麻豆社

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Sylwadau'r Sul

Vaughan Roderick | 19:54, Dydd Sul, 12 Awst 2007

Ymddiheuriad i ddechrau. Oherwydd problemau technegol roedd hi'n amhosib postio nifer o'ch sylwadau tan heno. Sori.

Dw i'n siwr eich bod wedi sylwi fy mod wedi bod yn slacio'r wythnos 'ma. Adeiladu'r 鈥減ergola鈥 oedd un rheswm ond roddwn hefyd yn teimlo ychydig allan o gysylltiad gan nad oeddwn yn mynd i'r Steddfod eleni. OCE Mae 'na wleidyddiaeth y tu hwnt i'r maes ond roeddwn yn tybio mai yn Yr Wyddgrug y byddai'r rhan fwyaf o bethau fyddai'n diddori darllenwyr y blog yma yn digwydd.

Ta beth,mae'n bryd i mi geisio dychwelyd at y gwasanaeth arferol. Dw i'n gweld y Sunday Times yn hynod ddiddorol. Gyda Llafur deg pwynt ar y blaen mae'r posibilrwydd o etholiad cynnar yn codi ei ben o ddifri.

Yn sgil yr arolygon diweddaraf mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod, o bosib, wedi bod yn anghywir mewn dau beth. (Diawl dw i'n dweud 鈥渟ori鈥 lot heddiw). Yn gyntaf roeddwn mwy neu lai wedi diystyru'r posibilrwydd o etholiad eleni gan feddwl mai Mis Mai nesaf fyddai'r dyddiad cynharaf posib. Dw i'n dechrau newid fy meddwl am ddau reswm.

Yn gyntaf, nid yn unig mae mis mel Gordon Brown yn parhau ond mae'r ffigyrau yn gwella o ddydd i ddydd. Fe fyddai gwireddi arolwg y Sunday Times, er enghraifft, yn golygu sicrh芒i mwyafrif tebyg i fwyafrifoedd 1997 a 2001. Yr ail ffactor yw'r cynnwrf yn y marchnadoedd arian. Os ydy'r trafferthion yn parhau (ac mae hynny'n os fawr) fe fydd hynny'n effeithio ar yr economi go-iawn, ond dim am rai misoedd. Mae'r pethau yma'n cymryd amser. Fe allai fod yn demtasiwn i gynnal y bleidlais cyn i'r stormydd daro.

Yr ail le dw i'n meddwl i mi wneud camgymeriad oedd yn y gyfres o erthyglau rhai wythnosau yn 么l ynghylch maes y gad yr etholiad cyffredinol. Roeddwn yn sgwennu gyda'r rhagdybiaeth y byddai Llafur yn colli rhiw faint o dir, o leiaf. Ar y pryd fe ddywedodd rhyw un (Cai Larsen dw i'n meddwl) fod hynny'n beryglus. Efallai ei fod e'n iawn.

Fel 么l-nodyn felly os oedd Llafur yn ymgyrchu'n ymosodol yn hytrach na'n amddiffynnol pa etholaethau y byddai'r blaid yn gobeithio eu cipio?

O'r seddi Ceidwadol yn sicr fe fyddai Gorllewin Clwyd yn darged a Phreseli hefyd. Fe fyddai Mynwy, fe dybiwn i, y tu hwnt i'w cyrraedd. Dw i ddim chwaeth yn rhagweld sefyllfa lle byddai Llafur yn gallu ail-gipio Canol Caerdydd na Dwyrain Caerfyrddin.

Mae hynny'n gadael yr Arfon newydd ac Aberconwy. Mewn blwyddyn dda i lafur gallai'r ddwy fod yn ymylol gyda Arfon yn fwy addawol nac Aberconwy. Fe fyddai angen cythraul o bleidlais bersonol i Beti i Lafur ennill y sedd honno, hyd yn oed os ydy'r arolygon yn gywir. Dw i wedi dweud o'r blaen, ac fe ddwedai eto, fe fyddai gan Beti well gyfle yn Arfon.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 09:29 ar 13 Awst 2007, ysgrifennodd Helen:

    Pe bai Betty'n sefyll yn Arfon, byddai hi'n bendant yn ennill pleidleisiau trigolion pentref Talysarn, ond efallai na fyddai ei hymgeisyddiaeth yn cael cymaint 芒 hynny o effaith y tu allan i'w phentref brodorol hi. Mae eisiau cadw mewn cof fod blynyddoedd wedi mynd heibio ers iddi fod yn Gynghorydd Sir (yn yr hen Wynedd eang, a ddaeth i ben ym 1996). Felly mentraf ddweud yn weddol hyderus mai Hywel aiff i mewn yn etholaeth Arfon - efallai gyda llai o fwyafrif nag a gafodd Alun Ffred yn etholiadau'r Cynulliad, ond 芒 mwyafrif digon parchus, yr un fath.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.