Scots Wha Hae
Dyma ddolen fach ddifyr. Mae Senedd yr Alban wedi lansio (os mai dyna yw'r gair cywir) i redeg yn gyfochrog a'r safleoedd Saesneg a Gaeleg. Mae Stormont hefyd yn cydnabod Scoteg fel iaith ar wahân.
Dw i ddim am fentro i'r tir peryglus o drafod sut yn union mae diffinio'r gwahaniaeth rhwng iaith a thafodiaith. Wedi'r cyfan roedd Serbo-Croat yn cael ei ystyried yn un iaith cyn i Iwgoslafia ddatgymalu. Fe drodd yn ddwy ac yna'n dair ar ol i lywodraeth Montenegro ddatgan y llynedd bod y dafodiaith syn cael ei siarad yn y wlad honno hefyd yn iaith ar wahân.
Ta beth, os ydych chi'n cael trafferth deall yr Albanwyr yn y gêm yfory gallai hynny fod yn brawf ei bod hi'n iaith ar wahân... neu fod y chwisgi'n llifo yn nhafarndai Caerdydd!
SylwadauAnfon sylw
Dwi'n meddwl mai Samuel Johnson ddywedodd mai'r gwahaniaeth rhwng iaith a thafodiaith ydi fod gan iaith fyddin tu cefn iddi.
Mae Saesneg a Scoteg yn llawer mwy gwahanol na Iseldireg a Fflemeg, er enghraifft.
Dwi'n cofio dod ar draws cylchlythyr Scots rhyw flwyddyn neu ddwy yn ol, sef Scots Tung Wittins - mae werth mynd draw i'w gwefan nhw (https://uk.geocities.com/rfairnie@btinternet.com/index.html) am sbec ar yr ol-rifynnau. Yn bersonol, dwi ddim mor betrusgar a Vaughan (ond eto dwi ddim yn gweithio i'r Â鶹Éç). Dyw Scots ddim yn iaith, mwy nad yw Gwynedd yn genedl. Ar binsh, mae hi'n dafodiaith, ac os 'di rhywun yn bod yn onest, acen wedi ei chofnodi ar bapur ydi hi.
Ella bod hynny'n swnio fel sylw dilornus, ond dwi'n credu bod 'na bwynt difrifol i'w wneud. Os yw pob man amrywiaeth tafodiaethol yn cael ei ystyried yn iaith, yna mae'n tanseilio statws arbennig iaith go iawn. Dyna sydd wedi digwydd yn Iwerddon, lle mae unoliaethwyr yn mynnu bod Ulster Scots yn iaith gyfartal a Gaeleg. Dyw hi ddim, ond mae dweud hynny'n ffordd o sgorio pwyntiau yn erbyn y Gweriniaethwyr.
Deall pwynt Dyfrig, ac mewn cyd-destun arall, mae llywodraeth Sbaen wedi ceisio tanseilio'r Gatalaneg trwy ddweud fod y Gatalaneg a siaradir yn Valencia yn iaith ar wahan. Ond fel ddywedodd fy nghyfaill Catalanaidd o Barcelona, 'dwi'n siarad Valensianeg bob dydd!'
Mae statws Scots yn anodd. Petai'r Beible wedi ei chyfieithu i'r iaith yn y G16 yna mi fase'n cael ei chonsidro'n iaith arwahan yn enwedig gan iddi ddatblygu'n annibynnol o Saesneg Lloegr ers ddechrau'r canol oesoedd. Dyna'n fras ddigwyddodd gyda Swedeg a Daneg neu Galisieg a Portwgeeg. Yn y diwedd mater o dewis gwleidyddol yw galw iaith yn iaith ac nid tafodiaith.
Os gall Wrdw ddweud ei bod yn iaith wahanol i'r Hindi er mai'r wyddor yw'r prif wahaniaeth rhwng y ddwy iaith, yna am wn i gall Scots hawlio'r un peth. Y pwynt pwysig yw fod y dewis hwnnw'n cael ei wneud gan y gymuned frodol ac nid (fel yn achos Valencia yn enwedig) gan gymuned ieithyddol fwy sy'n ceisio tanseilio'r iaith lai.