Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyfyniadau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 10:49, Dydd Gwener, 11 Tachwedd 2011

A hithau'n wythnos ddwys y cofio mawr detholiad o ddyfyniadau amrywiol o'r Wasg yng Nghymru.

  • Blodyn Dadi - Y pabi coch yng ngeiriau Charlton Fleming dwy oed o'r Rhyl y lladdwyd ei dad, Michael Taylor, oedd yn filwr yn Helmand.
  • Mi ddylsai Peter fod yn paratoi i ddathlu ei ben-blwydd yn naw ar hugain eleni, ond am byth fy mab golygus pedair ar hugain fydd o - Ar drothwy Sul y Cofio mam Peter McFerran o Gei Connah, milwr a laddwyd yn Basra yn 2007, yn cael ei dyfynnu yn heddiw yn sgil rhaglen ar Â鶹Éç Radio Wales, 'The Welsh Fallen'.
  • Fe fydda i'n cerdded 11 milltir cyn seiclo 11 milltir a marchog ceffyl am 11 milltir - Abigail Fisher o Grughywel ym Mhowys sy'n treulio diwrnod ei phen-blwydd yn 11 oed ar 11.11.11 yn codi £1,111 ar gyfer plant sy'n dioddef oherwydd rhyfel.
  • Yr oedd lluniau imi ar y wal. Yr oedd y bechgyn yn canu 'Croeso gartref'. Yr oedd hi'n noson dda - Nigel 'Dragon Man' Bellamy o Grangetown, Caerdydd sy'n cael ei ddisgrifio fel "ultimate fan" rygbi Cymru ar ei ddychweliad o drip £12,000 i Gwpan y Byd.
  • Pam nad yw un o gyflwynwyr gorau'r sianel i'w gweld ar y sgrin erbyn hyn? - Madog Mwyn yn 'Y Cymro' yn gweld eisiau Branwen Gwyn (Wedi 7 gynt) ar S4C ac yn llawenhau y bydd yn cyflwyno o'r Å´yl Gerdd Dant fory.
  • Yr ydym wrth ein boddau bod Imogen yn codi arian - Llefarydd Hosbis Plant UK yn y 'Wales on Sunday' ar ôl clywed bod Imogen Thomas yn mynd i werthu ei holl ddillad sydd â chysylltiad â Ryan Giggs oherwydd yr atgofion cas sydd ynglÅ·n â hwy a rhoi'r arian i'r elusen.
  • 4,500 o ddoleri - yr arian a dalwyd mewn ocsiwn yn Efrog Newydd am ddêt gyda Matthew Rhys fel rhan o'r ymdrech i brynu Llyndy Isaf, Eryri.
  • Fe fyddem ni'n gwir hoffi cael Mary yn ôl - Tors White sy'n gweini wrth y bar yn y 'Vulcan Lounge' yng Nghaerdydd lle mae rhywun wedi dwyn Mary y pysgodyn aur. "Mae'n bysgodyn aur reit fawr o liw oren tywyll gyda bol gwyn," meddai wrth y 'Wales on Sunday'. Hawdd ei adnabod felly.
  • Fe fyddwn i wrth fy modd cael plant. Allai ddim disgwyl symud i'r wlad a chael plentyn un ochr imi a mochyn yr ochr arall - Joanna Page sy'n briod â James Thornton o 'Emmerdale'.
  • Mae'r prinder organau a meinweoedd yn parhau i arwain at farwolaethau a dioddef diangen - Lesley Griffiths AC y Gweinidog Iechyd yn y Cynulliad.
  • Yn anad dim, dyma ddyn sy'n mynegi ei gred trwy gariad ar Dduw ac at gyd-ddyn ac a fu'n gweithio'n egniol inni gael gweld y goleuni mewnol yn disgleirio yn ein calonnau - Archesgob Caergaint am y diweddar Pennar Davies y cofir canmlwyddiant ei eni yfory.
  • Cymaint brafiach ac iachach yw cael cerdded yn yr awel iach a chael mwynhau'r golygfeydd . . . yn hytrach na chwysu mewn ystafell gaeedig yn y ganolfan chwaraeon heb chwa o wynt, dim ond drewdod chwys o'r cyrff eraill sydd yno - Arthur Thomas yn dewis yn 'Y Cymro', gefn gwlad yn hytrach na champfa i gadw'n heini.

  • Mae'n wych cael croesawu merch frwdfrydig, brofiadol i redeg ein prif asiantaeth lenyddol - Harri Pritchard Jones un o gadeiryddion 'Llenyddiaeth Cymru' yn croesawu Lleucu Siencyn yn brif weithredwr newydd.
  • Cawson ni adborth o'r criw ac roedden nhw'n dweud y byddai un yn Llundain yn fwy cyfleus - Aled Siôn, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd, am benderfyniad i gynnal Eisteddfod Sir yn Llundain i gystadleuwyr o'r tu allan i Gymru.
  • Cafodd afael arno gerfydd ei gynffon - Disgrifiad Kirsten Foster-Alexander yn y 'Daily Post' o swyddog o Sw Bae Colwyn yn dal walabi oedd wedi dianc oddi yno.
  • . . . y ffaith i fodryb y brenin Harri VI (1422-1461) farw yng nghastell Biwmares wedi'i charcharu am geisio defnyddio celfyddyd ddu i ladd y brenin a gwneud ei gŵr yn frenin - Tony Carr yr hanesydd yn sôn, yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y 'Daily Post', am un o'r straeon difyr mewn argraffiad newydd o'i lyfr 'Medieval Anglesey.
  • Mae o fel algebra, ac mae gorfod newid y clociau'n fy nrysu i'n rhacs. Dilyn yr haul, hwnna ydi o - Bethan Gwanas, yn 'Yr Herald Cymraeg', yn anhapus â'r drefn o droi clociau yn ôl ac ymlaen fisoedd Hydref a Mawrth.
  • Ieuan a Carwyn mewn rhyfel geiriau rhyfeddol - Dydi pethau ddim yn dda yn y Cynulliad rhwng dau a fu'n cydweithio mor glos pan oedd 'Cymru'n un' yn ôl pennawd y 'Western Mail' ddydd Mercher.
  • Os ffrind, ffrind am oes - Anamika, bardd o India ar drothwy ymweliad beirdd o Gymru â'r wlad, Siân Melangell Dafydd, Robert Minhinnick, Twm Morys ac Eurig Salisbury.
  • Fe brynais bob un o'i lyfrau a'i recordiau ac rwy'n cofio adrodd ei farddoniaeth i fy mhlant nes eu bod wedi eu dysgu ar eu cof - y cyn Arlywydd Jimmy Carter y bydd ei lais yn croesawu ymwelwyr â chartref Dylan Thomas yn Abertawe.
  • Lloegr gyda Gareth Bale a sanau cochion fyddai tîm Prydain - Alun Pugh, cyn weinidog chwaraeon y Cynulliad, yn gwrthwynebu, mewn colofn yn y 'Daily Post', y syniad o dîm pêl-droed Prydeinig ar gyfer y gemau Olympaidd.
  • 52 o bunnau - Pris crys pêl-droed tîm Olympaidd GB. "Fyddan nhw ddim yn hedfan oddi ar y silffoedd," proffwyda Malcolm Clarke, cadeirydd Ffederasiwn y Cefnogwyr Pêl-droed.

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.