae eu gemau gwleidyddol."

A fyddai Mr Davies yn ymddangos fel gwladweinydd neu fel dipyn o glown pe bai'n ymladd etholiad yn erbyn UKIP, y BNP a llond dwrn o bleidiau'r cyrion?


Anoracia

Vaughan Roderick | 19:12, Dydd Mercher, 11 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Mae hon yn un i'r anoraiaid! Mae ymdrech gan Peter Black i symud tuag at gynrychiolaeth gyfrannol yn y siambrau cyngor wedi methu.

Pleidleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol (am sioc!)a Phlaid Cymru o blaid gofyn am yr hawl i'r cynulliad newid system bleidleisio'r cynghorau. Gyda'r Ceidwadwyr yn ymatal roedd y canlyniad yn dibynnu'n llwyr ar bleidlais ddi-chwip yr aelodau Llafur. Yn y diwedd roedd deunaw aelod o blaid yr LCO ac un ar hugain yn erbyn.

O ystyried canlyniadau etholiadau lleol Mis Mai go brin y gellir cyhuddo'r aelodau Llafur o hunanoldeb! Mewn sawl ardal fe fyddai Llafur yn elwa o gyfundrefn gyfrannol. Mae'n debyg mai hiraeth am yr hen ddyddiau yw'r esboniad!

Shalom!

Vaughan Roderick | 15:44, Dydd Mercher, 11 Mehefin 2008

Sylwadau (1)

Does gen i ddim o'r geiriau i ddisgrifio pa mor rhemp yw'r awyrgylch yn y cynulliad yn sgil y ffrwgwd ynghylch gwahoddiad Mohammad Ashgar i lysgennad Israel ymweld â'r lle. Mae dyddiau'r cwm wedi cyrraedd o'r diwedd!

Mewn gwirionedd wrth gwrs nid y gwahoddiad sydd wedi creu'r cynnwrf ond penderfyniad Dafydd Elis Thomas i foicotio derbyniad Mr Ashgar a'r llysgennad a'i wahoddiad i aelodau eraill ddilyn ei esiampl. Mae'r alwad honno wedi cythruddo aelodau cynulliad o bob plaid sy'n credu nad yw'n briodol i Lywydd y cynulliad ymddwyn yn y fath fodd. Yng ngeiriau un aelod amlwg o'r gwrthbleidiau "oes 'na unrhyw amheuaeth y byddai Michael Martin allan ar ei glust pe bai'n gwneud rhywbeth fel hyn?"

Fe wnes i ysgrifennu peth amser yn ôl ynghylch yr anniddigrwydd cynyddol ynglŷn ag ymddygiad y Llywydd a'r comisiwn ymhlith rhai o aelodau'r cynulliad. Y broblem i'r aelodau hynny oedd eu bod wedi eu pechu naill dros bynciau weddol dechnegol megis y rheolau blogio neu rai lle fyddai 'na fawr o gydymdeimlad gan y cyhoedd fel cyhoeddi manylion eu treuliau.

Mae'r helynt y tro hwn yn wahanol ac mae 'na gyllyll yn cael eu hogi. Mae'n debyg y bydd ymddygiad y Llywydd yn cael ei drafod yn y cyfarfod nesaf o'r grŵp Llafur ac mae 'na aelodau o'r gwrthbleidiau sydd hefyd yn awgrymu bod hi'n bryd cael newid wrth y llyw.

A ddaw unrhyw beth o'r ffrwgwd? Pwy a ŵyr? Mae Dafydd El wedi hen feistroli'r grefft o dynnu blew o drwyn heb oddef unrhyw ganlyniad. Efallai mai dyna fydd yr hanes y tro yma eto. Serch hynny mae'r Llywydd yn hwylio'n agos iawn at y gwynt yng ngolwg nifer cynyddol o'n gwleidyddion.

Hen Hanes

Vaughan Roderick | 14:46, Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2008

Sylwadau (3)

Mae gwrando ar gwestiynau i'r Prif Weinidog ar brydiau yn gwneud i rywun gydymdeimlo a chymeriad Bill Murray yn Groundhog Day wrth i ni ail-fyw'r un hen ddadleuon dro ar ôl tro. Ers wythnosau bellach bu Nick Bourne yn ceisio colbio Rhodri Morgan ynghylch cyflwr yr economi. Dyw'r ymdrechion hynny ddim wedi achosi rhyw lawer o drafferth i'r Prif Weinidog ond yn ddieithriad mae rhyw aelod Llafur neu'i gilydd (Alun Davies, gan amlaf) yn codi ar ei draed i lambastio'r llywodraeth geidwadol ddiwethaf. Y gred, mae'n debyg, yw bod Margaret Thatcher a'i chriw o hyd yn rhyw fath o fwgan ymhlith etholwyr Cymru.

Cafodd Alun Davies hoe fach heddiw gan adael i Jeff Cuthbert godi'r bwgan Thatcheraidd ond pa mor effeithiol yw hwnnw erbyn hyn? Wel efallai dylai Jeff ofyn y cwestiwn hwnnw i grwt o'i etholaeth. Heddiw gwerthwyd y peldroediwr Aaron Ramsey o Gaerffili i Arsenal. Beth yw ei deimladau fe am Thatcher, tybed? Go brin fod ganddo fe nac unrhyw aelod arall o'i genhedlaeth unrhyw farn. Cafodd Aaron ei eni ym Mis Rhagfyr,1990 mis ar ol i Mrs Thatcher adael Downing Street. Mae 'na beryg i Lafur anghofio bod Thatcher yn ffigwr yr un mor ddiarth ac amherthnasol a Lloyd George neu Churchill i nifer cynyddol o bleidleiswyr.

Y Stafell Ddirgel

Vaughan Roderick | 14:05, Dydd Mawrth, 10 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnal cyfres o gyfarfodydd dros yr wythnosau nesaf i flaenoriaethu eu hymgeiswyr ar gyfer etholiadau Ewrop flwyddyn nesaf. Mae'r blaid yn gobeithio ennill sedd trwy apelio at bleidleiswyr Llafur sydd wedi eu diflasu. Efallai mai dyna'r rheswm am leoliad y cyfarfod cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe sef darlithfa James Callaghan yn adeilad Keir Hardie.

Ambell i beth...

Vaughan Roderick | 14:39, Dydd Gwener, 6 Mehefin 2008

Sylwadau (1)

Dyma ganlyniadau isetholiadau cyngor ddoe.

Casnewydd

Betws: Llaf; 1128, 890, 789, Dem. Rhydd.; 586, 451, 408, Ceid.; 331, 260, Plaid Cymru 75, Ann.50, Plaid Cymru 49, Ann 40.

St. Julians: Dem. Rhydd.; 1148, 1029, 985, Ceid.; 581, 552, 542, Llafur; 492, 467, 432, Plaid Cymru 111.

Doedd dim newid yn y naill ward na'r llall. Fe fydd trafodaethau clymblaid yn awr yn cychwyn yn y ddinas. Clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yw'r canlyniad tebygol.

Gwynedd

Bowydd a Rhiw: Llais Gwynedd 341, Plaid Cymru 247, Gwyrdd 117. Yn 2004 roedd hon yn sedd Lafur diwrthwynebiad.

Dw i'n ddiolchgar i am dynnu sylw at y frawddeg anffodus yma mewn datganiad i'w wag gan .

Blaina is looking ahead to the Youth of Blaina (YOB) celebration in August. The event promises to be a great day out for all the family and will help promote healthy living.

Mae 'na bodlediad newydd ar gael trwy wasgu'r botwm ar y dde.

Troeon Trwstan Torfaen

Vaughan Roderick | 11:17, Dydd Iau, 5 Mehefin 2008

Sylwadau (2)

Fe gafwyd ateb yn y pen draw i'r cwestiwn "sawl c sydd yng Cric(c)ieth?" ond hyd yma ni ddatryswyd pos yr un mor anodd sef sawl sillaf sydd yn y gair "Nationalist"? Pedair yw'r ateb cywir am wn i ond ers degawdau mae rhai gwleidyddion Llafur wedi dwli ar hwpo sillafau ychwanegol i mewn i'r gair wrth ymosod ar Blaid Cymru. Mae'n bosib clywed y malais a'r dirmyg yn diferu o enau Irene James neu Lynne Neagle, dyweder, wrth i'r "nash-o-na-li-is-ts" ddod o dan eu llach.

Mae gwrthod defnyddio enw cywir plaid yn hen dric mewn gwleidyddiaeth. Wedi'r cyfan term maleisus gwrthwynebwyr y Ceidwadwyr oedd "Tori" yn ôl yn oes Victoria. Mae'n debyg bod cyfeiriadau cyson Godron Brown at y "Liberal Party" a'r un cymhelliad sarhaus. Llywydd y cynulliad yw'r unig berson sy'n gallu esbonio ei gyfeiriadau unigryw at y "Rhyddfrydwyr Democrataidd" ond dw i'n amau mai rhyw esboniad gramadegol dwys sy'n gyfrifol yn hytrach nac unrhyw awydd i ddirmygu'r blaid.

Ta beth, i fynd yn ôl at Lynne Neagle a'r "nash-o-na-li-is-ts" mae'n anodd gor-ddweud ynghylch dirmyg aelod Torfaen tuag at Blaid Cymru. Hi oedd yr aelod cynulliad Llafur cyntaf i wrthwynebu cytundeb Cymru'n Un yn gyhoeddus. Dyma oedd ganddi i ddweud flwyddyn yn ôl.

"One of the many fears harboured by those of us in the Labour Party who oppose the One Wales document, centres on where this coalition is taking us long term - as a party and as a country.The facts as I see them in the One Wales document point to a fundamental and detrimental change in direction for Welsh politics. They are not facts I can ignore."

Google yw fy ffrind. Beth am fynd yn bellach yn ôl- i siambr y cynulliad yn 2004?

Lynne Neagle; Plaid Cymru asks not what devolution can do for Wales, but what it can do for Plaid Cymru. Defeated, yet hell-bent on separatism, it sees devolution as a step towards an independent Wales... Perhaps Plaid Cymru would like to state which hospital wards it would close, which teachers it would sack, and which social services it would axe to pay for independence? The bill for its constitutional obsession would not be presented to Ieuan Wyn Jones--it would be presented to the poor across Wales.

Mae wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth yn ôll hen chwedl Harold Wilson. Yn sicr mae blwyddyn yn oes.

Yn yr etholiadau diweddar collodd Llafur ei mwyafrif ar gyngor Torfaen ac roedd hi'n ymddangos y byddai grŵp o'r enw "clymblaid pobol Torfaen" yn cymryd yr awenau. Rhyw gymysgedd digon rhyfedd o Dorïaid, aelodau annibynnol, Democratiaid Rhyddfrydol ac aelodau Llais y Bobol oedd y glymblaid honno ac mae'n amlwg bod y syniad o'r Ceidwadwyr hyd yn oed yn rhannu grym yn Nhorfaen yn wrthyn i gynghorwyr Llafur Torfaen. Cymaint felly nes iddynt droi at eu hunig achubiaeth posib. A phwy oedd a'r gallu i'w hachub? Wel neb llai na'r "nash-o-na-li-is-ts" melltigedig.

Mae 'na ryw eironi hynod yn y ffaith bod Llafur wedi gorfod cyrraedd cytundeb a Phlaid Cymru er mwyn cadw grym yn iard gefn Lynne Neagle- a hynny am yr un rhesymau wnaeth arwain at y glymblaid yn y cynulliad- yr union glymblaid y bu Lynne yn clochdar yn eu herbyn. O am fod yn bry ar wal yn y CLP!

Boris y Brifddinas

Vaughan Roderick | 14:39, Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2008

Sylwadau (0)

Un o'r canlyniadau mwyaf rhyfedd yr etholiadau lleol diweddar oedd yr un yng Nghaerdydd. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol o fewn trwch blewyn i ennill mwyafrif ar y cyngor ac fe fyddai llond dwrn o bleidleisiau ychwanegol mewn wardiau allweddol wedi bod yn ddigon i'r blaid sicrhâi dros hanner y seddi.

Nawr gan amlaf mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn uchel eu cwyn am annhegwch y system bleidleisio a'u heffaith ar berfformiad y Blaid. Does dim lle i gwyno yng Nghaerdydd. Mae'n ffaith ryfedd bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dod yn drydydd yn y ddinas o safbwynt y bleidlais boblogaidd gan ennill llai o bleidleisiau na'r Torïaid a Llafur.

Mae 'na esboniad digon syml am hynny sef gallu rhyfeddol y Democratiaid Rhyddfrydol i dargedu seddi ac effeithlonrwydd eu peiriant wrth wasgu'r bleidlais dactegol. Mae tactegau'r blaid yn aml yn ennyn cymysgedd o ddicter ac edmygedd yn rhengoedd y pleidiau eraill ond yn achos Caerdydd mae ambell un o'u gwrthwynebwyr yn dechrau ystyried tacteg a fyddai dros amser yn tanseilio gafael y Democratiaid Rhyddfrydol ar y ddinas.

Ers deng mlynedd bellach mae'r gyfraith wedi caniatáu cynnal refferendwm ar ethol Maer yn uniongyrchol. Y cyfan sydd angen yw sicrhai bod digon o etholwyr yn deisebu dros gynnal pleidlais o'r fath.

Nifer bychan o ardaloedd sydd wedi gwneud hynny. Yma yng Nghymru ymgais aflwyddiannus yng Ngheredigion oedd yr unig ymdrech o'r fath. Yn Lloegr hefyd prin yw'r ardaloedd sydd wedi mabwysiadau'r gyfundrefn gyda'r pleidiau yn llusgo'u traed ar ôl gweld llwyddiannau ymgeiswyr annibynnol fel Suart Drummond ( H'angus the Monkey- mascot clwb pêl droes y dre) yn Hartlepool a phennaeth yr heddlu lleol Ray "Robocop" Mallon yn Middlesborough.

Yr hyn sy'n temtio cefnogwyr y syniad yng Nghaerdydd yw nad oes gan y Democratiaid Rhyddfrydol ymgeisydd amlwg ar gyfer y swydd. Mae arweinydd y cyngor Rodney Berman yn wleidydd effeithiol ond di-garisma tra byddai enwebu Jenny Randerson yn achosi is etholiad cynulliad.

Ond mae 'na beryglon i'r pleidiau eraill hefyd. Does dim ymgeisydd amlwg gan y Torïaid chwaith a gallai ail-agor y drws i Russell Goodway fod yn hunllefus i Lafur. Ar ben hynny p'un sydd waethaf- goddef y Democratiaid Rhyddfrydol yn rheoli neu ddyrchafu Bartley Blue i gadair y maer?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.