Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cefn llwyfan gyda Nia Lloyd Jones - Dydd Llun Awst 6

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Nia Lloyd Jones Nia Lloyd Jones | 17:51, Dydd Llun, 6 Awst 2012

Wel diwrnod prysur iawn heddiw!

Mae hi bob amser yn braf gweld cystadleuwyr yn dychwelyd i'r llwyfan yn flynyddol - ac mae hynny'n sicr yn wir am Gwenllian Llyr a Glain Dafydd. Roedd y ddwy yn cystadlu ar y ddeuawd offerynnol agored heddiw ond doedd y broses o ymarfer ddim yn un hawdd.

Ar hyn o bryd mae Gwenllian yn astudio yn Ysgol Juilliard yn Efrog Newydd a Glain yn y L'Ecole Normal ym Mharis.

Roedd Gwenllian nôl ar y llwyfan wedyn yn cystadlu am y Rhuban Glas Offerynnol.

Y ddau arall yn y gystadleuaeth honno oedd Elfair Grug Dyer a Rhodri Taylor. Dw i wedi dilyn gyrfa y ddau yma hefyd ers blynyddoedd bellach ac mae hi bob amser yn braf cael sgwrs hefo nhw. Ond Gwenllian ddaeth i'r brig heddiw.

Teimlo'n lwcus
Un o'r cystadleuwyr dan 12 oed heddiw oedd Erin Meirion ac mae hi'n credu'n gryf mewn 'lucky charms'. Roedd ganddi hi rai arbennig iawn - rhwng y tegan meddal, y freichled a'r fodrwy ar y gadwyn, heb anghofio'r blodyn yn ei phoced.

Fe eglurodd Erin bod rhain i gyd er cof am ei Anti Elen - fu farw'n frawychus o sydyn yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedd Elen yn ffrind coleg i mi a dwi'n siwr y byddai hi wedi bod wrth ei bodd yn gweld Erin yn canu cystal heddiw gan drysori'r atgofion melys ohoni hefyd.

Bangkok
Hogan brysur iawn ydy Nest Jenkins. Mae hi'n delynores o fri yn ogystal â bod yn llefarwraig ddawnus hefyd. Llefaru oedd hi heddiw a dydd Sul nesaf fe fydd hi'n mynd draw i Bangkok - gan ei bod hi wedi derbyn ysgoloriaeth i gystadlu mewn gŵyl i'r delyn yno. A chyn i neb ofyn ... na tydy hi ddim yn gorfod cludo'i thelyn ei hun yno!

Cystadleuydd prysur
Os oedd Nest yn brysur heddiw, roedd 'na un cystadleuydd arall yn brysurach fyth. Y gŵr bonheddig hwnnw oedd Cai Fôn Davies - oedd ar y llwyfan bedair gwaith bore 'ma. Ac yn syth ar ôl gorffen cystadlu, roedd o ar ei ffordd i ragbrawf arall! Mae un peth yn sicr - mae o'n gadael y maes heddiw yn ddyn cyfoethog iawn!

Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Rhydian Jenkins hefyd. Yn ogystal â bod yn ganwr o fri mae Rhydian hefyd yn chwaraewr rygbi addawol iawn, ac yn aelod o dim dan 16 oed y Gweilch. Ond er hynny roedd o'n awyddus i bwysleisio ei fod yn parhau i gefnogi'r Scarlets.

Traed neu Iwerddon?
Wyneb newydd i mi oedd Steffan Evans oedd yn cystadlu ar y gystadleuaeth i'r delyn Geltaidd. Mae Steffan mewn dipyn o bicil ar hyn o bryd gan ei fod o yn aros am ei ganlyniadau lefel A ac angen penderfynu wedyn os ydy o am fynd i astudio podiatreg yng Nghaerdydd neu mynd draw i Limerick yn Iwerddon i astudio cerddoriaeth Wyddelig. Roedd o'n cyfaddef ei fod yn hoff iawn o gerddoriaeth y wlad honno ond bod ei dad yn falch iawn ei fod yn chwarae alawon Cymreig ar y llwyfan heddiw.

Nerfau
Llefaru dan 16 oedd Joseff Glyn Clwyd Owen a fo enillodd heddiw. Doedd o ddim yn nerfus chwaith ond roedd o'n cyfaddef fod ei fam yn swp sâl gefn llwyfan!

Hen stejar
Un sydd wedi hen arfer bod ar lwyfan y Genedlaethol ydy Mared Elin Williams a llongyfarchiadau mawr iddi ar ennill dwy wobr gyntaf heddiw. Ac roedd Mared yn gwisgo dwy ffrog wahanol ar y llwyfan ond erbyn gweld roedd 'na reswm da dros hynny - gan ei bod hi hefyd yn aelod o barti llwyddiannus Dyffryn Clwyd ac angen ymuno hefo nhw yn syth ar ôl cystadlu.

Un o'r 'boys'
Un o'r rhai ddaeth draw i 'ngweld i gefn llwyfan heddiw oedd Ifan Jenkin. Doedd o ddim yn cystadlu ond roedd o'n awyddus i ddweud helo - gan nad oedden ni wedi gweld ein gilydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Mae Ifan yn unawdydd piano talentog iawn ac mae o hefyd yn aelod o 'Only Boys Aloud'. Maen nhw newydd arwyddo cytundeb hefo Sony ac mae Ifan wrth ei fodd gan ei fod o hefyd yn aelod o'r academi sydd gan y bois. Braf iawn oedd cael sgwrs hefo fo heddiw.

Cystadleuaeth deuluol
Roedd 'na ddwy chwaer yn cystadlu yn erbyn ei gilydd heddiw yng nghystadleuaeth y dawnsio creadigol unigol - sef Eurgain Sara Lloyd a Naomi Melangell Lloyd. Cari Lloyd oedd yn gyfrifol am eu hyfforddi nhw - sef chwaer arall!

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau fideos, blogiau a newyddion o'r Maes

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.