麻豆社

芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Byw'n dda

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听

Glyn Evans | 06:37, Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2011

Go brin y bydd neb yn dadlau ac yn anghydweld 芒鈥檙 neges yn llyfr diweddaraf Angharad Tomos, Bodlon 鈥 Byw鈥檔 hapus ar lai.

Cri yw鈥檙 llyfr - digon bl锚r, dryslyd a darniog o ran diwyg - am inni fyw yn ddarbodus, yn ddiwastraff, yn syml ac i beidio ag afradu y cyfoeth sydd ar gael inni yn y byd 鈥 er mwyn arbed y byd hwnnw a鈥檌 bobl.

Ac mae hi mor hawdd:
鈥淵 cyfan sydd raid inni ei wneud ydi dysgu bod yn fodlon. Dim ond inni fodloni ar lai, bydd yr ymdrech fawr i ennill arian yn arafu,鈥 meddai.

Bodlon 鈥 Byw鈥檔 hapus ar lai gan Angharad Tomos. Gwasg Gwynedd. 拢7.95.

Ie, yn 么l y testament bach hwn o鈥檙 efengyl seml, yr hyn sydd o鈥檌 le ar y byd yw鈥檙 awch farus i feddiannu. A鈥檙 ateb i hynny yw, gwrthsefyll a rheoli y Dwi ishio greddfol hwnnw sy鈥檔 rhan ohonom ac yn gyrru鈥檙 rhelyw mor ddiarbed.

鈥淒ydyn ni ddim angen arian mawr i fwynhau ein hunain, felly mae angen ailedrych ar ein patrwm gwaith,鈥 meddai.

Hawdd fyddai tybio o鈥檙 llyfr y byddai hynny ynddo鈥檌 hun yn ddigon i achub byd sydd mewn cyflwr go ddyrys 鈥 ond gwyddom hefyd i bethau fynd mor bell fel bod angen, gwaetha鈥檙 modd, llawer iawn mwy i gael yr hen fyd yma at ei goed nag i rai ohonom fyw鈥檔 denau. Efallai bod yr ateb yn syml 鈥 dyw ei weithredu ddim.

Ond go drapia, mae pob tamaid yn help fel y dwedodd y dryw diarhebol hwnnw wrth syllu ar y m么r!

Ond cadw pethau鈥檔 syml yw nod yr awdur ac wrth s么n am ei llyfr yn Y Papur Gwyrdd yn ddiweddar dywedodd nad oes ganddi hi diddordeb o gwbl sut mae cynhesu byd-eang yn digwydd a dywed fod clywed am 么l troed carbon a nwyon t欧 gwydr 鈥測n rhoi鈥檙 felan鈥 iddi.

鈥淒ydw i ddim gwahanol i 99% o bobl Cymru. A sgwennu y llyfr ar gyfer y rhain a wnes i,鈥 meddai.

Pobl fel fi a鈥檓 tebyg, felly, ac ymhlith y cynghorion neu awgrymiadau sut y gallwn achosi llai o niwed i鈥檔 daear y mae; bwyta鈥檔 lleol, peidio gyrru a hedfan gormod, byw yn ddarbodus, peidio gwastraffu, gwisgo dillad ail law, defnyddio llai o drydan, diddosi鈥檔 tai, gweithredu鈥檔 lleol, tyfu鈥檔 bwyd ein hunain, cael gwared o鈥檙 teledu a mwynhau鈥檙 pethau bychain nad oes cost yngl欧n 芒 hwy.

Ar wah芒n i鈥檙 busnes teledu yna go brin y cewch chi neb a fyddai鈥檔 anghydweld yn ffyrnig iawn y gallem fod yn llawer iawn llai gwastraffus ac y mae rhyw ap锚l baradwysaidd mewn darlunio鈥檔 hunain yn troi cefn ar ruthr byw bob dydd a 鈥渄otio at w锚n plentyn, gwylio llygad y dydd, bwydo adar, cofleidio rhywun annwyl鈥 am mai 鈥渄yma鈥檙 pethau sy鈥檔 cyfrif mewn bywyd.
A dydyn nhw鈥檔 costio dim.鈥

Fel y dwedais i, pwy fyddai鈥檔 dadlau 芒 hynny? Mae鈥檔 sicr yn ddelfryd y gwn芒i les inni gyd geisio ymgyrraedd ati, ei chyffwrdd a glynu wrthi; yn yr un modd ag y byddai鈥檔 llesol i bob un ohonom holi hefyd, yn unol a chyfarwyddyd y llyfr, cyn prynu unrhyw beth, 鈥淵dw i wirioneddol ei angen?鈥.

Felly, beth sydd yna ddim i鈥檞 lecio am y llyfr hwn? Dim byd mewn gwirionedd. Ar wah芒n i鈥檞 d么n. Y d么n honno oedd yn fy atgoffa i, o leiaf, o鈥檙 rhai tadol hynny sy鈥檔 gwybod yn well na ni yr anwybodus anoleuedig.

Ac mae gen i ofn i鈥檙 llyfr beri ynof yr ymdeimlad hwnnw o gael fy nhrin fel plentyn a deffro hen, hen, awydd i fod eisiau cicio yn erbyn y tresi a gwrthwynebu gorchmynion di-ben-draw y sawl sy鈥檔 gwybod gymaint gwell na ni.

Gall fe all y gwnewch hyn a鈥檙 peidiwch 芒 gwneud y llall diddiwedd fod yn dreth. Ar gornel un ddalen nodweddiadol, mewn pedair brawddeg o ddim ond rhyw 35 o eiriau, berfau gorchmynnol a ddefnyddir un ar 么l y llall; magwch, ewch, rhowch, perswadiwch . . .

Ac fe鈥檓 cefais yn holi fy hun sawl tro, hefyd, tybed a yw鈥檙 llyfr yn ymylu ar fod yn nawddoglyd hunangyfiawn.

Bendith ar y neges, felly, ond nid ar ei dweud.

Ac yr oedd hynny鈥檔 drueni. Yr oeddwn i gymaint o eisiau cydymffurfio.

麻豆社 iD

Llywio drwy鈥檙 麻豆社

麻豆社 漏 2014 Nid yw'r 麻豆社 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.