Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Gair yn lei

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 12:56, Dydd Iau, 20 Hydref 2011

Mymryn yn gynt yr wythnos hon - gan y bydd sawl un yn brysur beth cyntaf bore fore.

A beth bynnag y canlyniad bydd yna ddigon o hen siarad wedyn. Dim ond gobeithio y bydd yn sgwrs yn un brafiach na honno'n dilyn y gêm yn erbyn Ffrainc yr wythnos diwethaf.

Ein detholiad arferol o sylwadau a wnaed yn ystod yr wythnos.

  • Coch. Cerdyn coch yw e - Wyn Gruffydd yn sylwebu ar y gêm rygbi rhwng Cymru a Ffrainc yng Nghwpan y byd.
  • Alla nhw ddim ei roi yn yr arch efo mi pan fyddai'n mynd felly rydw i wedi penderfynu ei bod hi'n amser i rywun arall gymryd drosodd - John Marek, cyn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Wrecsam sydd wedi penderfynu gwerthu simddai Victoraidd hen fragdy'r dref y bu'n gofalu amdani er mwyn ei diogelu.
  • Fel aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain rwy'n cefnogi deiseb Cymdeithas yr Iaith - T James Jones yr Archdderwydd yn cefnogi'r ymgyrch i sicrhâi bod Cofnod y Cynulliad yn gwbl ddwyieithog.
  • Mae sawl peth yn awgrymu nad yw rhoi swaden i blentyn yn gwir weithio. Mae ymchwil wedi dangos ei fod yn brifo plentyn yn feddyliol yn ogystal ag yn gorfforol - Christine Chapman AC yn cefnogi symudiad gan y Cynulliad i wahardd yn gyfan gwbl daro plant i'w disgyblu.
  • Hen ddeinosor Llafur - Kirsty Williams AC, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn disgrifio Peter Hain AS, llefarydd Llafur ar Gymru.
  • Mae wedi bod yn anodd iawn i ddarbwyllo Aelodau Seneddol o Loegr be yn union ydy cefndir sefydlu'r Sianel yn y lle cyntaf a pha mor bwysig ydy'r Sianel i bobol yr iaith Gymraeg - Aled Roberts AC yn .
  • Mae o wedi bod yn gyfnod anodd iawn i ddweud y gwir achos mae rhywun yn sôn am 93 o flynyddoedd o fusnes, a hwnnw'n fusnes teuluol - Elfyn Thomas, rheolwr cwmni newydd fydd yn cymryd lle hen gwmni Seren Arian a fu'n nwylo gweinyddwyr.
  • Diwrnod delfrydol i mi fyddai codi ar doriad gwawr, cerdded ym mynyddoedd Eryri, ac aros mewn pabell drios nos i weld y wawr yn torri'r diwrnod canlynol - Tudur Dylan Jones yn gorffen brawddeg yn rhifyn mis Hydref o WA-w!
  • Yn ara bach a fesul tipyn
    Mae stwffio bys i din gwybedyn - Twm Elias yn yn dewis ei hoff ddywediad yn yr un rhifyn o WA-w!
  • Dydw i ddim yn rhyw wylliad canoloesol sy'n mynd i roi fy ngwraig a mhlant mewn ogof yng Nghymru - Rhys Ifans yn dweud na fyddai'n gorfodi ei gariad Anna Friel i fyw yng Nghymru pe bydden nhw'n cael plant er mai byw yma fyddai ei ddymuniad. Dywedodd hefyd, meddai'r 'Western Mail ddydd Llun, nad yw, yn 44 oed, yn rhy hen i fod yn dad. "Dydi dynion byth yn rhy hen i gael plant; fe allent fod yn rhy hen i fod yn dadau ond dydw i ddim yn meddwl fy mod i'n rhy hen eto i fod yn dad. Mi fyddwn wrth fy modd cael plant."
  • Beth oedd yn ein pryderu oedd nifer y seiclwyr yn gwibio drwy'r ardaloedd siopa prysur fel pe bai o bob cyfeiriad. Ymddangosai bod seiclwyr yn gwbl anystyriol o'r peryglon i gerddwyr ac iddyn nhw eu hunain - Llythyr yn y 'Western Mail' ddydd Llun gan Alan a Stephanie Speake o Gaerfyrddin yn dilyn ymweliad â Chaerdydd.
  • Mae eisiau pobol i drafod efo gwên ar eu hwynebau a hyder yn eu calonnau - Yr Arglwydd Roberts o Landudno yn galw am lai o wrthdaro a phrotestio yn y drafodaeth am ddyfodol teledu Cymraeg. Yn 'Golwg' dywedodd fod dulliau Cymdeithas yr Iaith yn "mynd yn ôl hanner can mlynedd".
  • Mae sgrifennu yn hyfrydwch a dweud y gwir - Harri Parri yn 'Golwg'.
  • Seasiders - Daeth ymchwiliad i'r casgliad mai dyma oedd cefnogwyr pêl-droed Brighton yn ei weiddi yn ystod gêm yr oedd Craig Bellamy yn chwarae ynddi. Cwynodd gwyliwr teledu i Bellamy gael ei sarhau yn hiliol gan dybio mai 'Sheep sh****r' oedden nhw'n i weiddi.
  • Tra'r ydym ni'r Cymry yn ddigon crintachlyd ag i ymfalchïo mewn gweld y Saeson yn colli gymaint ag yr ydym yn ymfalchïo mewn buddugoliaeth Gymreig, collwrs fyddwn ni am byth - Llythyrwr yn y 'Daily Post' ddydd Mercher, Gareth Hughes, Bethel.
  • Rolland Rat - Pennawd yn y 'People' yn cael ei ddyfynnu ar 'Raglen Dewi Llwyd' fore Sul yn dilyn cerdyn coch Alain Rolland i Sam Warburton.
  • Yn y bôn, dau dîm a'u cynffonau rhwng eu coesau sy'n chwarae, dau dîm oedd tan ychydig ddiwrnodau'n ôl yn gobeithio codi Cwpan y Byd - Rhodri Llywelyn yn blogio am y gêm y bore ma rhwng Cymru ac Awstralia.


Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.