Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mea Cwlpa

Vaughan Roderick | 11:22, Dydd Gwener, 7 Rhagfyr 2007

Maddeuwch i mi am beidio blogio'r wythnos 'ma. Ac eithrio dod i fewn i gyflwyno CF99 a Dau o'r Bae dw i wedi bod adre'n sal gan foddi mewn hunan dosturi yn y modd gwrwaidd arferol.

Pe bawn i wedi bod 'ma mae'n debyg y byswn wedi rhannu ambell i stori am Peter Hain, Huw Lewis a Lynne Neagle. Dw i'n rhuthro i ddweud mai straeon difyr yn hytrach na sgandalus yw'r rheiny. Wythnos nesaf efallai!

Yn y cyfamser dw i wedi bod yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant neu "Ysbyty Camilla" fel mae'n cael ei adnabod yn lleol. Bues i'n pendroni ynghylch yr enw hwnnw nes i feddyg esbonio "Mae'r lle 'ma hanner ffordd rhwng Penybont a Merthyr...ni'n dod rhwng y 'Princess of Wales" a'r 'Prince Charles` felly".

Yn y cyfamser mae Bethan Lewis wedi gofalu am y podlediad. Gwasgwch y botwm ar y dde o bnawn Gwener ymlaen.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.