Â鶹Éç

Help / Cymorth

Archifau Awst 2011

Crefft y Bardd Cocos

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 09:45, Dydd Mercher, 3 Awst 2011

Sylwadau (0)

Fe gyrhaeddodd y dilyniant yma o gerddi gystadleuaeth y Goron yn rhyw hwyr i gael eu hystyried. Ond oherwydd safon uchel y gwaith, a meisrolaeth lwyr y bardd ar rythm ac odl, penderfynwyd cyhoeddi gwaith Cocosfardd.

BAR-DDONI
Amser maith yn ôl
Roedd y frawdoliaeth farddol
Yn mwynhau alcohol
Ac yn mynd i'r dafarn i greu twrw
Ac yfad cwrw
A wedyn yn 'u medd'dod
Yn mynd i'r Steddfod.
Erbyn hyn mae na far ar y maes
Wrth ymyl y pafilion
I gyfarfod cyfeillion
Lle gewch chi sipian sauvingion,
Unrhyw 'ddrink'
Nes bydd eich wynab chi'n bink.

Cyri ar ôl y Cwrw
Wyddoch chi be' ffrindia
Mae'r bwyd o India-
Yn werth pob dima
'Nenwedig y tikka
A'r bara nan efo chytni.
Biti
Na 'does na'm Balti
Dupiaza, neu Bhuna
Hwnna
Sy'n mynd lawr fel bom
Ar ôl tair popadom.
Ond peidiwch byth a chael Madras
Neu fe fyddwch am vind- i'r- loo
Medda nhw!

Canu Corawl
Llongyfarchiada
I'r cora.
Y gora
Oedd Cor y Mochyn Du
Nhw aeth a hi
Ac nid Aber tei fi.
Ond mae nhw'n haeddu un o'r gwobra
Am ganu
Efo gwen ar 'u gwyneba
(Er fod un neu ddau yn eighty two)
'I mewn i'r Arch a nhw'
Nefi Blw!
Mi fasa Noa
Wedi licio honna.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

O Gwmpas y Maes - Arwyddion

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:50, Dydd Mawrth, 2 Awst 2011

Sylwadau (0)

Newid Dynion: Dyma'r lle i fynd os 'da chi wedi cael llond  bol ar y gŵr.

Newid Dynion: Dyma'r lle i fynd os 'da chi wedi cael llond bol ar y gŵr.

Allan. Os 'da chi'n chwilio am y Prifardd -  mae o newydd fynd ffor 'cw!

Allan. Os 'da chi'n chwilio am y Prifardd - mae o newydd fynd ffor 'cw!

Ynglyn a cathod. Cofiwch dreiglo-ynglyn â chathod. Hefyd 'fy mhwsi,dy bwsi,
...ac yn y blaen.

Ynglyn a cathod. Cofiwch dreiglo-ynglyn â chathod. Hefyd 'fy mhwsi,dy bwsi, ...ac yn y blaen.

Druid: Dyma lle mae'r Archdderwydd yn  cadw'n heini.

Druid: Dyma lle mae'r Archdderwydd yn cadw'n heini.

Parker Plant Hire: Os da chi wedi anghofio dwad â Wili a'i chwaer fach efo chi- gewch chi logi rhei am y diwrnod gan Mrs Parker.

Parker Plant Hire: Os da chi wedi anghofio dwad â Wili a'i chwaer fach efo chi - gewch chi logi rhei am y diwrnod gan Mrs Parker.

Boots: Handi iawn os 'da chi am fynd i gerdded Dyffryn Clwyd.

Boots: Handi iawn os 'da chi am fynd i gerdded Dyffryn Clwyd.

Cyfieithu 'Cymen'. Yda chi'n dwad?

Cyfieithu 'Cymen'. Yda chi'n dwad?

Cig Moch Cymraeg: Cymreig ydi moch, tydan nhw ddim yn siarad  Cymraeg, onibae eu bod nhw'n foch Môn wrth gwrs!!

Cig Moch Cymraeg: Cymreig ydi moch, tydan nhw ddim yn siarad Cymraeg, onibae eu bod nhw'n foch Môn wrth gwrs!!

Pytiau Eisteddfodol

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Hywel Gwynfryn | 11:11, Dydd Llun, 1 Awst 2011

Sylwadau (0)

'Unwaith eto Gymru annwyl'......dyma ni, (wel, rhai o honna ni) yn y 'Steddfod. Ai fi 'di'r unig un sy'n teimlo fod yr eisteddfodau 'ma yn cyrraedd yn gynt bod blwyddyn. 'Dwi'n siwr mai dim ond rhyw wythnos sy' 'di mynd heibio ers i mi ddwad adra o 'Steddfod Blaenau Gwent.

Eleni mae na hogyn lleol, Stifyn Parri, yn crwydro'r maes yn ystod ein darllediadau yn holi hwn a'r llall. Dydd Sadwrn 'roedd o'n sgwrsio efo pobol ifanc egniol oedd yn neidio i fynny ac i lawr ar 'trampoline'. Fe fu ein harwr hefyd, yn ddigon dewr i neidio ar y gwely a phrofi ei fod yntau yr un mor heini, a ddim mor drwm a hynny chwaith, drwy fownshio i'r entrychion. Stifyn Pari o'r Rhos, a'r tramp o Lyn! (Llyfr jocs Hylo Sut 'da Chi? C. 1968)

Stifyn Parri

Ar ôl mynd drwy'r brif fynedfa i'r maes, fe welwch chi gar coch ar
werth mewn raffl, ac mae'n amlwg fod nofelydd mwya' Lloegr am brynnu car mwy sy'n cyfateb i'w statws.

car coch

Clywed mam eisteddfodol yn dweud fod 'Ennill yn bwysig, ond dysgu colli yn bwysicach' 'Sgwn i. 'Da chi'n cofio geiriau Carwyn James, wrth annog y Llewod i fuddugoliaeth arall? 'Wining isn't everything- but loosing is nothing.'

Ymhen wyth awr fe fydda i yn cael cwmni enillydd coron Eisteddfod Llanelli, Dylan Iorwerth, ac fe fyddwn ni'n dau yn gwylio seremoni'r Coroni yn y pafiliwn. Hynny ydi, os na fydd yr hyn ddigwyddodd yn 1896, 1916,1939, 1940 a 1956, yn digwydd eto eleni, a'r Archdderwydd yn gorfod cyhoeddi 'Neb yn deilwng'. Ac i'r rhai ohonach chi sy'n mwynhau nosweithiau cwis-tafarn dyma'r atebion yn eu trefn-Llandudno,Aberystwyth, Dinbych, Aberpennar, ac Aberdar.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹Éç iD

    Llywio drwy’r Â鶹Éç

    Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.