Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Colli'r Colegau

Vaughan Roderick | 13:07, Dydd Mercher, 3 Hydref 2007

Os oeddwn i'n Ddemocrat Rhyddfrydol fe fyswn i'n poeni fy mol am y posibilrwydd o etholiad cynnar. Dyw hwn ddim yn gyfnod da i'r blaid ta beth ond mae 'na un ffactor ychwanegol a allai'n costi'n ddrud i'r blaid. Y ffactor honno yw oed y rhestr etholwyr ac effaith tebygol hynny ar bleidleisiau myfyrwyr.

Dyw'r rhestr newydd ddim yn dod i rym tan y cyntaf o Ragfyr. Mae hynny'n golygu nad yw'r mwyafrif llethol o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf wedi eu cofrestri a bod nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n wedi eu cofrestri mewn hen gyfeiriadau.

Mae hi'n bosib wrth gwrs i ymuno a'r rhestr ar fyr rybudd ac i bleidleisio heb gerdyn pleidleisio ond faint fydd yn gwneud hynny mewn gwirionedd?

Yn etholiad 2005 roedd pleidleisiau myfyrwyr yn allweddol mewn sawl etholaeth, Ceredigion a Chanol Caerdydd yn eu plith. Roedd safiad Charles Kennedy yn erbyn rhyfel Irac yn hynod ddylanwadol ymhlith yr ifanc ond mae'n ymddangos bod pwysigrwydd y pwnc hwnnw wedi gostegu ers ymadawiad Tony Blair.

Gallai etholiad ar yr hen restr fod yn hunllefus i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Does ond angen edrych ar restr o'i seddi i weld pam. Gorllewin Rhydychen... Caergrawnt...Gorllewin Caeredin...Hazelgrove... a llawer mwy.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 17:48 ar 3 Hydref 2007, ysgrifennodd Gareth Williams:

    A ddylai Myfyrwyr gael Pleidleisio mewn seddi Coleg beth bynnag? Mae'n anodd gweld sut mae treulio 7-8 mis mewn blwyddyn am 3 mlynedd yn ddigonol. Defnyddio fy mhleidlais yn Ynys Mon yn hytrach na yng Nghonwy wnes i tra'n y Brifysgol.

  • 2. Am 09:39 ar 4 Hydref 2007, ysgrifennodd Helen:

    Dyw cynnal etholiad ar yr adeg hon ddim heb gynsail, o gofio etholiadau 15 Hydref 1964 a 10 Hydref 1974 – efallai bod mwy o obaith i Blaid Cymru adennill Ceredigion os cawn etholiad cyn hir. Er fy mod yn credu yr aiff Hywel Williams i mewn yn etholaeth newydd Arfon pryd bynnag y cynhelir etholiad, mae’n bosibl y bydd ei fwyafrif yn fwy heb y myfyrwyr hynny sydd eto i’w cynnwys ar y gofrestr etholwyr, a chymryd y byddai cyfran helaeth o’r rheiny’n ffafrio Llafur. Mae cynnal etholiad ar ôl i’r clociau droi’n ôl at GMT yn mynd i fod yn wahanol i’r ddau achlysur uchod, a byddwn yn pryderu ynglŷn â’r niferoedd a fydd yn mentro mynd i bleidleisio ar ôl gwaith gyda’r nos os bydd hi’n dywyll.

    Er gwaetha’r ffaith fod 78.7% wedi mynd allan i bleidleisio yn Chwefror 1974, erbyn hyn, mae llawer o bobl fel pe baent yn rhy ofnus i fentro allan yn y tywyllwch oherwydd yr holl gyhoeddusrwydd y mae troseddu treisgar yn ei gael – math o droseddu nad yw, mewn gwirionedd, yn effeithio ond ar ganran fach iawn o’r boblogaeth, a hynny’n aml mewn golau dydd. Ar ben hynny, yn anffodus, erbyn hyn, mae fel pe bai ton o ddifaterwch wedi ysgubo dros rannau helaeth o’r boblogaeth, fel y bydd cyrraedd ffigurau Chwefror 1974, yn fy marn i, yn amhosibl. Erbyn hyn, o ran cael pleidleiswyr allan, dwy ddim yn credu bod cynnal etholiad adeg GMT yn beth doeth oni bai bod rheswm hynod o gryf dros fentro.

    Ffactor arall yw anghydfod diwydiannol y gweithwyr post, sydd ar fin mynd ar streic ac yn addo mynd ar fwy o streiciau ysbeidiol yn y dyfodol – oni bai bod yr anghydfod yn cael ei ddatrys yn hynod o fuan, gallai fod oedi cyn dosbarthu anerchiadau etholiadol! Mae llawer iawn yn y fantol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.