麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Llygod a Chathod

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Glyn Evans | 08:28, Dydd Gwener, 27 Ionawr 2012

Yr awdur Philip Pullman agorodd y drws i mi i lyfr annisgwyl o ysgytwol am yr Ail Ryfel Byd, Maus gan Art Spiegleman.

Digwyddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru mewn gwesty ger Abergele oedd yr achlysur, dipyn dros ddeng mlynedd yn 么l bellach, a Pullman yn brif siaradwr.

Dewisodd siarad am Maus Spiegelman a鈥檌 edmygedd o鈥檙 gwaith o ran ffurf, cynnwys ac effaith.

Mae鈥檔 naturiol cofio am yr achlysur hwnnw heddiw, diwrnodsydd wedi ei neilltuo i gofio鈥檙 Holocost gan mai cofnod 鈥comic strip鈥 neu graffig o鈥檙 straen enbyd honno ar ddynoliaeth ydi Maus.

Cofiant ar ffurf cyfweliadau a lluniau cart诺n o fywyd tadyr arlunydd, Vladek Spiegelman, a鈥檌 brofiad personol ef a鈥檌 wraig Anja, ymhlith chwe miliwn a mwy o Iddewon eraill, o鈥檙 Holocost.

Mae鈥檔 gofnod ysgytwol o ranei stori a鈥欌檙 modd y鈥檌 darlunnir a鈥檙 teitl Maus (llygoden mewn Almaeneg) yn deillio o鈥檙 ffaith mai fel llygod y darlunnir yr Iddewon yn y stori a鈥檙 Nats茂aid oedd a鈥檜 bryd ar eu difa yn gathod.

Mae anifeiliaid eraill hefyd a chymeriadau unffurf er mwyn tanlinellu gwiriondeb gwahaniaethu rhwng pobl ar sail hil.

Darlunnir bywyd Vladek yng Ngwlad Pwyl cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn garcharor gydag Anja, ac wedi hynny yn byw yn Efrog Newydd yn ceisio dygymod 芒鈥檌 orffennol.

Mae鈥檔 stori am ddigwyddiad anferthol ac ynddi bethau mawr i鈥檞 dweud a hynny mewn ffurf annisgwyl a hynny yn ei dro yn gwneud y cyfan yn fwy ysgytwol fyth. Mae lluniau sy鈥檔 brawychu.

Mae Maus yr unig gomic erioed i ennill gwobr Pulitzer a daeth yn destun astudiaeth mewn ysgolion a phrifysgolion yn cael ei drin fel cofnod hanesyddol ac fel ffuglen. Fe鈥檌 cyfieithwyd i ddeunaw o ieithoedd.

Er mai yn 1986 yr ymddangosodd y gyfrol gyntaf, o ddwy, yr oedd yn ffrwyth tair blynedd ar ddeg o waith cyn hynny gyda鈥檙 fersiwn greiddiol yn gweld golau dydd听听 yn 1972 mewn cylchgrawn tanddaearol, Funny Aminals.

Ymddangosodd fersiwn estynedig yn 1977 mewn cylchgrawn arall o鈥檙 enw Raw a gyd-olygwyd gan Spiegelman a鈥檌 wraig, Fran莽oise Mouly.

鈥淢ae fy Nhad yn Gwaedu Hanes鈥 - My Father Bleeds History 鈥 oedd teitl cyfrol gyntaf 1986 gyda鈥檙 ail, And Here My Troubles Began, yn cael ei chyhoeddi yn 1991.

Erbyn heddiw gellir eu prynu mewn un gyfrol.

Atgof trawiadol, ysgytwol a dirdynnol er gwaethaf 鈥 neu oherwydd 鈥 ei ffurf o staen enbyd ar ddynoliaeth.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.