Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Ffeit!

Vaughan Roderick | 11:45, Dydd Mawrth, 26 Chwefror 2008

Mae Dydd Gŵyl Dewi'n dod. Roedd 'na Ddraig Goch ar y wal a daffodils ar y ddesg yng nghynhadledd newyddion y llywodraeth heddiw a Rhodri Morgan mewn hwyliau da wrth draethu ar bopeth o lwyddiant y tîm rygbi i hawliau dynol yn Tsiena.

Ond roedd 'na eithriad, un pwnc lle'r oedd ymateb y Prif Weinidog yn ddigon swrth. Pan ofynnais iddo beth oedd yn digwydd ynghylch yr ELCO iaith a'r strategaeth addysg Gymraeg dyma oedd ei ymateb "Mae'n anodd iawn gwneud running commantary ar y pethau 'ma...mae'r strategaeth hefyd yn mynd ymlaen". Nawr, o gofio safonau arferol Rhodri a'i barodrwydd i barablu am unrhyw beth dan haul bron mae'r ateb cwta hwnnw yn rhyfeddol.

Pam felly yr oedd Rhodri mor amharod i draethu? Wel, mae 'na esboniad syml. Yn enwedig yn sgil yr helynt ynghylch "Y Byd" mae Plaid Cymru yn benderfynol o ddelifro ELCO fydd yn plesio cenedlaetholwyr ieithyddol. Mae Llafur ar y llaw arall yr un mor benderfynol na ddylid cymryd unrhyw gam allai arwain at orfodaith yn y sector breifat. Mae'n debyg bod sawl trafodaeth faith rhwng y Prif Weinidog a'i Ddirprwy wedi methu sicrhâi cyfaddawd hyd yn hyn a dyw geriad aneglur y cytundeb clymblaid o ddim cymorth.

Mae'r Ceidwadwyr yn gwneud eu gorau glas i fanteisio ar y sefyllfa. Heddiw cyhoeddodd y blaid y bydd 'na gyfieithu ar y pryd am y tro cyntaf erioed yn ei chynhadledd yr wythnos hon. Yn ogystal addawyd y byddai llywodraeth Geidwadol yn cynyddu'r cymorth i'r Wasg Gymraeg i'r chwe chan mil o bunnau yr oedd "Y Byd" yn deisyfu. O safbwynt yr ELCO galwodd y blaid am gais syml fyddai'n trosglwyddo'r hawliau deddfu ieithyddol cyflawn o San Steffan i Gaerdydd.

Pryd y'n ni'n debyg o weld yr ELCO felly? "Yn y Gwanwyn" yw'r ateb swyddogol. Wel y tro diwethaf edrychais i mae'r blodau mas a'r corau meibion yn dechrau canu "Moliannwn". Mae amser yn mynd yn brin!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:20 ar 26 Chwefror 2008, ysgrifennodd Silurian:

    "...galwodd y Blaid am gais syml fyddai'n trosglwyddo'r hawliau deddfu ieithyddol cyflawn o San Steffan i Gaerdydd"

    Yn dechnegol (neu'n gyfreithiol) ydy'n bosibl i drosglwyddo pwerau i Gaerdydd sy'n gosod oblygiadau ar gyrff cyhoeddus gyda'u pencadlysau yn Lloegr? Yn arbennig os byddai'r ELCO yn trosglwyddo pwerau i newid yr oblygiadau. Arwyddion dwyieithog yn yr Hen Ogledd unrhywun?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.