麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Ac yn dwedyd

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 11:24, Dydd Gwener, 10 Chwefror 2012

Bagiau plastig, S4C, rygbi, gwallt Savage a chyfrinach priodas berffaith. Detholiad arall o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos. A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw

  • Roedd arwyddo'r cytundeb hwn yn un o benderfyniadau hawsaf fy mywyd 鈥 Brendan Rogers yn penderfynu aros gyda th卯m p锚l-droed yr Elyrch yn Abertawe tan 2015.
  • Yng Nghaernarfon yr oedd yn glir bod gogledd a de Cymru 鈥 gwledig yn erbyn trefol, Cymraeg yn erbyn Saesneg,么l-amaethyddol yn erbyn 么l-ddiwydiannol 鈥 yn cas谩u ei gilydd 鈥 Stephen Moss yn y 鈥楪uardian鈥 ddydd Llun. Dywedodd hefyd mai Coventry mewn cystadleuaeth 芒 Chaernarfon oedd y lle mwyaf dilewyrch iddo ymweld ag ef yn ystod taith o amgylch Prydain.

  • Dwi erioed wedi gwneud dim byd er mwyn ennill arian. Dw i wastad wedi derbyn swyddi a mynd ar 么l swyddi oherwydd yr her a鈥檙 sialens 鈥 Ian Jones, Prif Weithredwr S4Cmewn cyfweliad gyda .

  • Gwasanaeth ydi S4C yn y lle cyntaf ond mae鈥檔 rghaid dod at hynny gydag agwedd busnes 鈥 Ian Jones, Prif Weithredwr S4C mewn cyfweliad yn Y Cymro.

  • Y gwir amdani ydi 鈥檓od i鈥檔 mynd i siopa鈥檔 amlach dros y ffin erbyn hyn am y rheswm syml eu bod nhw鈥檔 dal i roi bagiau plastig am ddim 鈥 Elin Llwyd Morgan yn rhifyn Chwefror o
  • Mae rhai eglwysi yn neilltuo yr wythnos hon fel Wythnos Priodas. Sylfaen priodas dda . . . yw鈥檙 geiriau o鈥檙 Gwasanaeth Pridas, yr wyf yn addo bod yn ffyddlon yn fy nghariad, yn dyner yn fy ngofal ac yn onest a chywir ym mhob peth 鈥 Dalen flaen Y Goleuad.

  • Gwelsom fod cael tynnu pwythau wythnos wedi anaf yn adeg lle mae modd addysgu - Yr Athro Jonathan Shepherd o Adran Ymchwil Trais a Chymuned Prifysgol Caerdydd yn trafod cynllun sy鈥檔 galw ar nyrsysi wneud pobl yn ymwybodol o beryglon yfed.听听
  • Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Efallai y dygai鈥檙 iaith hunan-lywodraeth yn ei sgil: 鈥榳n i ddim. Mae鈥檙 iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth 鈥 Bydd geiriau Saunders Lewis mewn darlith hanner can mlynedd yn 么l yn destun trafod mawr yr wythnos nesaf.

  • Be sy鈥檔 ddoniol yw na fydda i byth yn bwyta 鈥榝ishcakes鈥 a doeddwn i ddim wedi cael un cyn hon a fyddai ddim yn cael un arall eto 鈥 Stephen Jones o Langefni Ynys M么n wedi iddo ddarganfod llyngyren mewn 鈥榝ishcake鈥 a brynodd o siop.

  • Yr ydw i鈥檔 hoffi鈥檙 dyfyniad gan wraig o Aberdaron ym Mhen Ll欧n yn dweud 鈥楴a鈥 pan ofynnwyd iddi a fuhi erioed yn Llundain. 鈥淵r ydw i鈥檔 gweld y lle yn bell iawn o bob man,鈥 medda hi 鈥 Selwyn Jones yn y 鈥楧aily Post鈥 ddydd Llun.

  • Mae鈥檙 gwaith ymhell o fod wedi ei orffen 鈥 Carl Sargeant, y gweinidog Lywodraeth Leol, yn cyhoeddi y bydd comisiynwyr yn gofalu am Gyngor Ynys M么n am flwyddyn arall.

  • Mae fel gwneud un pryd o fwyd ond bod un o鈥檙 gwesteion yn llysieuwr, un yn vegan ac un arall ar Atkins DietPwyll ap Si么n yn disgrifio yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y 鈥楧aily Post鈥 ei waith diweddaraf i Opera Cenedlaethol Cymru.

  • Wrth daflu Gerallt Pennant a Meinir Gwilynm ar y clwt a s么n am arlwy mwy 鈥榯abloid鈥 mae S4C yn croesi ffin bendant ac mae鈥檔 gwbl annerbyniol 鈥 Angharad Tomos yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y 鈥楧aily Post鈥.

  • Roeddwn am greu tafarn y byddwn i'n hoffi mynd iddi a thafarn sy'n canolbwyntio ar gwrw yn hytrach na bwyd 鈥 Peter McGivern, tafarnwr The Bridge End Inn, Rhiwabon a ddewiswyd yn dafarn orau Prydain gan CAMRA, yr ymgyrch cwrw go iawn.听听

  • Arferai maestro Cymru ar yr asgell fod yn ddewin bach yn awr mae鈥檔 anghenfil ar garlam gwyllt 鈥 Ian Chadband, Prif Ohebydd Chwaareon y 鈥楧aily Telegraph鈥 ddydd Llun yn cymharu Shane Williams a George North.

  • Rhoddais y cyfan a allwn i i鈥檙 t卯m ond dydw i ddim yn meddwl imihaeddu gwobr Chwaraewr y G锚m. Yr oedd yna gymaint o fechgyn a chwaraeodd yn dda ac yr oedd cwpl o gyffyrddiadau George North o safon byd -Mike Phillips yn dilyn y g锚m yn erbyn Iwerddon.

  • Yr ydym yn mynd i lawr yno gyda鈥檙 bwriad o gau鈥檙 to a chwarae 鈥 Ross Ford, capten Yr Alban, yn gobeithio chwarae gyda tho Stadiwm y Mileniwm ynghau ddydd Sul.

  • Wel, be allai ddweud? Robbie Savage ydi Robbie Savage. Wn i ddim sut y gall neb garu ei wallt gymaint ag y mae o鈥檔 i wneud 鈥 Pasha Kovalev o Strictly Come Dancing yn y 鈥楧aily Post鈥 heddiw ar drothwy perfformiad gyda Katya Virshilas yn Y Rhyl.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.