Ie wel.....
Bant a ni eto. "Diwrnod hanesyddol yn y cynulliad". Dyna mae pawb yn dweud o leiaf. Heddiw fe arwyddodd y frenhines yr LCO gyntaf ac roedd Rhodri wrth ei fodd yn y siambr ac yn ei ddatganiad newyddion. Dyma oedd ganddo i ddweud "Am y tro cyntaf mewn pum can mlynedd mae gan bobol Cymru'r hawl i wneud deddfau i wella eu bywydau bod dydd."
Arhoswch eiliad. Hwn y'r LCO gyntaf...cywir. Ond, ac mae'n ond go bwysig, dyw'r hawl i ddeddfu y mae'r gorchymyn hwnnw'n trosglwyddo yn ddim gwahanol i'r hawliau a drosglwyddwyd eisoes yng nghrombil Mesur Llywodraeth Cymru. Mae'r pwerau hynny eisoes yn cael eu defnyddio i gyflwyno'r "mesur bwyta'n iach" a'r "mesur gwneud yn iawn am gamweddau'r gwasanaeth iechyd" sy'n ymlwybro'u fordd trwy'r cynulliad. Ehangu gallu'r cynulliad i ddeddfu mae'r LCO. Dim mwy. Dim llai.
SylwadauAnfon sylw
Perffaith iawn Vaughn. Yr LCO gynta ond mae na rhyw 40 o Faterion wedi dod trosglwyddo'n barod trwy deddfwriaeth fframwaith (rhannau o Ddeddfau a basiwyd yn San Steffan) yn y blwyddyn a hanner diwethaf. Felly hanesyddol ie, ond dim cweit mor hanesyddol chwaith.
Ond ar yr "upside" mae'r cynnydd yn y pwerau ma oleua yn dangos bod y sustem yn gweithio ar hyn o bryd; ac hefyd wrth gwrs mae hwn yn LCO eang a phwysig sy'n trosglwyddo lot o bwer i'r Cynulliad i helpu rhai o'n plant ac oedolion sy'n cael eu fethu gan y sustem bresennol.
Ond dyw'r LCO yn werth dim heb Fesur neu Fesurau yn ei sgil. Mae di cymryd blwyddyn bron i gael yr LCO yma - faint o amser gymer hi i gael Mesurau fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant ag anghenion arbennig? Blwyddyn arall efallai? Ac mae'r LCO Iaith (pan ddaw) yn debyg o gymryd llawn cymaint o amser os nad mwy, i ymlwybro ei ffordd i ddesg y Frenhines. Dim ond wedi hynny cawn ni unrhyw Fesurau Iaith. Beth yw'r ods ar gael unrhyw Fesur Iaith o sylwedd cyn 2010?
Be sydd weid digwydd i'r LCO amgylchedd? Mae o wedi diflannu!