Cwmwl dros y gadair?
Weithiau mae'n ymddangos bod gafael Dafydd Elis Thomas ar gadair y Llywydd bron mor gadarn a digyfnewid a lle Cadair Idris yng nghalon ei etholaeth. Yn y naw mlynedd ers sefydlu'r cynulliad mae'r Llywydd wedi gwylltio ambell i aelod ar sawl achlysur. Serch hynny ar y cyfan mae'r parch at ei brofiad a'i waith wrth adeiladu'r cynulliad fel corff seneddol annibynnol o'r llywodraeth wedi sicrhâi nad oedd 'na unrhyw wir fygythiad i'w afael ar y swydd.
Nawr, mae 'na ambell i arwydd bod pethau'n newid. Gyda'r newidiadau a ddaeth yn sgil ail fesur llywodraeth Cymru bellach wedi cyrraedd rhyw fath o sefydlogrwydd mae ambell aelod yn dechrau amau bod hi'n bryd i'r Arglwydd gamu i'r naill ochr.
Mae cyfres o benderfyniadau a sylwadau gan y Llywydd a chomisiwn y cynulliad (y pwyllgor o aelodau sy'n goruchwylio'r lle) wedi corddi'r dyfroedd.
Ers tro byd mae rhai o aelodau'r cynulliad wedi bod yn cwyno bod y broses o wneud ceisiadau am yr hawl i ddeddfu yn drwsgl ac yn boenus o araf. Tan yn ddiweddar roedd y Llywydd yn mynnu mai nonsens oedd hynny. Roedd unrhyw feirniadaeth o'r gyfundrefn yn ffrwyth dychymyg newyddiadurwyr anwybodus a maleisus yn ei farn ef. Yna wrth gyflwyno tystiolaeth i'r Pwyllgor Dethol a'r Gyfiawnder rhai wythnosau yn ôl fe gyfaddefodd y Llywydd bod 'na sail i'r cwynion. Nid y drefn oedd ar fai, wrth gwrs, ond am unwaith roedd twpsod y wasg a'r teledu hefyd yn ddieuog. Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig oedd y broblem y tro hwn. Nid Aelodau San Steffan sy'n ethol y Llywydd, wrth reswm, ond fe fyddai'n ddifyr fod yn bry ar wal wrth i aelodau'r pwyllgor drafod y sylwadau hynny a'u cyd-aelodau Llafur yn y Bae!
Mae penderfyniadau diweddar ynghylch cyhoeddi manylion treuliau'r aelodau a rheolau drafft i reoli blogs hefyd wedi tynnu blew o drwyn rhai o'n gwleidyddion. Yn eu plith mae'n ymddangos mae'r aelod Llafur, Alun Davies. Yn ystod cwestiynau i Arweinydd y TÅ·, Carwyn Jones, fe ofynnodd Alun gwestiwn digon cwrtais- a fyddai'n bosib cael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch atebolrwydd y comisiwn i'r cynulliad?
Fel mae'n digwydd y Diprwy Lywdd, Rosemary Butler oedd yn y gadair ar y pryd ond does dim dwywaith mai rhybudd i'r Llywydd oedd y cwestiwn hwnnw. Ydy David Melding wedi dechrau canfasio eto?
SylwadauAnfon sylw
Dyna sy'n dod o gyfaddawdu ar gasgliadau Comisiwn Richard yn y lle cyntaf - dryswch a thâp coch, a'r Arglwydd yn ceisio honni bod popeth yn iawn, ac yn canu clod hawliau deddfwriaethol newydd y Cynulliad. Roedd yn amlwg y byddai pobl yn gweld trwy'r twyll yn hwyr neu'n hwyrach, ond twyll pwy, yn y bôn? Chwarae rôl y mae Llywydd y Cynulliad - pwy ŵyr a oedd yn wir yn credu'r hyn yr oedd yn ei ddweud ar y pryd ynglŷn â hwylustod honedig y drefn newydd! Amau dw i ei fod yn ceisio cadw'r ddysgl yn wastad. Felly mae'r Pwyllgor Dethol wedi troi'n fwch dihangol y tro hwn! Be nesa? Pryd y mae'r pwysigion yn mynd i gyfaddef mai Comisiwn Richard oedd yn iawn yn y lle cyntaf? Bydd yn rhaid inni gael refferendwm i unioni'r mater hwn - gan obeithio y bydd effaith y broses araf bresennol yn ddigon amlwg erbyn hynny!