Gwaed newydd
Roedd 'na dipyn o ffwdan yr wythnos 'ma pan awgrymodd arolwg gan Â鶹Éç Cymru bod yr ymdrechion i ddenu rhagor o bobol ifanc i eistedd ar gynghorau wedi methu.
Does dim angen poeni. Yn ôl y ymhlith ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd mae Winifred Lee (89) a Megan Rees (83). Mae'r Blaid yn cyfaddef mai chwifio'r faner mae'r ddwy mewn wardiau nad oes gobaith eu hennill. Does dim gwirionedd yn y si eu bod wedi gwahodd y glaslanc Menzies Campbell i ymgyrchu ar eu rhan!
Mae gwrthwynebydd Ceidwadol Mrs. Lee Peter Davies wedi ymateb mew modd digon bonheddig. "I consider she will be a most charming opponent." meddai. Hefyd yn sefyll i'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghasnewydd mae mab a merch yng nghyfraith arweinydd grŵp y blaid ar y cyngor. Go brin y bydd Peter Davies yn gweld hynny fel nepotistiaeth. Wedi'r cyfan mae'n dad i David Davies, aelod seneddol Trefynwy.