Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cwffio'r Cynghorau

Vaughan Roderick | 14:37, Dydd Mawrth, 8 Ebrill 2008

Iawn , dyma ni yn ôl yn y Bae. Fe fydd pethau'n ddi-stop o nawr tan yr etholiadau lleol. Mae'r enwebiadau i rheiny wedi cau ac wrth bori trwy'r rhestri mae 'na ambell i stori ddifyr eisoes yn amlwg. Y gyntaf yw'r cynnydd sylweddol yn nifer yr ymgeiswyr Ceidwadol o 347 tro diwethaf i 515 y tro yma. Serch hynny fe fydd y Torïaid yn siomedig bod Plaid Cymru wedi eu curo o drwch blewyn gyda 518 ymgeisydd yn sefyll. Mae hi hefyd yn nodweddiadol bod Llafur wedi methu ac enwebu rhestr lawn o ymgeiswyr mewn ambell i gyngor pwysig megis Caerdydd ac Abertawe. Hwn yw'r tro cyntaf i hynny ddigwydd i mi gofio.

Lan yng Ngwynedd mae presenoldeb Llais Gwynedd a'r Ceidwadwyr yn golygu mai dim ond llond dwrn o etholiadau sy'n ddiwrthwynebiad y tro hwn. Serch hynny mae'n ymddangos bod gallu "Llais Gwynedd" i ddod o hyd i ymgeiswyr yn llai na'u gallu i greu stŵr ar Faes Caernarfon a'r tonfeddi radio. Problem wahanol sy'n wynebu "Llais y Bobol" ym Mlaenau Gwent. Mae'r grŵp hwnnw wedi enwebu llwyth o ymgeisiwyr ond mewn cyfres o wardiau maen nhw'n wynebu ymgeiswyr annibynnol yn ogystal ag ymgeiswyr Llafur. Mae ymddangos bod hi'n ras rhwng Llafur, Annibynwyr Swyddogol ac Annibynwyr Annibynnol ym Mlaenau Gwent. Gallai hynny fod yn achubiaeth i Lafur.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 19:24 ar 8 Ebrill 2008, ysgrifennodd Penyberth:

    Mae yna gystadleuaeth ym mhob un o wardiau Cyngor Bwrdeistref Wrecsam ond chydig iawn lle mae'r ras dim ond rhwng dau. Nifer fawr hefyd o gynghorau cymuned yn gystadleuol...ddeudodd yna rywyn rywbeth am apathi yn ynghlwm a gwleidyddiaeth Cymru?

  • 2. Am 14:19 ar 10 Ebrill 2008, ysgrifennodd Paul:

    Mae 19 o gynghorwyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad yng Ngwynedd, sef dros chwarter - mwy na "llond dwrn". Serch hynny, mae'n welliant sylweddol o'i gymharu â'r sefyllfa yn y gorffennol pan oedd bron i hanner y seddi'n cael eu llenwi heb etholiad.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.