Bandiau pres a phebyll beirniaid
Singing in the Rain; thema o un o ffilmiau James Bond; un o ganeuon Elton John. Dyna glywson ni ar lwyfan y pafiliwn yn ystod cystadlaethau y bandiau. Fe ddaeth 'na ugain o fandiau i'r gwahanol gystadlaethau, pedwar ohonyn nhw wedi teithio o'r gogledd -Seindorf Arian yr Oakley, Band Tref Llandudno, Seindorf Arian Deiniolen a Band Llanrug.
Ein cwmni ni, Rhiannon a finna', yn y cwt cerddorol oedd Julian Jones, arweinydd Band Pres Crwbin, ac roedd eleni yn flwyddyn hanesyddol. Pam? 'Roedd y beirniad yn weladwy. Fel arfer mae'r beirniad yn anweledig mewn pabell ynghanol y pafiliwn. 'Doedd ganddo ddim syniad pa fand oedd ar y llwyfan, a phan oedd o'n barod i feirniadu 'roedd o'n chwythu chwiban. Y cwestiwn mawr ydi - beth yn union oedd y beirniad yn ei wneud yn ei babell? Oedd ganddo wely yno, cyfleusterau i goginio bwyd iddo fo'i hun, jacuzzi er mwyn ymlacio? Pwy a ŵyr.
'Rwan, os 'da chi'n credu fod yr olygfa 'dwi newydd ei disgrifio yn debyg i sgetsh gan Monty Python a'i griw - mae 'na well i ddod. Oherwydd, er fod y beirniad cuddedig bellach i'w weld yn ei holl ogoniant ac yn gwybod yn iawn pwy sy'n cystadlu, 'does gan yr arweinydd ar y llwyfan ddim hawl i enwi'r band, er ei fod o'n cael enwi'r arweinydd. Pwy a ŵyr efallai mae'r cam nesa fydd gwneud i'r bandiau wisgo mygydau fel na fedran nhw weld y beirniad.
'Doedd na ddim cyfle i grwydro'r maes ddoe, ar wahân i bicio draw i'r pafilwin bwyd am focs o reis a chyri cyw iar. Ond fe fydd na fwy o gyfle heddiw gan ein bod ni'n cychwyn ein darlledu'n hwyrach ar Radio Cymru - o 2 tan 6 heno. Mwy o fandiau prynhawn 'ma, yn ogystal â'r unawd piano, â'r unawd i offerynnau pres a'r corau dan 35 o leisiau. Un o'r corau sy'n cystadlu ydi côr Glanaethwy sydd newydd ddychwelyd ar ôl bod yn cystadlu mewn Mabolgampau Cerddorol yn China.
Fe ges i gipolwg ar Rhys Lloyd ar y Maes. Mae o a'i frawd Gwyn a'u chwaer Nest yn hel atgofion am eu tad y bardd O M Lloyd yn y Babell Lên heddiw am chwarter i ddau. Mae gen i atgofion plentyn o fod yn stiwdio'r Â鶹Éç yn Neuadd y Penrhyn yn cyd-actio o flaen y meic efo Rhys. Os 'dwi'n cofio'n iawn, cyfres hanesyddol oedd hi: 'Ar Grwydr yng Nghymru'.
Gyda llaw am hanner dydd mae Gwilym Roberts yn cynnal gweithdy ar Maes D i ddysgu'r Anthem Genedlaethol. Oes 'na rhywun wedi gweld John Redwood ar y Maes?