Â鶹Éç

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gwr y goriad arian

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Hywel Gwynfryn | 14:55, Dydd Mercher, 5 Awst 2009

Unwaith eto'r prynhawn yma am hanner awr wedi pedwar fe fydd Robert Currie Mcbride, Ceidwad y Cledd, yn cario'r cleddyf mawr yn urddasol i'r llwyfan.

Swydd bwysig sydd angen dyn cyhyrog a chydnerth i'w chyflawni, gan fod y cleddyf yn pwyso rhyw ddeg pwys ar hugain.

Ond oeddech chi'n gwybod fod 'na geidwad arall ar faes, sydd wrth ei waith am wyth o'r gloch y bore?

Fo ydi Ceidwad yr Allwedd, Gwr y Goriad Arian.

eisteddfod_arthur.jpg

Yn 'Steddfod Yr Wyddgrug 2007 y derbyniodd o'r agoriad sy'n cloi holl ddrysau'r pafiliwn. A dyna ydi un o ddyletswyddau Arthur Evans am wyth o'r gloch bob bore.

Ar fy ffordd i gladdu brecwast eisteddfodol arall yr oeddwn i pan welais i Arthur wrth
ei waith, ac fe fuom ni'n rhannu atgofion am Eisteddfodau'r gorffennol.

'Roedd Arthur yn cofio mai ei Steddfod gynta' oedd Llanrwst ac fe gafodd o ei lun wedi ei dynnu efo Bob Roberts, Tai'r Felin - y canwr pop Cymraeg cyntaf, yn ôl Dafydd Iwan.

'Steddfod 1957 yn Llangefni oedd y Steddfod gynta' 'dwi'n ei chofio. Roeddwn i'n chwarae rhan Meffiboseth yn 'nrama gomisiwn yr Eisteddfod.

Ond gan fy mod yn anghofio fy ngeiriau drwy'r amser, 'roedd y cast wedi fy ail fedyddio yn Messobopeth!

Unwaith eto diolch i Arthur a'r llu stiwardiaid am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud i sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.

Mwy o’r blog hwn…

Pynciau dan sylw

    °ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

    Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

    Cyfranwyr diweddaraf

    Â鶹Éç iD

    Llywio drwy’r Â鶹Éç

    Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.