Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Chwefror 2012

Ar Daith Yn Sŵn Yr iaith

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 10:46, Dydd Iau, 9 Chwefror 2012

Sylwadau (0)

"Dad. Pam maen nhw'n galw'r iaith Gymraeg yn famiaith?"

"Achos, na 'toes na ddim gobaith i dy dad ddeud gair, pan mae dy fam o gwmpas."

Yr wythnos yma, 'dwi di clywed mamau, tadau, a phlant yn ei siarad hi, ac wedi gweld yr iaith ar waith, wrth i mi grwydro o'r gogledd i'r de, yn hel straeon ar gyfer rhaglen Nia'r wythnos nesa.

Fe gychwynnodd y daith yn Nhafarn y Saith Seren yn Wrecsam, sydd bellach yn ganolfan i ddysgu'r Gymraeg, mewn awyrgylch gyfeillgar a chymdeithasol. "'Da ni'n agos iawn at y ffin yma" medda Marc Vaughan Jones, un o'r bobol sydd y tu ôl i'r fenter "ac mae hi'n frwydr i gadw'r iaith yn fyw.

Ond mae'r ymateb i sefydlu'r ganolfan, wedi bod yn gadarnhaol iawn. 'Roedd y lle'n orlawn i glywed Gwibdaith Hen Fran yn perfformio yno, wythnos ynghynt, ac fe fydd na fwy o nosweithiau cerddorol tebyg yn y dyfodol."

O Wrecsam, draw i'r Rhewl ac at fedd, un o gymwynaswyr mwyaf yr iaith Gymraeg, ac ymladdwr diflino ar ei rhan, Emrys ap Iwan. Ganrif yn ôl roedd o'n dadlau y dylai'r Gymraeg gael statws swyddogol llawn 'er mwyn sicrhau urddas pobol Cymru'. Mae'n eironig iawn felly fod 'na, yn anffodus, wall ieithyddol ar ei garreg fedd. Mwy am Emrys, a'r garreg fedd ddydd Mercher ar raglen Nia.

Yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac yng nghwmni Lyn Lewis Dafis, fe ges i olwg ar lyfr bychan ei faint ond mawr ei ddylanwad. Y llyfr cyntaf erioed i gael ei gyhoeddi yn y Gymraeg a hynny ym 1546. Yn y llyfr hwn, ydi teitl y llyfr , ac fe gewch chi glywed beth sydd yn y llyfr fore Iau.

Galw heibio Llanelli wedyn i gael hanes yr Ysgol Gynradd Gymraeg gyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru drigain a phump o flynyddoedd yn ôl i 'leni. Pen-blwydd hapus Ysgol Gymraeg Dewi Sant Llanelli.

Fe ddaeth y daith i ben yn ein prifddinas, ac yn Swyddfa Menter Iaith Caerdydd, lle bu Siân Lewis yn sôn am yr amrywiol ffyrdd sydd gan y Fenter o hybu'r iaith, o ddosbarthiadau Splish Splash i famau a'u babis, i gyngherddau pop cyffrous a gwyliau teuluol o bob math.

Mae 'na gyfle i chithau' felly deithio yn sŵn yr iaith ar raglen Nia'r wythnos nesa', a chlywed y sgyrsiau, ac os oes 'na rywbeth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi, gadewch i mi wybod drwy e-bostio hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹Éç iD

    Llywio drwy’r Â鶹Éç

    Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.