Â鶹Éç

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bagliad masweddus

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 15:46, Dydd Sul, 9 Hydref 2011

Cymerodd cyfathrach rywiol - ddrwg gen i, mi ddechreuai eto; Cymerodd cyfathrebiad am eiriau rhywiol Cymraeg, y soniais amdano ychydig yn ôl, rhwng golygydd ac un o ysgolheigion Prifysgol Bangor, gam ymlaen gyda chyhoeddi rhifyn mis Hydref o'r cylchgrawn.

Yn hwnnw, gwelaf i Vaughan Hughes a Siân Cleaver fod mewn cysylltiad â'i gilydd ers sylwadau ymosodol Vaughan.

A'r canlyniad yw nad oedd pethau fel yr ymddangosent i Vaughan ar yr olwg gyntaf.

Dan y pennawd 'Cwympo ar fy Mai' dywed yn awr:

"Llawenydd o'r mwyaf imi yw deall gan Ms Cleaver na wnaeth hi erioed awgrymu'r fath beth [bod yna ddiffyg geirfa rywiol yn y Gymraeg]. Mae hi'n dweud wrtha i hefyd bod ganddi yn ei meddiant gasgliad cynhwysfawr o eiriau a thermau a dywediadau masweddus Cymraeg. "

Wel da iawn hi, medda finna. Mae'n fwy diddorol na hel stampiau siwr o fod.

Ond yn ôl at Vaughan sy'n cadarnhau hefyd ei bod hi, Siân, yn gyfarwydd a gwaith Gwerful Mechain.

Aiff ymlaen hefyd i ddweud:
"Soniais yn fy ngholofn bod gan fy nghyfoedion a minnau ers talwm doreth o eiriau Cymraeg cyhyrog ar gyfer yr ystod rhyfeddaf a mwyaf mabolgampaidd o weithgareddau rhywiol.

"Diddorol - yn enw ysgolheictod yn unig, bid siŵr - fyddai i Siân Cleaver a minnau gyfnewid geirfaoedd."

Nawr mae honno yn sgwrs y byddwn i wrth y modd bod yn dyst iddi hi - ond yn anffodus mae Vaughan yn rhyw ofni na ddigwydd:

"Ofnaf, fodd bynnag, na fydd ganddi'r awydd lleiaf i ymgyfathrachu ag un fel fi a fwriodd sen - a hynny'n hollol ddi-sail - ar ei herotigrwydd ysgolheigaidd."

Ond diawch, fe allen nhw o leiaf regi ar ei gilydd . . .

Ond fel y dywed Vaughan: "Dylwn ddiolch iddi am ymatal rhag fy ngalw wrth yr hyllaf a'r mwyaf ysglyfaethus o'r enwau sydd i'w cael yn ei chasgliad helaeth o eiriau masweddus."

Da gweld fodd bynnag fod cyfathrach ysgolheigaidd doeth a syber rhwng deallusion yn dal yn bosibl yn y Gymraeg.

A go brin mai fi yw'r unig un sy'n disgwyl yn eiddgar am gael gwybod mwy am y "rhyfeddaf a mwyaf mabolgampaidd o weithgareddau rhywiol" yna o eiddo Vaughan ar ddalennau un o rifynnau nesaf Barn.

Efo lluniau wrth gwrs . . .

Jyst y peth i lenwi'r rhifyn Dolig?

Â鶹Éç iD

Llywio drwy’r Â鶹Éç

Â鶹Éç © 2014 Nid yw'r Â鶹Éç yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.