Trafferth am deitlau
Dw i'n dechrau alaru ar flogio ynghylch y busnes enwau yna. Dw i'n sicr eich bod chi'n cofio'r ddadl. A ddylid newid enw Llywodraeth Cynulliad Cymru i Lywodraeth Cymru ac oes gan y cynulliad yr hawl i wneud hynny?
Mae cyfaill o Â鶹Éç yr Alban yn codi pwynt diddorol. Os ydym am lynu wrth lythyren y ddeddf oni ddylid disgrifio Gordon Brown fel Prif Arglwydd y Trysorlys? Wedi'r cyfan does dyw'r swydd o Brif Weinidog ddim yn bodoli'n swyddogol. Mater o arfer a chwrteisi yw'r teitl hwnnw
SylwadauAnfon sylw
Peter Black yn galw hi "Llywodraeth Cymru" yn y Senedd hefyd, yn ystod dadl y Democratiaid Rhyddfrydol ddydd Mercher
Dwi ddim yn hoff o Lywodraeth Cymru ac n waeth fyth, Welsh Government. Beth yw San Steffan - jyst 'the Government' am wn i.
Na, Llywodraeth Cymru i fynd 'y Llywodraeth / the Government'; San Steffan i fod yn 'Llywodraeth Prydain neu San Steffan / the British Government neu Westminster Government.'
Mae galw'r Cynulliad yn 'Llywodraeth Cymru neu Welsh Government' ond yn dad-normaleiddio Cymreictod ac normaleiddio Prydeindod. Prydeindod yw'r default go iawn, amrywiad arno neu abnormalrwydd arno yw 'Welsh Government'.