麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Deg Dolig

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 10:06, Dydd Llun, 19 Rhagfyr 2011

Gydag ond ychydig ddyddiau i fynd nes y cawn ni ddweud, Wel, dyna hwnna drosodd am flwyddyn arall, mae鈥檔 werth llunio rhestr funud olaf o鈥檙 llyfrau sydd wedi dal llygad rhywun ymhlith y nifer fawr sydd wedi eu cyhoeddi.

Ein rhestr flynyddol o ddeg uchaf wedi ei gosod yn gadarn ar sylfaen mympwy bersonol a dim byd arall.

Felly, ffwrdd a ni.

1. Kate 鈥 Cofiant Kate Roberts - Cyfrol fawr yr 诺yl o ran maint ac o ran sylwedd. Torth o lyfr sydd wedi cael sylw鈥檔 bennaf am 鈥榙datgelu鈥 bod awdur Te yn y Grug, fwy na thebyg, yn 鈥榞ay鈥 yn y grug hefyd.
Ond dydi damcaniaeth Alan Llwyd ddim wedi argyhoeddi pob adolygydd gyda Derec Llwyd Morgan yn Golwg a J Graham Jones yn Y Cymro yn cwyno nad oes digon o dystiolaeth bendant yn cael ei chynnig gyda Derec Llwyd Morgan yn cyfeirio yn dweud: 鈥淩hyfyg hunandwyllodrus biau datganiad o鈥檙 fath, ac y mae鈥檔 diraddio鈥檙 awdur a鈥檌 lyfr.鈥
Fodd bynnag, mae llawer mwy na鈥檙 ddamcaniaeth hon i鈥檙 honglad o lyfr gan Alan Llwyd ac mae ei olwg gwerthfawr ar fywyd a gwaith yr awdures yn afaelgar a difyr. Lolfa. 拢19.95.

2. Tony ac Aloma: Cofion Gorau 鈥 I begwn arall gyda hunangofiant dau o gantorion pop mwyaf poblogaidd Cymru yn eu dydd a ddaeth 芒 chaffi digon disylw ar ochr yr A5 yn y Gaerwen, Sir F么n, a鈥檌 weinyddesau Pat a Janice ac Elisi a Gwen i sylw鈥檙 genedl.
Fel gyda Kate mae mater rhywiol i fynd 鈥榠鈥檙 afael ag ef yma hefyd, yn benodol y berthynas rhwng y canwr, Tony, a鈥檙 gantores, Aloma, sydd yn briod 芒 rhywun arall.
Mae hwn eto yn ferf芒d o lyfr ac yn cynnwys nifer o luniau atgofus.
Nid cofiant cyntaf y ddau, fodd bynnag. Cyhoeddwyd Mae Gen i Gariad gan Edgar Jones yn y Saithdegau. Lolfa. 拢9.95.

3. Tannau Tynion 鈥 Rhaid i hyd yn oed un fel fi 鈥 sy鈥檔 ddigon giamllyd o鈥檙 troleidiau o hunangofiannau Cymraeg sy鈥檔 cyrraedd ein siopau 鈥 gydnabod bod un Elinor Bennett Wigley o ddiddordeb arbennig. Mae鈥檙 rhan lle mae鈥檔 s么n am fagu dau blentyn a gollwyd yn eu harddegau cynnar oherwydd salwch yn ddwys ac yn ddyrchafol yr un pryd ac yn cael ei drin yn 芒 sensitifrwydd arbennig. Cyfres y Cewri. Gwasg Gwynedd. 拢8.95.

4. Sgymraeg 鈥 Be fyddem ni wedi ei wneud heb Sgymraeg dros y blynyddoedd? Achos, oedd, yn wir, yr oedd y fersiwn wachul hon o iaith y nefoedd yn bod cyn i Jac Codi Baw fathu鈥檙 gair yn Golwg a鈥檌 gwneud yn eitem wythnosol i droi ati yn awchus. Wrth gwrs, mireiniwyd y 鈥榞refft鈥 gyda dyfodiad peiriannau cyfieithu cyfrifiadurol a鈥檌 dyrchafodd i dir newydd.
Bydd yn rhaid wrth y casgliad hwn. Lolfa. 拢3.95.听

5. Sachaid o Limrigau - Yn gyfartal a Sgymraeg o ran ei hap锚l i mi y mae casgliad Tegwyn Jones o limrigau Cymraeg. Cyfrol y mae rhywun yn synnu inni fedru gwneud hebddi dros yr holl flynyddoedd. Mae yna dros 400 ohonyn nhw, nifer yn ffrwyth cystadleuaeth Limrig y Dydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Barddas. 拢7.95.

6. Gwres y Gegin 鈥 Mi fydd yna ddigon o hyn ddydd Sul heb droi at lyfr. Ond os brysiwch chi, ella bod na鈥檔 dal ddigon o amser i wneud teisen Nadolig munud olaf Heulwen Gruffydd ac i ddarllen hanes yr awdur yn mynd yn sownd mewn bin olwynion. Presant gwerth chweil i bawb nad yw gwres y gegin yn eu llethu. Nifer o awgrymiadau buddiol hefyd. Lolfa. 拢19.95.听听

7. Pleserau鈥檙 Plismon 鈥 Atgofion John Alwyn Griffiths sydd a fflyd o straeon yn deillio o鈥檌 yrfa gyda鈥檙 heddlu fel honno am ddau blismon CID mewn siwtiau tywyll, parchus, yn cnocio ar ddrws yn Sir F么n. 鈥淲edi dod i arestio'ch mab," meddai un wrth y ddynes a ddaeth i鈥檙 drws pen hir a hwyr. "Diolch i'r nefoedd am hynny," medda hithau. 鈥淩oeddwn i'n meddwl mai Jehovah's Witnesses oeddach chi!鈥 Carreg Gwalch. 拢7.50.听听

8. Y S锚r yn eu Tynerwch 鈥 Llyfr teilwng o鈥檙 bwrdd coffi newydd brynith rhywun ichi. Na, o ddifrif r诺an, mae rhywbeth yn arbennig yn y casgliad hwn o luniau am dywyllwch a goleuni鈥檙 nos a dynnwyd gan Gareth Roberts sydd wedi dewis tameidiau o farddoniaeth i fynd efo nhw. Gwell mynegi diddordeb personol; Gareth oedd fy nghartwnydd pan oeddwn yn olygydd Y Cymro. Carreg Gwalch. 拢16.听

9. Wps! 鈥 er mai fel 鈥渃yfrol ddireidus a lliwgar o gerddi doniol gan Dewi Pws鈥 i blant mae hon yn cael hyrwyddo waeth inni gyfaddef ein bod ni i gyd yn blant yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn. Gomer. 拢4.99.听

10. Hoff Gerddi Natur Cymru 鈥 Detholiad derbyniol a difyr ddigon wedi ei olygu gan Bethan Mair yn y gyfres sy鈥檔 prysur dyfu o 鈥榟off gerddi鈥 gan Wasg Gomer. Wrth gwrs, gwelir bod rhai cerddi yn eisiau o blith y cant a gynhwysir ac y mae ambell un y gellid ei hepgor er lles rhywbeth arall ond dyna ran o hwyl y math yma o gyfrol. Gomer. 拢7.99.听

A dyna fy newis personol i 鈥 tybed pa lyfrau fyddech chi yn eu dewis i鈥檞 rhoi neu eu derbyn yn anrhegion . . .?

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.