Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Poeni am bleidlais

Vaughan Roderick | 14:44, Dydd Llun, 1 Hydref 2007

Pump rheswm dros alw etholiad

1.Momentwm; Efallai mai tacteg i anesmwytho'r Torïaid oedd y sôn am etholiad i ddechrau ond fe fyddai tynnu yn ôl nawr ymddangos yn wan. Fe fydd hanes Jim Callaghan yn1978 yn chwarae ar feddyliau Llafur.
2.Yr economi; Mae'r rhagolygon economaidd yn gymylog a dweud y lleiaf. Dyw hi ddim yn amhosib bod yr Unol Daleithiau yn wynebu dirwasgiad- sefyllfa a fyddai'n pery problemau byd eang. Dyw hynny ddim o reidrwydd yn newyddion gwleidyddol drwg. Mae'n bosib y byddai'r etholwyr yn troi at hen law profiadol fel Gordon mewn argyfwng ond dyw hynny ddim yn sicr.
3.Yr arolygon; Mae'n anodd dychmygu y bydd 'na well arolygon barn i Lafur na'r rhai presennol. Os nid nawr...pryd?
4.Yr aelodau awyddus. Mae aelodau'r Blaid yn awchu am etholiad. Mae hynny'n wir ym mhob rhan o'r DU ond yn enwedig yng Nghymru lle mae'r blaid yn awyddus i ddangos mai storom Awst oedd etholiad y cynulliad.
5.Arweinwyr anwadal; Mae arweinwyr y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymddangos yn simsan ar hyn o bryd. Does dim pwrpas rhoi cyfle iddynt adfer eu sefyllfaoedd nac i'w pleidiau newid y llaw wrth y llyw.

Pump rheswm dros beidio galw etholiad

1.Yr Alban; Yn ôl yr arolygon diweddaraf fe fyddai Llafur yn ennill 40% o'r bleidlais mewn etholiad cyffredinol gyda'r SNP yn denu 35%. Nid yn unig y byddai Llafur yn colli seddi ond fe fyddai'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn dioddef gan danseilio opsiynau Llafur mewn senedd grog. A beth am y sibrydion y gallai Alec Salmond sefyll yn erbyn Gordon Brown yn Kirkcaldy?
2.Arian; Mae sefyllfa ariannol y Ceidwadwyr yn hynod o iach o gymharu a Llafur. Gyda'u trysorydd Michael Ashcroft yn bwriadu rhoi hyd at £25,000 i bleidiau lleol mewn etholaethau ymylol gallai hi fod yn anodd i Lafur gystadlu.
3.Oedran y rhestr; Fe fydd y rhestr etholwyr newydd yn dod i rym ar ddechrau Mis Rhagfyr. Amcangyfrifir y gallai miliwn o bobol golli eu pleidlais oherwydd oedran y rhestr bresennol. A phwy yw'r bobol hynny? Yr ifanc yn benna sef yr union grŵp sydd fwyaf cefnogol i Lafur.
4.Y tywydd; Wyt Tachwedd yn oer a'th farrug yn wyn...
5.Fi; Dw i fod ar wyliau.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 20:44 ar 1 Hydref 2007, ysgrifennodd Cai Larsen:

    Mi fyddwn i wedi rhyfeddu os na fydd GB yn galw etholiad cyffredinol cyn diwedd wythnos nesaf.

    Weithiau bydd y pethau yma'n magu momentum eu hunain, a phan fydd hynny'n digwydd mae'n anodd iawn rhoi stop ar bethau.

  • 2. Am 09:45 ar 2 Hydref 2007, ysgrifennodd Helen:

    Byddai'n well galw etholiad cyn diwedd mis Hydref - pan drown yn ôl at GMT, bydd hi'n tywyllu'n gynt.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.