麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Tynged yr wythnos

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 16:39, Dydd Gwener, 17 Chwefror 2012

Ar Saunders Lewis, pum darlithydd newydd a rhagor o Saunders Lewis a thynged iaith y bu pwyslais yr wythnos. Dyma rai dyfyniadau am hynny ac ambell i beth arall . . .


  • Tynged yr Iaith; bu鈥檔 gatalydd i achub math o Gymreictod. Ond fel ateb i dynged yr iaith, yr oedd y targed yn un anghywir. Ni all unrhyw iaith fyw ar sail un dosbarth yn gweithio mewn un sector gyflogaeth 鈥 Guto Bebb AS y cyntaf o bum darlithydd ar Radio Cymroar achlysur hanner canmlwyddiant darlith radio Saunders Lewis. Dywedodd mai chwyldro ymhlith y dosbarth canol yn unig achoswyd gan y ddarlith.听听听

  • Efallai mai nad y cysyniad o le ydi鈥檙 peth pwysicaf . . . Onid yr hyn y mae pobl yn ei wneud 芒鈥檜 hiaith a鈥檜 Cymreictod sy鈥檔 cyfrif? Mae hynny鈥檔 wir ym mhob maes, boed yn y dre, yn y wlad neu鈥檙 ddinas. Neu, yn wir, ar y rhyngrwyd. Mae ffenomenon fel Twitter, sy鈥檔 gymuned ynddi hi鈥檌 hun, yn enghraifft wych o鈥檙 modd y mae鈥檙 Gymraeg wedi hawlio鈥檌 lle yng nghanol m么r o drydar byd-eang - Rhys Iorwerth, yr ail ddarlithydd.听听

  • Oherwydd diofalwch gwleidyddol (dwn i ddim pam) mae arweinwyr y sianel [S4C] wedi bod yn afrad gyda鈥檙 cyfalaf diwylliannol a roddwyd iddyn nhw fel braint, nid busnes- Gwyneth Lewis, y trydydd i ddarlithio. Gofidiai mai 鈥渕ethiant mwyaf鈥 ei chenhedlaeth hi o siaradwyr Cymraeg yw yr hyn a alwodd 鈥測 gostyngiad trychinebus yn ansawdd rhaglenni a nifer gwylwyr S4C鈥.

  • Y gwir am Tynged yr Iaith yw mai鈥檙 weithred o sefydlu Cymdeithas yr Iaith a rydd arwyddoc芒d hanesyddol iddi. Pe na sefydlwyd y Gymdeithas, fe fyddai Tynged yr Iaith yr un mor anghofiedig heddiw ag ysgrifau eraill Saunders Lewis ar y Gymraeg. Nid darlith am dynged yr iaith sydd yma, ond darlith am dynged y mudiad iaith, sef am y bobl sydd am adfywio鈥檙 Gymraeg, a鈥檜 tactegau 鈥 Simon Brooks y pedwerydd i ddarlithio.听听

  • Fydd dim ofn arna鈥檌 bwyso ar sefydliadau i gydymffurfio. Fydd dim ofn arna鈥檌 herio neu wthio ffiniau. Fydd dim ofn arna鈥檌 ddefnyddio fy mhwerau gorfodi, ac 鈥 ie 鈥 cosbi hefyd lle bydd angen. Byddaf yn llais dros yr iaith Gymraeg, yn eiriol dros siaradwyr Cymraeg. Dyna fy addewid, a dyna fy mraint 鈥 Meri Huws y pumed darlithydd a fydd yn cychwynyn ei swydd fel Comisiynydd Iaith Ebrill 2.