Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Taith y Corau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Hywel Gwynfryn | 13:44, Dydd Iau, 21 Ebrill 2011

Mae hi wedi bod yn fis prysur iawn yn gerddorol a hithau'n fis cerddoriaeth.

Wrth gwrs i aelodau corau Cymru a'u harweinyddion mae pob mis yn llawn cerddoriaeth wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cyngherddau'r Pasg a'r ddwy Eisteddfod Genedlaethol.

Yr wythnos nesa fe fydda' i yn mynd ar daith gerddorol o'r Gogledd i'r De ac yn ymweld â Chôr Meibion Llangwm, Côr Cynta' i'r Felin, Lleisiau'r Lli, Lleisiau'r Cwm, a Meibion Taf.

yr haul yn machlud fel pelen o dân uwch Dyffryn Aman

Neithiwr, a'r haul yn machlud fel pelen o dân uwch Dyffryn Aman, fe es i draw i Lanaman i gyfarfod â Catrin Hughes ac aelodau Lleisiau'r Cwm yn ymarfer.

Yn ddiweddar dan ei harweiniad hi, fe enillodd ail gôr Catrin, sef Cantata, bleidlais y bobol yng Nghystadleuaeth Corau Cymru S4C. Fe fydd 'na gyfle i chi glywed Lleisiau'r Cwm ar Radio Cymru yn ystod rhaglen Eleri Siôn, nos Iau nesa' ac fe gawn ni glywed hanes rhai o aelodau'r corau yma ar raglenni Caryl a Dafydd, Nia a Geraint Lloyd yn ystod yr wythnos.

Lleisiau'r Cwm

Cofiwch os oes 'na straeon diddorol yn eich ardal chi cysylltwch efo fi drwy e-bost: hywel@bbc.co.uk

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹Éç iD

    Llywio drwy’r Â鶹Éç

    Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.