Â鶹Éç

Archifau Ebrill 2012

Yr Urdd a brwydrau'r cae pêl-droed

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Meredith Elin Meredith | 12:19, Dydd Gwener, 27 Ebrill 2012

Sylwadau (0)

Yr wythnos hon, Sir Benfro sy'n cael sylw ein mudiad ieuenctid, Urdd Gobaith Cymru, gyda gwyl gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 2013 yn cael ei chynnal yn nhref Hwlffordd ddydd Sadwrn, Ebrill 28.

Ynghanol hwrlibwrli'r dathlu, sy'n cynnwys gorymdaith goch, gwyn a gwyrdd drwy'r dref, bydd rhai o bobl ifanc y fro yn cael cyfle herio rhai o sêr ifanc S4C mewn gêm bêl-droed.

Ymysg y wynebau adnabyddus fydd yn rhedeg ar y cae am 2.30pm yn stadiwm Dôl-y-Bont bydd Rhydian 'Mega' Bowen Phillips, Gareth 'Cyw' Delve, Alun 'Stwnsh' Williams a Max a Iolo o Pobol y Cwm. Yn gobeithio eu trechu bydd aelodau Pwyllgor Ieuenctid Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro 2013. Pob lwc i'r ddau dîm - mae'n anodd gwybod pa ochr fydd gan y mwyaf i'w brofi!

Llun o Alun Ffred Jones AC yn torri'r dywarchen yng Nglynllifon gyda Meriel Parry a Ian Rees

Alun Ffred Jones AC yn torri'r dywarchen yng Nglynllifon gyda chadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Meriel Parry a Phennaeth Coleg Meirion-Dwyfor, Ian Rees.

Yr wythnos diwethaf, Eryri oedd y canolbwynt i drefnwyr yr Urdd, wrth iddyn nhw wahodd Alun Ffred Jones AC i dorri'r dywarchen gyntaf ar gaeau gwyrdd stâd Glynllifon a fydd wedi eu trawsnewid yn faes un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop ymhen llai na chwe wythnos.

A phêl-droed oedd y pwnc yno hefyd wrth i Mr Jones ddwyn i gof ei gysylltiad â'r mudiad dros 45 mlynedd: "Mae gen i atgofion melys o gymryd rhan mewn corau, partïon adrodd a drama," meddai'r Aelod Cynulliad dros Arfon a'r cyn Weinidog Treftadaeth "ond mae'n rhaid imi gyfaddef mai'r uchafbwynt i mi oedd ennill Cwpan Pantyfedwen am chwarae pêl-droed yn y 1960au."

Atgoffwyd ni gan y cyn gyfarwyddwr teledu, a chyd greawdwr y gyfres gomedi-gwlt C'mon Midffild, o gêm bêl-droed 'seleb' arall y tro diwethaf i'r Urdd ymweld â Glynllifon (Eisteddfod Dyffryn Nantlle 1990) pan gafwyd brwydr rhwng tîm lleol a superteam o actorion Pobol y Cwm a Midffild.

Addawodd Alun Ffred hefyd y byddai'r gêm honno yn 1990 yn cael ei 'choffáu' ar nos Wener Eisteddfod yr Urdd 2012 ac awgrymodd yn gynnil y byddai Mr Picton ei hun, o bosib, yn bresennol. Asiffeta!

A chyda llaw, i'r rheiny ohonoch sydd yn edrych mlaen at gyrraedd maes yr Urdd yn Eryri mewn steil drwy fwa crand stâd fawr Glynllifon, fyddwch chi ddim yn gallu.

'Twll' yn wal Glynllifon

Y twll mae'r Urdd wedi ei greu yn wal Glynllifon ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2012

Yn hytrach mae perchnogion y safle, Coleg Meirion-Dwyfor, wedi caniatáu i'r Urdd wneud twll mawr yn wal enwog Glynllifon i greu mynedfa newydd sbon i'r 100,000 o ymwelwyr maen nhw'n ei ddisgwyl i'r maes yn ystod yr wythnos, fel y gwnaethon nhw yn 1990.

Ond maen nhw wedi addo rhoi pob carreg yn ôl yn ei hunion le yn ofalus pan fydd y cyfan drosodd ar Fehefin y 9fed a'r golygon yn troi am Sir Benfro.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.